CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio podcast artwork

PODCAST · education

CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio

Podlediadau diweddaraf CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio

  1. 10

    Pennod 10 – ADY – Trystan Williams

    Cyn haf 2024, cafodd Trystan ei benodi fel Arweinydd Cenedlaethol ADY (yr iaith Gymraeg). Yn y bennod hon byddwn yn trafod ei rôl newydd a phopeth arall o dan yr ymbarél anghenion dysgu ychwanegol. Cyn hynny, mae Trystan wedi bod yn Bennaeth Cynorthwyol a Chydlynydd ADY yn Ysgol Plas Mawr yng Nghaerdydd.

  2. 9

    Pennod 9 – Trawma – Sian Griffith a Sara Williams

    Mae Sian yn athrawes yn Ysgol Tywyn, Ynys Mon ond ar secondiad fel athrawes ymgynghorol plant mewn gofal yn yr awdurdod lleol ar hyn o bryd.  Mae Sara yn athrawes yn Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi.  Yn ychwanegol i’w gwaith arferol, mae Sara a Sian yn hyfforddwyr ar gyfer Trawma Informed Schools, sefydliad sydd yn darparu hyfforddiant ar gyfer y gweithlu addysg ar sut i ddelio gyda disgyblion sydd ag anghenion emosiynol neu broblemau iechyd meddwl.  Yn y bennod hon byddwn yn trafod y wyddoniaeth a’r seicoleg tu ôl i’r problemau hyn a beth allwn ni ei wneud i fod o gymorth i rai o’r disgyblion hyn.

  3. 8

    Pennod 8 – Datblygu’r Gymraeg – Lee James

    Mae Lee yn Bennaeth yn Ysgol Brynaman.  Ar ol eu harolwg yn Hydref 2023, cafodd yr ysgol ei chanmol am sut mae’n nhw’n llwyddo i ysgogi’r disgyblion i siarad Cymraeg.  Yn dilyn hyn, mae Estyn wedi rhannu eu harferion mewn astudiaeth achos arfer effeithiol.  Wrth gwrs, mae cael disgyblion i siarad Cymraeg yn her mae nifer o ysgolion ledled Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd. Yn y bennod hon byddwn yn trafod yr hyn mae Ysgol Brynaman yn ei wneud i ddatblygu’r Gymraeg i ennill y clod haeddiannol gan Estyn. 

  4. 7

    Pennod 7 – Lles – Jayne Davies

    Mae Jayne yn Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Sir Gaerfyrddin ond ar hyn o bryd mae hi ar secondiad yn y consortia lleol fel Ymgynghorydd Strategol y Gymraeg Mewn Addysg. Yn y bennod hon byddwn yn trafod pob dim ynglyn a lles.  Ers i Jayne fod yn Bennaeth ar yr ysgol mae sawl astudiaeth achos Estyn wedi cael eu hysgrifennu am y gwaith mae’r ysgol wedi ei wneud i gynyddu lles a’r effaith mae hynny wedi gael ar y plant a’r gymuned ehangach.

  5. 6

    Pennod 6 – Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb – Judith Roberts

    Mae Judith yn nyrs, athrawes ac yn ymgynghorydd iechyd a lles annibynnol sydd wedi gweithio gyda sawl ysgol, dalgylch ac awdurdod i'w hyfforddi, cynghori a’u harwain ar sut i addysgu iechyd a lles. Yn ddiweddar, mae rhan fwyaf o’i hamser yn mynd i gefnogi ysgolion ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y bennod hon, bydd Judith yn trafod sut i addysgu’r Cwricwlwm Cydberthynas a Rhywioldeb a sut i oresgyn rhai o’r heriau mae ysgolion ar draws Cymru yn eu hwynebu.

  6. 5

    Pennod 5 – Asesu a Chynnydd CiG – Gethin Môn Thomas

    Mae Gethin yn ymgynghorydd addysg annibynnol sydd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yma’n Nghymru ac ar draws y ffin i ddatblygu eu cwricwlwm.  Cyn iddo fod yn ymgynghorydd, roedd yn athro addysg gorfforol yn Ysgol David Hughes cyn symud ymlaen i weithio i gonsortia’r gogledd. Yn y bennod hon, bydd Gethin yn ein helpu ni ddeall asesu a chynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru, pwnc sydd o ddiddordeb i nifer o ysgolion ar hyn o bryd. 

  7. 4

    Pennod 4 – Arweinyddiaeth 2 – Meilir Tomos

    Mae Meilir yn bennaeth yn Ysgol Glan Morfa, Caerdydd ac yn gwneud gwaith arbennig i gefnogi nifer o ddisgyblion sydd yn dod o gefndiroedd difreintiedig ac yn llwyddo hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg yn ardal Splott. Yn y bennod hon Mae Meilir yn siarad am ei brofiadau fel Pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol.

  8. 3

    Pennod 3 – Blynyddoedd Cynnar - Laura Dobson

    Mae Laura yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar yng Ngholeg y Met Caerdydd, ond cyn hynny, bu’n athrawes ac arweinydd cyfnod sylfaen yn Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd. Yn y bennod hon byddwn yn trafod y blynyddoedd cynnar yn gyffredinol, profiadau Laura o weithio ym mhob oedran o’r cyfnod sylfaen a’r gwaith o addysgu plant yn yr ysbyty.

  9. 2

    Pennod 2 – Arweinyddiaeth – Gwyn Jones

    Mae Gwyn yn bennaeth profiadol yn Ysgol Croes Atti, Sir y Fflint ac yn gwneud gwaith arbennig i hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg o fewn y sir. Yn y bennod hon mae Gwyn yn siarad am ei brofiadau fel Pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol. 

  10. 1

    Pennod 1 - Addysgu Tu Hwnt i Gymru – Sioned Wyn Jones

    Mae Sioned yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llandegfan, Ynys Môn ond cyn hynny, mae hi wedi bod yn addysgu yn Ysgol yr Hendre Trelew, Patagonia ac yn Ysgol Gymraeg Llundain.  Yn y bennod hon mae Sioned yn siarad am ei phrofiadau o addysgu tu hwnt i Gymru a sut mae hynny wedi ei siapio hi fod yr athrawes ydi hi heddiw. 

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Podlediadau diweddaraf CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio

HOSTED BY

CYDAG

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio have?

CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio currently has 10 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio about?

Podlediadau diweddaraf CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio

How often does CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio release new episodes?

CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio has 10 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio?

You can listen to CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio?

CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio is created and hosted by CYDAG.
URL copied to clipboard!