Pod Profi Llwyddo'n Lleol podcast artwork

PODCAST · business

Pod Profi Llwyddo'n Lleol

Mae cynllun Profi wedi creu cyfres o bodlediadau yn sgwrsio â nifer o unigolion o sefydliadau a busnesau gwahanol ar draws ardal ARFOR. Nod y gyfres yw hyrwyddo’r cyfleoedd byd gwaith cyffrous sydd ar gael i bobl ifanc.  Drwy wrando ar gyfres Pod Profi Llwyddo’n Lleol rydych yn gallu darganfod mwy am swyddi diddorol, y manteision o fyw a gweithio yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr a chlywed mwy am y sgiliau sydd angen ar bobl ifanc i dilyn gyrfa llwyddiannus yn eu hardaloedd lleol. 

  1. 15

    Ceredigion; Gwasanaethau Cyhoeddus; Gwennan Evans, Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdod lleol sy'n gweinyddu sir Ceredigion, Cymru ers y 1af o Ebrill 1996. Cyn hynny roedd Ceredigion yn ddosbarth dan weinyddiaeth Cyngor Sir Dyfed ac yn cael ei weinyddu yn lleol gan Gyngor Dosbarth Ceredigion. Lleolir pencadlys y Cyngor yn Aberaeron ac Aberystwyth.Ceredigion County Council is the governing body for the county of Ceredigion, since 1996 one of the unitary authorities of Wales. The council's main offices are in Aberaeron and Aberystwyth.

  2. 14

    Ceredigion; Iechyd a Gofal; Mererid Jones

    Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gweithio gydag oedolion a phlant. Maent yn gweld plant sydd â nifer o anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu gan gynnwys problemau deall a defnyddio iaith; anawsterau gyda synau lleferydd; atal dweud; ac anawsterau cyfathrebu cymdeithasol. Efallai y byddwn hefyd yn gweithio gyda babanod a phlant ag anawsterau llyncu. Rydym hefyd yn gweithio gydag oedolion sydd ag anhawster cyfathrebu a / neu lyncu. Gall hyn fod o ganlyniad i salwch a gafwyd (strôc / anaf trawmatig i'r ymennydd), salwch cynyddol (clefyd Parkinson, Sglerosis Ymledol, MND, a dementia), problemau llais, canser y pen a'r gwddf neu dysgwch. Gydag anawsterau llyncu, rydym yn cynnal asesiadau arbenigol ac yn cynnig cyngor ar leoli, technegau bwydo ac addasu diet a hylifau. Maent yn gweithio'n agos gyda teuluoedd, staff gofal cymdeithasol, ysgolion a lleoliadau cyn ysgol i gyflawni'r canlyniad gorau.

  3. 13

    Gwynedd; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Sioned Young, Mwydro

    Mae Mwydro yn gwmni Darlunio Digidol a sylfaenir gan Sioned Young o Gaernarfon yn 2019. Mae'r cwmni yn arbenigo mewn dylunio GIFs i gyfryngau cymdeithasol, ac mae casgliad GIFs Cymraeg Mwydro wedi eu gweld dros 250 miliwn o weithiau. Mae gwaith Mwydro hefyd yn cynnwys Gweithdai i Fusnesau, Comisiynau Dylunio, a dysgu plant a phobl hyd a lled Cymru i ddylunio GIFs iaith Gymraeg eu hunain.

  4. 12

    Gwynedd; Aled Jones, Cymen

    Mae cwmni cyfieithu Cymen wedi bod yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf ers dros 30 mlynedd ac rydyn ni’n un o gwmnïau cyfieithu mwyaf blaengar Cymru. Rydyn ni wedi ennill ein henw da oherwydd ansawdd a phrydlondeb ein gwaith. Mae gennym ni dîm ymroddedig o gyfieithwyr sydd ar dân eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd yng Nghymru.

  5. 11

    Sir Fôn; Tim Lloyd, Camu i'r Copa

    Cychwynnodd y cwmni fel hobi dau ffrind gyda blynyddoedd o brofiad mewn trefniadaeth chwaraeon yn 2011 ac yn cyflwyno a threfnu cannoedd o ddigwyddiadau chwaraeon ac awyr agored newydd sbon er mwynhad cannoedd o filoedd o gyfranogwyr gan ddefnyddio pobl, adnoddau a deunyddiau lleol lle bynnag bo hynny’n bosib. 

  6. 10

    Gwynedd; Elusennau a'r Trydydd Sector; Esyllt Roberts, Yr Orsaf

    Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Lleolir Yr Orsaf ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle.  Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Nod y cwmni  yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.

  7. 9

    Gwynedd; Elusennau a'r Trydydd Sector; Llio Wyn, Yr Orsaf

    Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Lleolir Yr Orsaf ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle.  Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Nod y cwmni  yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.

  8. 8

    Sir Gâr; Laura Evans, Rural Advisor

    Wedi ei sefydlu yn 2021, mae Rural Advisor yn dîm arbenigol o ymgynghorwyr, syrfewyr siartredig a chynghorwyr, sy’n arbenigo mewn darparu cyngor i fusnesau gwledig. Maent yn gweithio ar y cyd i gynnig yr atebion a'r cyngor gorau i unigolion a’u busnesau. Lleolir y tîm o’u cartrefi ar draws Cymru a Swydd Henffordd yn Lloegr.

  9. 7

    Sir Gâr; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Elen Davies, BBC Cymru

    Straeon newydd dorri, chwaraeon, teledu, radio a llawer mwy. Mae'r BBC yn rhoi gwybodaeth, yn addysgu ac yn cynnig adloniant - lle bynnag yr ydych chi, beth bynnag yw eich oedran.

  10. 6

    Sir Gâr; Caitlin Jones; Decus Research

    Sefydlwyd Decus Research Ltd. yn 2003 ac mae'n darparu gwasanaethau profi labordy cynhwysfawr a chymorth ymgynghori gwyddonol.  Mae'r ystod o wasanaethau a'n tîm o arbenigwyr yn ehangu'n barhaus, gan feithrin partneriaethau cryf a dibynadwy gyda'n cleientiaid ac o ganlyniad mae llawer o'r gwaith yn deillio o fusnesau’n dychwelyd tro ar ôl tro.  Mae’r staff yn cefnogi cleientiaid ledled y DU ac yn hapus i gynnal profion cydymffurfio rheolaidd neu helpu gyda dadansoddiad pwrpasol a chymhleth unwaith yn unig.

  11. 5

    Sir Fôn; Gwasanaethau Cyhoeddus; Elen Pritchard; Cyngor Môn

    Cyngor Sir Ynys Môn yw awdurdod llywodraeth lleol Ynys Môn, sy’n gartref i dros 69,000 o bobl.  Mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau gan gynnwys addysg, llyfrgelloedd, rheoli gwastraff, cynllunio, trafnidiaeth, gofal cymdeithasol, safonau masnachu a diogelwch tân a’r cyhoedd ac felly, mae’r ystod o bosibiliadau gyrfaol y mae’n cynnig yn eang iawn. Gan fod y Cyngor Sir yn gweithredu’n ddwyieithog, mae’r gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn allweddol i nifer fawr o swyddi.

  12. 4

    Gwynedd; Gwasanaethau Cyhoeddus; Lleucu Myrddin, Cyngor Gwynedd

    Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd os ydynt yn ateb y gofynion isod:16+ mlwydd oedYn gymwys i weithio yng NghymruDdim mewn addysg llawn amser yn barod

  13. 3

    Gwynedd; Gwasanaethau Cyhoeddus; Malan Wilkinson, Cyngor Gwynedd

    Gall unrhyw un wneud cais am brentisiaeth gyda Chyngor Gwynedd os ydynt yn ateb y gofynion isod:16+ mlwydd oedYn gymwys i weithio yng NghymruDdim mewn addysg llawn amser yn barod

  14. 2

    Ceredigion; Hamdden a Thwristiaeth; Lleucu Ifans, Actif-i-ti

    Cwmni a sefydlwyd gan Lleucu Ifans o Ddihewyd, Ceredigion i gynnig chwaraeon llythrennedd a chorfforol i blant ar draws ardal Sir Gar a Cheredigion. 

  15. 1

    Ceredigion; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Cerys Potter Jones, Technegol Cyf

    Cwmni Rheoli Digwyddiadau, Prosiectau a Gwasanaethau TechnegolRydym yn gwmni sy'n arbenigo mewn rheoli a threfnu digwyddiadau o bob math yng Nghymru a thu hwnt. Beth bynnag yw maint y digwyddiad neu brosiect, mae gennym yr arbenigedd, adnoddau a'r profiad sydd ei angen i gynorthwyo.

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Mae cynllun Profi wedi creu cyfres o bodlediadau yn sgwrsio â nifer o unigolion o sefydliadau a busnesau gwahanol ar draws ardal ARFOR. Nod y gyfres yw hyrwyddo’r cyfleoedd byd gwaith cyffrous sydd ar gael i bobl ifanc.  Drwy wrando ar gyfres Pod Profi Llwyddo’n Lleol rydych yn gallu darganfod mwy am swyddi diddorol, y manteision o fyw a gweithio yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr a chlywed mwy am y sgiliau sydd angen ar bobl ifanc i dilyn gyrfa llwyddiannus yn eu hardaloedd lleol.

HOSTED BY

Menter Gorllewin Sir Gâr

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does Pod Profi Llwyddo'n Lleol have?

Pod Profi Llwyddo'n Lleol currently has 15 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Pod Profi Llwyddo'n Lleol about?

Mae cynllun Profi wedi creu cyfres o bodlediadau yn sgwrsio â nifer o unigolion o sefydliadau a busnesau gwahanol ar draws ardal ARFOR. Nod y gyfres yw hyrwyddo’r cyfleoedd byd gwaith cyffrous sydd ar gael i bobl ifanc.  Drwy wrando ar gyfres Pod Profi Llwyddo’n Lleol rydych yn gallu darganfod mwy...

How often does Pod Profi Llwyddo'n Lleol release new episodes?

Pod Profi Llwyddo'n Lleol has 15 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to Pod Profi Llwyddo'n Lleol?

You can listen to Pod Profi Llwyddo'n Lleol on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Pod Profi Llwyddo'n Lleol?

Pod Profi Llwyddo'n Lleol is created and hosted by Menter Gorllewin Sir Gâr.
URL copied to clipboard!