PODCAST · education
Ymchwil Ar Y Gweill
by Jonathan Davies
Ymchwil ar y Gweill yw’r podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. Boed chi’n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.
-
10
Pennod 10: Y Gymraeg ac Iechyd gyda Maisie Edwards
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Maisie Edwards, ymchwilydd PhD sy’n archwilio rôl y Gymraeg mewn cyd-destunau Iechyd yng Nghymru.Yn ystod y sgwrs, trafodir pwysigrwydd iaith wrth ddarparu gofal sy’n wirioneddol ganolbwyntio ar yr unigolyn, yn enwedig mewn cyd-destunau diwedd oes. Mae Maisie yn amlinellu sut y gall y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg effeithio ar gysur, ymddiriedaeth ac ymgysylltiad cleifion, gan bwysleisio bod iaith yn fwy na dull o drosglwyddo gwybodaeth—mae’n ganolog i les emosiynol ac urddas.Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n cynnwys arolwg o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru ynghyd â chyfweliadau manwl. Trwy’r dulliau hyn, mae hi’n archwilio profiadau ac agweddau tuag at ddefnydd iaith mewn lleoliadau gofal lliniarol, yn ogystal â’r heriau sy’n codi, megis diffyg staff Cymraeg eu hiaith a’r angen am gefnogaeth sefydliadol gryfach i hwyluso darpariaeth ddwyieithog.Er nad yw’r dadansoddiad wedi’i gwblhau eto, mae canfyddiadau cychwynnol yn awgrymu bod dewis iaith yn chwarae rôl hanfodol mewn ansawdd y gofal a ddarperir. Mae Maisie yn trafod sut y gall ei hymchwil gyfrannu at lenwi bylchau yn y dystiolaeth bresennol, gan lywio polisi ac arfer yn y dyfodol, a thynnu sylw at bwysigrwydd darparu gofal sy’n briodol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol—yng Nghymru ac mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol eraill.Mae PhD Jonathan a phrosiect Maisie yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
9
Pennod 9: Dulliau Dysgu Cymraeg gyda Emma Grigorian
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd, sy’n archwilio dysgu Cymraeg ar lein ac yn wyneb i wyneb.Yn ystod y sgwrs, trafodir rhyngweithiadau dysgu iaith, gan ganolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cyfathrebu wyneb yn wyneb a chyfathrebu'n rhithiol. Mae Emma yn esbonio sut mae ffactorau megis oedi mewn galwadau fideo, diffyg ciwiau gweledol fel meicrofynegiadau, a newidiadau mewn deinameg cymryd-tro yn dylanwadu ar brofiad dysgwyr — yn enwedig o ran hyder, cymhelliant a llwyddiant cyfathrebol canfyddedig.Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil amlfoddol, sy’n cyfuno technegau megis olrhain syllu, dadansoddi emosiynau, ac astudiaeth fanwl o batrymau sgwrsio. Trwy gyfres o arbrofion a holiaduron, mae hi’n archwilio sut mae dysgwyr yn prosesu iaith mewn amodau gwahanol, gan gynnwys effaith ansawdd fideo ac oedi ar gywirdeb metawybyddol, yn ogystal â sut mae unigolion yn barnu llwyddiant mewn sgwrs.Mae PhD Jonathan a phrosiect Emma yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
8
Pennod 8: Gweithio gyda Goruchwylwyr gyda Dr Jonathan Morris
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda'i oruchwyliwr, Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, am un o’r penderfyniadau pwysicaf ar ddechrau taith academaidd: dewis a gweithio gyda goruchwylwyr doethurol.Yn ystod y sgwrs, trafodir sut i fynd ati i ddod o hyd i’r goruchwyliwr cywir, sut i wneud y cyswllt cyntaf heb deimlo fel eich bod chi’n anfon neges i’r gwagle, a beth sy’n gwneud perthynas oruchwylio yn un iach a chynhyrchiol.
-
7
Pennod 7: Deallusrwydd Artiffisial gyda Beca Wyn Owen
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beca Wyn Owen, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n archwilio rôl deallusrwydd artiffisial mewn addysg o fewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws penodol ar y Gymraeg.Yn ystod y sgwrs, trafodir sut mae technolegau AI yn cael eu datblygu a’u defnyddio, a’r hyn mae hynny’n ei olygu i fywiogrwydd ieithyddol yn yr oes ddigidol. Mae Beca yn esbonio sut gall anghydbwysedd data, dylanwadau masnachol, a phenderfyniadau polisi arwain at anghydraddoldebau digidol rhwng ieithoedd — ac yn holi beth yw goblygiadau hyn i addysg Gymraeg mewn ysgolion a phrifysgolion.Mae’r bennod hefyd yn taflu goleuni ar ei dull ymchwil, sy’n canolbwyntio ar brofiadau athrawon, myfyrwyr, darlithwyr a llunwyr polisi, ac yn codi cwestiynau pwysig am gyfrifoldeb, cyfleoedd, a dyfodol y Gymraeg mewn byd lle mae AI yn chwarae rhan gynyddol ganolog.Mae PhD Jonathan a phrosiect Beca yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
6
Pennod 6: Dyfodol Ffermydd yng Nghymru gyda Gwenllian Jenkins
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenllian Jenkins, ymchwilydd PhD sy’n archwilio sut mae ffermydd Cymru’n addasu ac yn goroesi yn oes o newid economaidd, gwleidyddol ac hinsoddol. Mae’r drafodaeth yn mynd â ni i galon amaethyddiaeth Cymru: y fferm deuluol. Wrth i ni ymuno â hi,cawn glywed sut mae newid hinsawdd, ansicrwydd polisi, a’r angen am incwm ychwanegol yn gwthio ffermwyr i ail-ddychmygu eu rôl — o gynhyrchwyr bwyd traddodiadol i ddarparwyr gwasanaethau ecosystem ac arloeswyr busnes gwledig. Mae’r sgwrs hefyd yn tynnu sylw at y newid demograffig sy’n wynebu’r diwydiant: gweithlu sy’n heneiddio, prinder ffermwyr ifanc yn ymuno â’r maes, ac y cwestiwn mawr — sut olwg sydd ar ddyfodol amaeth yn Nghymru? Dilynwch Gwen are LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/gwenllian-jenkins-7510b7205/ Mae fy mhrosiect PhD a phrosiect Gwenllian yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-
5
Pennod 5: Dosbarth Cymdeithasol a'r Gymraeg gyda Heledd Williams
Yn y bennod hon, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda’r ymchwilydd Heledd am ei phrosiect PhD hynod ddiddorol, “Y Gwerin Goll? Dosbarth Cymdeithasol a’r Iaith Gymraeg.”Mae Heledd yn archwilio’r berthynas gymhleth rhwng dosbarth cymdeithasol, iaith ac hunaniaeth yng Nghymru heddiw. Yn ystod y sgwrs, cawn drafod sut mae dosbarth yn siapio pwy sy’n cael llais wrth ddiffinio Cymreictod, a pha rôl mae’r iaith Gymraeg ffurfiol yn ei chwarae wrth greu (neu rwystro) teimlad o berthyn.Gan dynnu ar feddylwyr megis Raymond Williams a Bourdieu, mae Heledd yn herio’r ddelwedd gonfensiynol o’r “siaradwr Cymraeg nodweddiadol”, gan roi llwyfan i leisiau’r werin Gymreig a phrofiadau dosbarth gweithiol yng Nghymru gyfoes.Sgwrs ysgogol sy’n uno iaith, diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol – gan ofyn, beth mae’n wirioneddol ei olygu i berthyn yng Nghymru heddiw?LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/heledd-williams-139a298b/Mae fy mhrosiect i a phrosiect Heledd yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg CenedlaetholDilynwch Ymchwil ar y Gweill ar ei hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gyrmu.
-
4
Pennod 4: Creadigrwydd yn y Cwricwlwm gyda Megan Sass
Yn y bennod hon, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Megan Sass, ymchwilydd PhD yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei hymchwil yn archwilio sut mae creadigrwydd yn cael ei ddeall, ei feithrin, a’i ymarfer yn y dosbarth Cymraeg o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru.Cawn glywed sut mae Megan yn diffinio creadigrwydd, y dulliau y gall athrawon eu defnyddio i feithrin sgiliau creadigol ymhlith dysgwyr, a’r heriau ymarferol sy’n codi wrth roi’r cwricwlwm newydd ar waith.LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/megan-sass-68427526b/?originalSubdomain=ukMae fy mhrosiect i a phrosiect Megan yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg CenedlaetholDilynwch Ymchwil ar y Gweill ar ei hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gyrmu.
-
3
Pennod 3: Y Lysosom gyda Gwenno Rowlands
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Gwenno Rowlands, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, am ei gwaith ar y lysosom – y “ganolfan ailgylchu” fach sydd o fewn pob cell o’n cyrff.Mae’r sgwrs yn mynd â ni ar daith drwy fyd bach y gell, gan egluro sut mae camweithrediad mewn ensym penodol, asid seramidas, yn gallu arwain at glefydau prin difrifol fel clefyd Farber – ond hefyd yn cynnig cliwiau newydd am gyflwrau cyffredin fel canser ac Alzheimer.Mae’r bennod hefyd yn trafod profiad gwneud ymchwil wyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg – y manteision, yr heriau, a’r pwysigrwydd o sicrhau lle i’r Gymraeg yn y byd academaidd a gwyddonol.Linked in: https://www.linkedin.com/in/gwennorowlands/?originalSubdomain=ukMae fy mhrosiect a phrosiect Gwenno yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg CenedlaetholDilynwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru!
-
2
Pennod 2: Hanes Pel-Droed Cymru gyda Beth Jones
Yn y bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, mae Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Beth Angharad Jones, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymchwilio i hanes pêl-droed yng Ngogledd Cymru. Mae Beth yn archwilio sut mae pêl-droed yn siapio hunaniaeth Gymreig, rhywedd a chymuned — o glybiau lleol i dimau cenedlaethol, ac o’r cof bob dydd i’r archif.Drwy hanes llafar, diwylliant materol ac ymchwil archifol, mae ei gwaith yn taflu goleuni ar straeon sydd wedi’u hanwybyddu’n aml; yn enwedig lleisiau merched a phobl anneuaidd yn y gamp. Mae’r sgwrs yn ystyried beth mae pêl-droed yn ei olygu i Gymru, sut mae’n atgyfodi atgofion ac emosiynau, a pham mae’r gêm yn dal mor ganolog i’n hunaniaeth genedlaethol.Instagram: https://www.instagram.com/beth.jones.hanes?utm_source=ig_web_button_share_sheet&igsh=ZDNlZDc0MzIxNw==Mae fy mhrosiect i a phrosiect Beth yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.Dilynwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru.
-
1
Pennod 1: Dysgu Ynganu gyda Marian Brosschot
Yn yr bennod hon o Ymchwil ar y Gweill, dyn ni'n siarad â Marian Brosschot, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Bangor, am ei phrosiect “Hyder wrth (A)ddysgu Ynganu: Datblygu Hyfforddiant Ynganu ym maes Cymraeg i Oedolion”.Mae ynganu yn un o’r heriau mwyaf i’w feistroli wrth ddysgu iaith newydd – i’r dysgwyr eu hunain ac i’r tiwtoriaid sy’n eu haddysgu. Mae’r ymchwil hon yn archwilio sut y gellir cefnogi tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion i ddysgu ynganu gyda mwy o hyder, a sut y gellir rhoi’r offer i ddysgwyr wella eu Cymraeg llafar. Bydd y prosiect hefyd yn ystyried sut mae cefndir ieithyddol y dysgwyr, boed eu hiaith gyntaf neu dafodiaith, yn effeithio ar eu gallu i feistroli seiniau’r Gymraeg.Gyda chefndir dysgu yng Nghymru, Sbaen ac Ariannin, ac fel crëwr y sianel YouTube Galés con Marian, mae Marian yn dod â phrofiad rhyngwladol a brwdfrydedd dros ddysgu ieithoedd i’w gwaith.Youtube: https://www.youtube.com/@galesconmarianInstagram: https://www.instagram.com/galesconmarian?utm_source=ig_web_button_share_sheet&igsh=ZDNlZDc0MzIxNw==TikTok: https://www.tiktok.com/@gales_con_marian?is_from_webapp=1&sender_device=pcMae fy mhrosiect a phrosiect Marian yn cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.Dilynnwch Ymchwil ar y Gweill ar eich hoff lwyfan podlediadau i glywed rhagor o straeon ymchwil o Gymru.
-
0
Trailer: Ymchwil Ar Y Gweill
Trailer ar gyfer Ymchwil Ar Y Gweill
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Ymchwil ar y Gweill yw’r podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. Boed chi’n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.
HOSTED BY
Jonathan Davies
CATEGORIES
Loading similar podcasts...