PodParley PodParley
Lleisiau Cymru

PODCAST · society

Lleisiau Cymru

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

  1. 64

    Cyfres 2, Pennod 4: Partneriaid

    Yn y bennod hon, partneriaid sy'n cael sylw, ac mae Mari'n cael cwmni Catrin Jenkins sy'n wraig i Robert a gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2018, a Gwyn Loader sy'n ŵr i Lowri a gafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2022.

  2. 63

    Cyfres 2, Pennod 3: Dynion

    Yn ymuno â Mari yn y bennod hon mae Meirion Davies, ffermwr o ardal Caerfyrddin a gafodd ganser y prostad bedair blynedd ar ddeg yn ôl, a Dr Harri Pritchard o Ynys Môn, a gafodd ganser y coluddyn yn 2024. Mae’r ddau yn rhannu eu profiadau ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw siarad yn agored.

  3. 62

    Cyfres 2, Pennod 2: Tair o'r un teulu

    Yn fuan wedi diagnosis Mari, cafodd Elan ei chyfnither a Lisa ei chwaer hefyd ddiagnosis o ganser y fron. Mae'r dair yn trafod y profiad swreal o fod yn cael triniaeth am ganser ar yr un pryd ac yn cymharu profiadau.

  4. 61

    Cyfres 2, Pennod 1: Mari

    Ddwy flynedd ers y gyfres gyntaf, Dr Llinos Roberts sy'n cadw cwmni i Mari wrth iddi rannu'r diweddaraf am ei siwrne hi â chanser.

  5. 60

    Lisa Fearn

    Y cogydd Lisa Fearn sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod tyfu cynnyrch ei hun a’i ddefnyddio yn ei choginio. Mae hi hefyd yn trafod yr ysgol goginio a sut mae tyfu a choginio yn ddylanwad positif nid yn unig ar blant ifanc ond oedolion hefyd.Cawn hefyd glywed gan Kim a drodd at arddio yn ystod cyfnod anodd yn ei bywyd. Ei llwyddiant mwyaf oedd tyfu blodau’r haul yn ei gardd yng Nghaernarfon a blwyddyn yma ei phrif ffocws fydd i dyfu mwy o flodau.Naomi sy’n trafod sut ddaru ei chariad at dyfu cychwyn gydag obsesiwn am blanhigion tŷ a’r her mae hi wedi gosod i’w hun eleni o dyfu ei blodau priodas.Meinir sy’n nodi’r jobsys fydd hi’n eu gwneud yn yr ardd ar ddiwedd Mawrth gan gynnwys hau hadau tomatos a chilli a phlannu bylbiau’r haf mewn potiau a’r borderi.

  6. 59

    Al Lewis

    Y canwr a’r cyfansoddwr Al Lewis sy’n ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei gyfnod yn tyfu ar randir, y pwysigrwydd o ddangos i’w blant o ble mae bwyd yn dod a’i ardd ddinesig yng Nghaerdydd.Cawn hefyd glywed gan Mari sydd wedi bod yn byw a’n gweithio fel warden ar Ynys Enlli. Yn fuan ar ôl cyrraedd, fe adeiladodd Mari dwnnel tyfu ar yr ynys heb brofiad o dyfu cynnyrch ei hun cyn hynny. Bellach, mae cynhyrchu a thyfu bwyd yn rhan fawr o fywyd Mari.Owen sy’n trafod sut mae garddio yn ystod ei blentyndod wedi siapio’r hyn mae o’n ei wneud heddiw ac mae o bellach yn astudio pensaernïaeth tirwedd yn y brifysgol.Meinir sy’n nodi’r jobsys fydd hi’n eu gwneud yn yr ardd fis Mawrth gan gynnwys cychwyn plannu tubers dahlia a meithrin toriadau Lelog a Weigela.

  7. 58

    Eilir Evans, CPD Felinfach

    Pan nad yw'n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy'n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau'r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae'n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o'u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a'u cymunedau nhw'n bodoli ac yn ffynnu.

  8. 57

    Merched Caernarfon

    Mae tîm merched Caernarfon bellach yn rhan swyddogol o'r clwb. Andy sy'n cael clywed mwy. Andy visits his beloved Oval in Caernarfon.

  9. 56

    Pennod 4: Eleri Siôn

    Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Eleri Siôn a chael croeso mawr yn ei chartref. O’r Ewros i bianos, a phobi bara yn y Barri – mae’r oll sydd yn ei thŷ yn sbardun am stori!

  10. 55

    Pennod 2

    Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol a arweiniodd at frwydr Cilmeri a marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.

  11. 54

    Pennod 1

    Stori am frwydr, dewrder, brad a gwladgarwch; Aled Hughes sy’n holi pwy oedd Llywelyn Ein Llyw Olaf a beth yn union ddigwyddodd iddo? Yr hanesydd Euryn Roberts sy’n cyflwyno’r cyd-destun hanesyddol a’r llinell amser gan ddechrau yn y degawdau cyn marwolaeth Tywysog olaf Cymru yn 1282.

  12. 53

    Nantlle Vale

    Kim, Sue a Sara sy'n cadw cwmni i Andy Walton yn Maes Dulyn, Penygroes.

  13. 52

    Richard Jones, Bont F.C.

    Richard Jones, neu 'Dicky Mint' sy'n sgwrsio hefo Andy am glwb Bont FC, Pontrhydfendigaid

  14. 51

    Enlli a Chadwraeth

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?Siân Stacey ac Elinor Gwynn sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod sawl Beth Petai? sy'n gysylltiedig gydag Ynys Enlli a chadwraeth yn gyffredinol.

  15. 50

    Papur Newydd Dyddiol Cymraeg

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?Aled Gruffydd Jones sy'n cadw cwmni i Dylan ac yn trafod y wasg Gymraeg a'r syniad o bapur newydd dyddiol yn y Gymraeg.

  16. 49

    Porthladdoedd a Phrifddinasoedd

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl? Elin Haf Gruffydd Jones a Rhys Jones sy'n trafod rhai o ddinasoedd a threfi Cymru gyda Dylan Iorwerth: Beth Petai Caerdydd ddim yn brifddinas? Beth petai Porthdinllaen yn brif borthladd i Ogledd Cymru yn lle Caergybi? Beth petai'r Llyfrgell Genedlaethol mewn tref arall?

  17. 48

    Chwaraeon

    Beth petai rywbeth mawr wedi digwydd yn wahanol, neu heb ddigwydd o gwbl?Mei Emrys a Ffion Owen sy'n ymuno gyda Dylan Iorwerth i drafod sawl "Beth Petai?" o'r byd chwaraeon.

  18. 47

    Pennod 3: Mari Lovgreen

    Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Mari Lovgreen a chael croeso mawr yn ei chartref. Mae’r trugareddau celfyddydol yn ei thŷ yn llawn hanesion am ei bywyd - o delynau i doiledau, a phob dim yn y canol!

  19. 46

    Pennod 2: Nic Parry

    Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Nic Parry a chael croeso mawr yn ei gartref. Yn gyn-farnwr, sylwebydd pêl-droed ac arweinydd nosweithiau cerddoriaeth bop, mae gan Nic Parry lwyth o drugareddau celfyddydol yn ei dŷ sy’n ei atgoffa o gyfnodau amrywiol yn ei fywyd!

  20. 45

    Gwersi Dolgarrog

    Bu farw 16 o bobl yn nhrychineb Dolgarrog, yn 1925, pan dorrodd dau argae uwchben y pentref. Mae Hywel Griffiths yn ddarlithydd daearyddiaeth ac yn y rhaglen hon, mae'n olrhain yr hanes ofnadwy hwn, gan ofyn pa wersi a ddysgwyd o 1925? Yn sicr, cyflwynwyd mesurau diogelwch newydd yn 1930 yn sgil Dolgarrog, a ’does yr un drychineb debyg wedi digwydd ers hynny - ond mae ofn llifogydd yn parhau. Mae Hywel yn holi’r Athro Mererid Puw Davies sut mae’r ofnau hyn yn lliwio ein dychymyg, o’r Dilyw Beiblaidd a chwedl Cantre’r Gwaelod i’r nofelau diweddara. Mae Dr Cerys Jones yn egluro sut y gall newid hinsawdd olygu y bydd stormydd glaw a llifogydd yn fwy dwys ac yn digwydd yn amlach. Ystyriwn y tywydd eithafol diweddar yng Nghwm Rhondda a Valencia; ac ystyriwn sut y llwyddwyd i osgoi trychineb yn Blatten - ond methu yn Guadalupe ac Alau. Mae angen dysgu o wersi'r gorffennol o hyd er mwyn osgoi trychinebau fel Dolgarrog

  21. 44

    Gwen y Wrach a Fi

    Mae Gwenllian Ellis, neu Gwen, wastad wedi bod eisiau gwybod mwy am Gwen Ellis arall. Yn 1594 cafodd Gwen ferch Ellis o Landyrnog ei chrogi ar grocbren sgwâr Dinbych ar gyhuddiad o fod yn wrach. Hi oedd y person cyntaf i gael ei chrogi am witshgrafft yng Nghymru. Yn y podlediad, Gwen y Wrach a Fi, mae Gwenllian Ellis yn mynd ar daith i ddarganfod pwy oedd Gwen y ferch, y chwaer, y ffrind, y wraig, y swynwraig a’r iachawraig, a pham rhoi’r gosb eithaf iddi. O ymweld â sgwâr Dinbych lle dreuliodd hi ei heiliadau olaf, i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lle mae cofnodion llys Gwen yn cael eu cadw, i Eglwys Llansanffraid ger Glan Conwy lle casglodd tystion i roi tystiolaeth yn ei herbyn, mae Gwenllian yn dod i ddeall mwy am stori Gwen a beth mae ei hanes yn ei ddweud wrthi am fod yn ferch heddiw. Ar ei thaith mae’n cael cwmni Holly Gierke, Ruth Williams, Dr Gareth Evans Jones, Dr David Moore a Siân Melangell Dafydd.Cyflwynydd: Gwenllian Ellis Cynhyrchydd: Anna George Sain: Richard Durrell

  22. 43

    Kiri Pritchard-McLean

    Kiri Pritchard McLean sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i sgwrsio am bopeth sy'n ymwneud â garddio! Ar ôl iddi ddychwelyd yn ôl i dŷ fferm y teulu, fe ddechreuodd gymryd diddordeb mewn tyfu ei chynnyrch ei hun yn enwedig dros y cyfnod clo. Bellach, mae ganddi brosiect go arbennig ar y gweill sy’n golygu tyfu llysiau a ffrwythau ar raddfa uwch gyda’r gobaith o allu darparu bocsys i fwydo aelodau o’r gymuned leol. Louise o Lanilltud Fawr sydd wedi darganfod y pleser o dyfu ei bwyd ei hun dros y blynyddoedd diwethaf ac Alex sy’n trafod yr hyn sydd wedi ei hysbrydoli i dyfu ei blodau ei hun adref.

  23. 42

    Hywel Pitts

    Wedi haf llawn gigs, mae Hywel yn cymryd seibiant haeddianol ac yn ymuno efo Meinir Gwilym i drafod ei ardd drefol yn y bennod yma o’r Podlediad Garddio. Mae Hywel wrth ei fodd yn tyfu llysiau a pherlysiau a’i gariad o goginio yn helpu iddo gynllunio’r hyn mae o am ei dyfu yn yr ardd yn flynyddol.  Anne sy’n trafod yr ardd fuodd hi’n brysur yn ei greu ar gyfer ei phlant ifanc a sut mae hynny wedi esblygu iddi bellach allu ei rannu gyda’r gymuned leol. Gregg sy’n trafod y tro yn ei yrfa pan gychwynnodd ei fusnes garddio ei hun a beth mae hynny’n ei olygu iddo fel unigolyn newroamrywiol.

  24. 41

    Y Brotest

    Yn 1985 gwnaeth cynlluniau dadleuol Cyngor Dosbarth Caerfyrddin i adeiladu byncer yn y dre ysgogi ar brotestiadau gan gannoedd o ymgyrchwyr heddwch. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae'r rheiny oedd yn ei chanol hi’n adrodd yr hanes, ac yn ystyried pa mor real yw’r bygythiad niwclear o hyd?

  25. 40

    Y llythyren G

    Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren G sydd dan sylw.

  26. 39

    Y llythyren E

    Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren E sydd dan sylw.

  27. 38

    Y llythyren A

    Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren A sydd dan sylw.

  28. 37

    Y llythyren R

    Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren R sydd dan sylw.

  29. 36

    Y llythyren M

    Ymunwch gyda Francesca Sciarillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud a’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy ... ac yn y bennod hon y llythyren M sydd dan sylw.

  30. 35

    Y llythyren Y

    Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren Y sydd dan sylw.

  31. 34

    Y llythyren C

    Ymunwch â Francesca Sciarrillo a Stephen Rule i drafod pob math o bethau’n ymwneud â’r Gymraeg. Ym mhob pennod maen nhw’n dewis llythyren o’r gair Cymraeg, ac yn trafod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythyren yna. Tarddiad geiriau, hoff eiriau, cas eiriau, profiadau’r ddau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg a llawer mwy... ac yn y bennod hon y llythyren C sydd dan sylw.

  32. 33

    Mandy Watkins

    Y cynllunydd tai, Mandy Watkins sy’n ymuno gyda Meinir Gwilym i drafod gwaith adnewyddu ar ei thŷ fferm a’r ardd lle mae hi wedi bod yn byw dros y ddeng mlynedd diwethaf ar Ynys Môn. Mae hi’n galw ei hun yn ‘reluctant gardener’ ar ôl sylweddoli’r holl waith oedden nhw’n ymgymryd unwaith i’r teulu gychwyn adnewyddu Rallt. Yn y bennod yma, mae Mandy yn hel atgofion o’i chymdogion oedd yn garddio yn ystod ei phlentyndod a sut ddaeth yn fwy o ddiddordeb iddi yn ystod y cyfnod clo. Fel cynllunydd, mae Mandy yn casglu ysbrydoliaeth o bob man wrth iddi freuddwydio am yr ardd berffaith - er, mae garddio yn dibynnu ar lawer mwy o ffactorau na chynllunio tai! Lowri Ifor sy’n sôn am her go fawr a wynebodd eleni wrth iddi dyfu blodau ar gyfer ei phriodas ym mis Mai. Fel rhywun oedd wedi gwneud ychydig o arddio cyn hynny, mae hi’n sôn am ei phrofiad o dyfu mewn potiau rhan fwyaf, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo. A fuodd yr holl waith tyfu eleni yn llwyddiannus? A be sydd ar y gweill nesaf yn yr ardd? Rachel Griffiths a gychwynnodd garddio yn ystod ei chyfnod mamolaeth sy’n siarad am ei phrofiadau o arddio gyda’i phlant bellach. Fe gychwynnodd y diddordeb fel rhywbeth i’w wneud oedd yn wahanol i ddelio gyda’r holl boteli a napis!

  33. 32

    Dafydd Iwan

    Dafydd Iwan sy’n ymuno gyda Meinir i drafod tyfu llysiau yn yr ardd. Yn ddiddordeb sydd wedi dod yn fwy amlwg iddo dros y deng mlynedd diwethaf, mae’n cael boddhad o ailgysylltu gyda natur. Mae codi yn y bore i weld be sydd wedi egino yn un o bleserau mawr bywyd bellach.Yn y bennod yma, mi fydd Dafydd yn hel atgofion am ei blentyndod ac am ei ddiweddar frawd, Huw a’r rôl oedd garddio yn ei gymryd ym mywydau aelodau blaenllaw'r teulu.Cawn hefyd glywed gan Sam sy’n rhedeg gardd farchnad Llysiau Menai ar Ynys Môn. Yno, mae’n tyfu cynnyrch tymhorol ar ddarn o dir dros acer. Fel bachgen ifanc, fuodd o’n tyfu a’n garddio efo’i deulu cyn gweithio ar sawl fferm llysiau ac yna sefydlu ei ardd farchnad ei hun.Lleu sy’n trafod tyfu ar ei randir yng Nghaerdydd. Fe gychwynnodd garddio ar y tir tua 10 mlynedd yn ôl a’n defnyddio dulliau traddodiadol o droi'r tir, ond ar ôl datblygu poen cefn fe aeth ati i ymchwilio’r dull di-bal (no dig).Meinir sy’n mynd ati i ateb un o’ch cwestiynau chi, gydag un o wrandawyr y podlediad yn holi am awgrymiadau o blanhigion sy’n gwrthsefyll cyfnodau hir o sychder. Ym Mhant y Wennol, mae’r nepeta yn ffynnu mewn cyfnodau sych.Ar y rhestr o jobsys yn yr ardd wythnos yma, mae’r lafant angen ei dorri’n ôl (gyda’r gobaith o ddefnyddio’r blodau mewn bisgedi Berffro!).

  34. 31

    Ffion Emyr

    Ffion Emyr sy’n ymuno â Meinir i drafod ei gardd fodern yng nghanol tref Caernarfon. Yn brosiect ddaru Ffion ymgymryd yn ystod 2020 tra oedd Ffion a’i phartner adref, pa ffordd well i wario’r cyfnod clo nac i weithio ar yr ardd? Elfen bwysig oedd datblygu mannau er mwyn adlonni ffrindiau a theulu ac i gael rhywle addas (a gwahanol) i fwyta brecwast, cinio a swper yn yr ardd. Mae’r ardd hyd yn oed wedi ennill gwobr yr ardd orau yng Nghaernarfon.Gan fod Ffion yn disgwyl babi a’r nythu wedi cicio i mewn go iawn - mae hi hyd yn oed wedi bod yn dystio’r sied a hwfro’r glaswellt (oes, mae ganddi laswellt ffug ac os oes unrhyw un yn cael maddeuant am hynny, Ffion ydi’r un!). Oes lle iddi addasu’r ardd yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud yr ardal yn fwy ‘child friendly’ ac wrth feddwl am y dyfodol, ydi Ffion am fentro i dyfu fwy o’i chynnyrch ei hun?Fe fyddwn ni hefyd yn clywed gan Siôn sy’n trafod prosiect GwyrddNi sy’n fudiad gweithredu ar newid hinsawdd gymunedol. Mae’r prosiect yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau garddio cymunedol ac wedi helpu sefydlu rhandiroedd yn ardal Dyffryn Nantlle.Lowri sy’n sgwrsio am droi ei hoffter o dyfu blodau mewn i fusnes. Wrth ddod mewn i’w hail dymor tyfu eleni mae Lowri yn trafod dod yn fwy ymwybodol o gost prynu blodau sydd wedi eu mewnforio.

  35. 30

    Yws Gwynedd

    Yws Gwynedd sy’n ymuno â Meinir Gwilym i drafod tyfu llysiau yn y bennod hon. Yn weithgaredd y dechreuodd ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn ceisio byw bywyd iachach, mae angerdd amlwg Yws am arddio wedi mynd cam ymhellach ar ôl iddo benderfynu adeiladu tŷ newydd yn agosach at y patsh llysiau! Wrth fyw bywyd prysur, sut mae treulio amser yn yr ardd yn helpu Yws o ddydd i ddydd ac ydi hynny’n ysbrydoli ei ochr greadigol? Byddwn hefyd yn clywed gan Gareth, athro ac arweinydd awyr agored Ysgol Fferm Saltney Ferry, a bydd Kayleigh yn siarad am ei phrofiadau o werthu'r cartref teuluol er mwyn prynu dwy acer o dir gyda’r gobaith o fyw bywyd sy’n fwy hunangynhaliol.

  36. 29

    Un Cam gydag Elin Fflur

    Elin Fflur sydd yn ceisio dod i ddeall pam bod yna gynnydd mawr mewn merched yn rhedeg.Mae merched o bob oed, bob cefndir, a phob lefel ffitrwydd yn penderfynu rhoi'r esgidiau rhedeg ymlaen a chamu allan o'r tŷ, yn aml i'r tywyllwch neu'r glaw. Ai ffitrwydd yn unig yw’r rheswm dros hyn?Mae Elin yn siarad efo grwpiau rhedeg Môn Girls Run, Mae Hi'n Rhedeg, Smiles and Miles, Genod Gelert ac Anwen Jones.

  37. 28

    Rhys Miles Thomas

    Mae Rhys Miles Thomas wastad wedi eisiau gwneud pethau'n wahanol. Ers pan yn fachgen o Alma, yn Sir Gaerfyrddin, fe ymdrechodd i roi gogwydd gwahanol ar y traddodiadol a herio drwy rannu ei neges ei hun.Gyda gyrfa lwyddiannus fel actor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, coreograffydd ac awdur, roedd ei ddyfodol yn ddisglair ar lwyfan byd-eang.Er hyn fe ddaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol, i'w herio yn ei fyd proffesiynol a'i fywyd personol. Gyda sawl blwyddyn heb symptomau, fe gynyddodd her y cyflwr gan gyfyngu ar ei allu i wneud tasgau y byddai wedi eu gwneud heb drafferth ychydig flynyddoedd ynghynt. Daw pwysigrwydd cefnogaeth deuluol i'r amlwg, ond hefyd y rhwystredigaethau a ddaw yn ei sgil.Mae stori Rhys yn onest, yn feirniadol ar adegau ac yn amrwd. Gyda hyn, cawn obaith, gweledigaeth glir a deheuad am fyd cynhwysol a chyfartal i'r gymuned anabl. Hyn oll, wrth i'r byd 'Feddwl Yn Wahanol' am anabledd.

  38. 27

    Kristy Hopkins

    Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n westai ar bennod 2 o ‘Meddwl yn Wahanol’. Cardi yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, mae Kristy yn gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu.Darganfu Kristy ei bod yn fyddar pan oedd yn 8 oed, pan nad oedd yn canolbwyntio yn yr ysgol. Er iddi gael y diagnosis, roedd ffordd hir o’i blaen cyn iddi deimlo’n ddigon hyderus i wisgo cymhorthion clyw a byw ei bywyd fel person byddar.Bellach, yn athrawes i blant a phobl ifanc byddar yn Ne Cymru, mae hi hefyd yn ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu hi a’i theulu, gan annog pawb i ddysgu rhywfaint o Iaith Arwyddo Prydain.Daw’r awch i weithredu wedi i’w merch gael ei geni’n hollol fyddar. Cawn glywed am eu taith wrth iddi benderfynu rhoi mewnblaniad cochlear i’w merch, a’r cymhlethdodau a ddaeth yn sgil hynny.Er gwaethaf y cyfnodau tywyll, mae ysbryd cadarn Kristy yn disgleirio wrth iddi rannu ei buddugoliaethau a'i gweledigaeth o fyd byddar i blant y dyfodol.

  39. 26

    Beth Frazer

    Y gantores Beth Frazer o Ynys Môn yw gwestai pennod gyntaf Meddwl yn Wahanol. Ar ôl rhyddhau ei senglau pop cyntaf yn 16 oed, fe wnaeth Beth fwynhau cyfnod prysur o berfformio ar hyd Cymru a Lloegr.Ond ymhen ychydig iawn o amser fe newidiodd ei bywyd yn llwyr. Ar ôl dioddef poenau yn ei llygad, fe gychwynnodd cyfnod hir o driniaeth a arweiniodd at ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd.Mae Beth yn trafod yr effaith ar ei chorff a’i iechyd meddwl, yn egluro sut y gwnaeth ei theulu ei chynnal drwy’r cyfnodau mwyaf anodd ac yn rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol.

  40. 25

    Porthmadog

    Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.Un o gewri’r fro sy’n cael sylw y tro hwn. Mae Porthmadog yn chwarae yn y drydedd haen ar hyn o bryd, ond mae rhai o gymeriadau’r clwb yn dadlau mai yn Uwch Gynghrair y mae eu lle!

  41. 24

    Llanberis a Llanrug

    Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.Dim ond 4 milltir sy’n gwahanu’r gelynion. Mae Andy yn derbyn her i wylio hanner gêm yn Llanberis cyn gyrru draw mewn pryd ar gyfer yr ail hanner yn Llanrug.

  42. 23

    Mynydd Llandegai

    Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.Tra’n byw ym Methesda, roedd Andy’n gefnogwr selog o glwb ‘Mynydd’. Cyfle iddo fynd yn ôl at gymeriadau’r fro.

  43. 22

    Pennod 6: Aled Siôn Davies

    Fel un o athletwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mae Aled Siôn Davies wedi ennill medalau aur mewn gemau Paralympaidd a gemau’r Gymanwlad ar draws ei yrfa anhygoel. Yn y bennod yma, bydd Nigel yn dysgu am y pwysau enfawr o fod ar y brig dros gyfnod hir a’r effeithiau mae hyn yn cael ar y corff a’r meddwl. Fel plentyn, buodd Aled drwy nifer o lawdriniaethau i helpu ei anabledd ac mae e’n dal i ymladd drwy anafiadau a llawdriniaethau di-ri hyd heddiw. Gyda gemau’r Gymanwlad yn 2026 ar y gweill, bydd Aled yn datgelu ei obeithion am y bencampwriaeth a’r dyfodol.

  44. 21

    Y Felinheli

    Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.Caiff Andy ddod i adnabod y cymeriadau sy’n cynnal clybiau dynion a merched pentref y Felinheli.

  45. 20

    Pennod 5: Iwan Roberts

    Fel y Cymro mwyaf poblogaidd yn Norwich, mae Iwan Roberts wedi ymgartrefu yn y ddinas ers blynyddoedd ar ôl gyrfa llawn uchafbwyntiau hoffus. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu mwy am gyfnodau anodd gyrfa Iwan, a sut ddeliodd gyda’r pwysau o fod yn ddihiryn cyn troi’n ffefryn gyda chefnogwyr Norwich. Bydd Iwan yn edrych yn ôl ar yr adegau mwyaf cofiadwy o’i yrfa, a chlywn am sut wnaeth ei ddyddiau cynnar lunio ei chwarae ar y cae. Nawr yn lais adnabyddus ar ein darllediadau pêl-droed, mae Iwan yn datgelu’r hanesion tu ôl i’w daith o gwmpas rhai o glybiau Lloegr.

  46. 19

    Yn Ôl i Midffîld!

    Dathlu’r gyfres eiconig ‘C’Mon Midffîld yng nghwmni John Pierce Jones, Sian Wheldon, Bryn Fôn a Llion Williams. Recordiwyd y bennod o flaen cynulleidfa yng Nghlwb Social yr Ofal, Caernarfon gyda Dylan Ebenezer yn reff! Trefnwyd y noson ar cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Ddarlledu Cymru, S4C a BBC Radio Cymru.

  47. 18

    Pennod 4: Manon Lloyd

    Mae Manon Lloyd wedi seiclo mewn rhai o bencampwriaethau mwyaf anodd y byd. Ers gadael y byd seiclo, mae Manon yn cael cyfleoedd anhygoel i deithio’r byd trwy ei gwaith cyfryngau cymdeithasol. Yn y bennod yma, mae Nigel yn holi Manon am gwympo mewn i’r gamp yn ifanc a’r profiadau anhygoel a chafodd hi o gynrychioli Cymru yng ngemau’r Gymanwlad. Byddwn yn dysgu sut y gall dim ond ychydig eiliadau fod y gwahaniaeth rhwng seiclo ar y lefel uchaf a chael eich torri'n gyfan gwbl ym myd mileinig seiclo proffesiynol. Clywn am yr anafiadau corfforol a’r effaith meddyliol sy’n dod gyda chystadlu ar frig y gamp.

  48. 17

    Pennod 3: Ken Owens

    Fel cyn-gapten Cymru, y Scarlets ac aelod o daith y Llewod i Seland Newydd, mae Ken Owens wedi profi’r pwysau mwyaf ar frig y byd chwaraeon. Clywn am ei ddyddiau cynnar yng Nghaerfyrddin, ei yrfa hirhoedlog gyda’r Scarlets, a’i brofiadau enfawr ar y llwyfan rhyngwladol. Yn ystod ei yrfa, mae Ken wedi teimlo’r pwysau o fod yn gapten, yn enwedig yn ystod cyfnod cythryblus rygbi Cymru. Bydd Nigel yn holi am yr eiliadau pwysig ar ac oddi ar y cae, o’i gap cyntaf yn y crys coch i’r funudau olaf ar daith y Llewod, lle wnaeth un camgymeriad bron colli’r gyfres gyfan.

  49. 16

    Pennod 2: Elinor Snowsill

    Mae Elinor Snowsill wedi profi pwysau mawr yn ei camp, o’r chwe gwlad i Gwpan y Byd, mae Elinor wedi bod yn rhan bwysig o chwyldro rygbi’r menywod yng Nghymru. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu am ei gobeithion cynnar o chwarae pêl-droed dros Loegr cyn cynrychioli Cymru mewn gamp hollol wahanol ar lwyfan y byd. Clywn am y disgwyliadau a’r pwysau oedd arni yn ystod ei gyrfa, yn enwedig dros gyfnod anodd i’r gamp yng Nghymru. Fel rhan o dîm cyntaf Barbariaid y menywod, bydd Nigel ac Elinor yn cael sgwrs ddifyr am ei phrofiadau.

  50. 15

    Pennod 1: Syr Bryn Terfel

    Ymunwch efo Llŷr a Lisa wrth iddyn nhw ganu cloch Syr Bryn Terfel a chael croeso mawr yn ei gartref. Cawn ddysgu mwy am y canwr opera byd enwog drwy drafod y trugareddau celfyddydol sydd o fewn muriau ei dŷ - o gaséts a sgôrs operâu i Kyffins a wisgis! Wrth i Bryn agor y drws ar ei fywyd, dewch i mewn i gael clywed yr hanes.

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

HOSTED BY

BBC Radio Cymru

Produced by BBC

CATEGORIES

URL copied to clipboard!