'Di'r helmed yn ffitio? podcast artwork

PODCAST · sports

'Di'r helmed yn ffitio?

Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.

  1. 20

    Cyfres 02 Pennod 03 - Y South Wales Warriors a'r gêm yng Nghymru, hyfforddi ym Mhrydain ac yr Indianapolis Colts.

    Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda Phrif Hyfforddwr Y South Wales Warriors, Jacob Law. Fyddai'n holi sut cafodd o fewn i'r byd Pêl-droed Americanaidd a sut wnaeth o gychwyn hyfforddi hefyd. Mae'r bennod yma yn y Saesneg yn anffodus ond toddwn i fethu a pheidio cyfweld a hyfforddwr yr unig dîm Pêl-droed Americanaidd yng Nghymru!

  2. 19

    Cyfres 02 Pennod 02 - Rownd cyntaf y drafft. James Kellett yn ymuno ac yn rhagfynegi be fydd yn digwydd yn rownd cyntaf y drafft. Fydd yna drama ar y noson?

    Yn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda James Kellett o'r podlediad "Who's Got the Ball" i drafod gweddill o'r drafft. Mi fydd y ni yn ceisio rhagfynegi pa timau fydd yn creu drama ar y noson, a pa chwaraewyr dani'n credu sydd angen fwy o sylw. Mae’r bennod yma wedi ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg.

  3. 18

    Cyfres 02 Pennod 01 - Y Drafft. Iwan Llewelyn yn ymuno i trafod y rownd cyntaf gan hefyd son am ei Philadelphia Eagles

    Yn y bennod yma mi fyddai yn dadansoddi rownd cyntaf y drafft gyda Iwan Llewelyn gan hefyd clywed sut cychwynodd o gwylio'r gamp a cefnogi'r Eagles. Dyma'r pennod cyntaf o'r ail gyfres.

  4. 17

    Pennod 15 - Y SUPERBOWL! Dyfed Cynan a Guto Williams yn ymuno i rhagfynegu ac edrych yn ôl ar tymor gwych o'r NFL.

    Yn y bennod yma mi fyddai yn holi Dyfed Cynan a Guto Williams, sut wnaeth y nhw cychwyn gwylio'r NFL a sut tymor mae'r Dolphins a'r Falcons wedi'i gael? Fydd y ni'n rhoid ein barn ar y gêm fawr Dydd Sul yma rhwng Y Seahawks a'r Patriots a fydd y ni hefyd yn rhestru ein Arwr a Cachwr y Mis.

  5. 16

    Pennod 14 - Y Playoffs. Ydi hi dal yn heulog yn Philadelphia? Superbowl Y Broncos i'w golli?

    Yn y bennod yma mi fyddai yn edrych nol ar rownd cyntaf Y Playoffs gan hefyd rhoi fy marn ar y gemau i'w ddod penwythnos yma. Pwy sy'n barod am Y Superbowl?

  6. 15

    #13 - Sauce Gardner i'r Colts! Jerry Jones yn gwario wedi Micah Parsons gadael a cip olwg ar gemau wythnos yma a diwethaf.

    Yn y bennod yma mi fyddai yn edrych nol ar y gemau fwyaf trawiadol yn fy marn i ac hefyd yn edrych ymlaen tuag at gemau nos fory. Hefyd, mi fyddai yn trafod y trades hurt sydd wedi bod yn mynd mlaen wythnos diwethaf yma! Gan gynnwys Sauce Gardner yn mynd i'r Indianapolis Colts!

  7. 14

    #12 - DANI'N NÔL - Daniel Jones a'r Colts, Jordan Love yn trechu Aaron Rodgers a'r giamocs yn Llundain

    Dani'n nôl! Ar ol egwyl hir dwi nôl yn siarad am pob dim NFL. Yn y bennod yma mi fyddai yn trafod 3 gêm wnaeth denu'n sylw i wythnos yma. Mi fyddai hefyd yn trafod yr anturiaethau a giamocs cesi tra yn Llundain ar gyfer y gemau NFL.

  8. 13

    #11 - LRZ nol yn Rygbi, cwestiynau gan y chi, arwr newydd yn Florida ac yr hen Jerry Jones yn Dallas.

    Yn y bennod yma mi fyddai yn ateb eich cwestiynau chi wrth imi drafod be aeth o'i le gyda LRZ a'r NFL? Ac a ddylwn ni poeni am ganlyniadau gemau cyn-dymor? Hefyd, mi fyddai yn trafod Arwr a Chachwr y dydd cyn diwedd y bennod.

  9. 12

    10 - Mae'r NFL yn ol! Hanes Christian Wilkins a gyd o'r newyddion wythnos yma o'r byd NFL

    Mae'r NFL yn nol! Heno mae'r gêm gyntaf o'r flwyddyn a'r cam cyntaf tuag at bêl-droed Americanaidd diddiwedd tan fis Chwefror! Yn y bennod yma mi ydw i yn adolygu newyddion diweddaraf yr wythnos yn gyflym gan hefyd rhagweld y gêm heno 'ma a'r chwaraewyr i gadw llygad allan amdan.

  10. 11

    #9 - RHODRI LEWIS - Sîn NFL yng Nghaerdydd, Tymor Y Rams a busnes rhwng Miami a Pittsburgh

    Yn y nawfed bennod mi ydw i yn croesawu Rhodri Lewis i'r podlediad. Yn y bennod yma mi ydan ni yn trafod Y Rams a sut mae Rhodri yn teimlo am y tymor nesaf, y sefyllfa Quarterback yn Los Angeles, y sîn NFL yng Nghaerdydd a thrafodaethau rhwng Miami a Pittsburgh.

  11. 10

    #8 - MEI EMRYS - Tîm Caernarfon Centurions a'r Octagon Knights, Cefnogi'r Colts a mwy!

    Yn yr wythfed bennod o "Di'r Helmed yn Ffitio?", dwi yng nghwmni Mei Emrys wrth i ni drafod Yr Indianapolis Colts a'i ddrafft, yr ystafell Quarterback sydd yna, sut cafodd Mei i mewn i wylio'r NFL a chysylltiadau annisgwyl gyda Gogledd Cymru a'r byd Pêl-droed Americanaidd.

  12. 9

    #7 - Drama y Cytundebau, NFL yn Ewrop, Y Rookies i edrych allan am yn 2025

    Yn y seithfed bennod o'r bodlediad, dwi'n trafod cytundebau, cytundebau a chytundebau. Y ddrama ddiweddar gan gynnwys Caleb a'i deulu yn erbyn y Bears ac Abdul Carter a'i grys. Mae'r NFL wedi rhyddhau amserlen ryngwladol y gynghrair, fydd y chi yn mentro mynd i wylio gem yn Llundain? A dwi'n rhagdybio pa Rookies fydd yn serennu yn y gynghrair tymor yma.

  13. 8

    #6 - Dadansoddi Drafft NFL 2025 - Eagles yn taro’r marc unwaith eto, Green Bay yn creu hanes

    Yn y chweched bennod o’r podlediad, mi fydd Cynan yn dadansoddi rownd gyntaf o’r drafft NFL 2025. Sut hwyl gafodd Cynan yn rhagdybio? Oes unrhyw ddewisiadau dydi Cynan ddim yn cytuno hefo? Pwy ddiawl wnaeth y Saints bigo tro ma’?

  14. 7

    #5 - RHAN 2 O'R MOCK DRAFT - Shedeur i New Orleans? Pwy fydd dewis cyntaf y drafft?

    Yn y bennod hon, mi fydd Cynan yn rhagdybio pwy fydd yn cael eu pigo yn rhan gyntaf y rownd gyntaf rhwng dewis 16 gyda’r Arizona Cardinals, i’r dewis cyntaf gyda’r Tennessee Titans. Fydd Cynan yn bell o’r marc?

  15. 6

    #4 - RHAN 1 O'R MOCK DRAFT - Lle eith Tetairoa McMillan? Pa mor isel wneith Jalon Walker ddisgyn?!

    Yn y bennod hon, mi fydd Cynan yn rhagdybio pwy fydd yn cael eu pigo yn rhan olaf y rownd gyntaf, rhwng dewis 32 gyda’r Philadelphia Eagles, i ddewis 17 gyda’r Cincinnati Bengals. Bydd Cynan yn bell o’r marc?

  16. 5

    #3 - Pwy yw Travis Hunter? Seren Rygbi yn ymuno a’r NFL, Oes cynghrair ym Mhrydain?

    Yn y drydydd bennod, 'Da ni'n trafod pwy yw Travis Hunter, prosbect o goleg sydd yn chwarae dwy ffordd a fydd yn gobeithio cael ei ddewis yn y pump uchaf yn y drafft eleni. Byddem yn trafod Jordan Petaia sydd wedi gadael Rygbi Awstralia i ymuno gyda’r NFL. Byddem hefyd yn dadansoddi pob cytundeb newydd sydd wedi eu rhyddhau yn ddiweddar.

  17. 4

    #2 - Dallas yn y Superbowl, Wheeling a Dealing Denver a'r Free Agency

    Yn yr ail bennod o ‘Di’r helmed yn ffitio', mi fyddai’n trafod transfers yn yr NFL yn enwedig Y Denver Broncos, trafod Justin Fields yn mynd i New York, ateb y cwestiynnau 'ydi Jerry Jones isio ennill Superbowl?' a 'A fydd y 49ers nol yn y Superbowl o fewn y 5 mlynadd nesaf?' - Fydda i hefyd yn esbonio be ydi’r giamocs sy’n digwydd yn ystod yr 'offseason', gan gynnwys Cap Space a'r Drafft. Ac yn olaf, mi fyddai’n dyfalu pa dîm fydd Aaron Rodgers yn chwarae i tymor nesaf!

  18. 3

    #1 - Pwy ‘di Cynan, y Superbowl a LRZ

    Wyt ti’n un am American Football? Neu ddim hefo clem ond ffansi dechra’ diddordeb? Tiwnia mewn i ‘Di’r Helmed yn Ffitio’ i gael hynt a helyntion Yncl Cynan a.k.a Cynan Anwyl wrth iddo fo ein rhoi ni ar ben ffordd am beth sy’n mynd ymlaen draw yn yr Unol Daliaethau! 🏈TIMECODESY Superbowl 13:20 - 19:43Fy Saints bendigedig 19:44 - 27:21Enillwyr/Collwyr 27:23 - 34:59LRZ 35:00 - 39:44Outro 39:45 - 40:20

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.

HOSTED BY

Cynan Anwyl

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does 'Di'r helmed yn ffitio? have?

'Di'r helmed yn ffitio? currently has 18 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is 'Di'r helmed yn ffitio? about?

Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio bob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.

How often does 'Di'r helmed yn ffitio? release new episodes?

'Di'r helmed yn ffitio? has 18 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to 'Di'r helmed yn ffitio??

You can listen to 'Di'r helmed yn ffitio? on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts 'Di'r helmed yn ffitio??

'Di'r helmed yn ffitio? is created and hosted by Cynan Anwyl.
URL copied to clipboard!