PODCAST · sports
Pen yn y Gêm
by Jack Thomas
Podlediad Cymraeg am Feddylfryd ac Iechyd Meddwl o fewn Chwaraeon
-
5
Tom Moore: 4 Hanner Marathon, 4 Lleoliad, 4 Diwrnod
Yn y bennod yma rwyf yn siarad gyda Tom Moore, sy'n paratoi i rhedeg 4 hanner marathon mewn 4 lleoliad gwahanol, mewn 4 diwrnod yn olynol. Mae Tom wedi gosod yr her yma i'w hun er mwyn codi arian ar gyfer Samariaid Cymru, a chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl. I'w gefnogi, mae linc isod lle mae modd rhoi arian: https://www.justgiving.com/page/tom-moore-444?utm_medium=fundraising&utm_content=page%2Ftom-moore-444&utm_source=copyLink&utm_campaign=pfp-share Rydym yn trafod paratoadau Tom am y sialens, fel mae delio gyda heriau iechyd meddwl, a'r clwb pêl-droed mae e'n ei garu, Abertawe. Mwynhewch y bennod!
-
4
Doctor Cymraeg: Dysgu Cymraeg, Wrexham AFC, a Deadpool
Yn y bennod hon rwyf yn siarad gyda Stephen Rule, neu Doctor Cymraeg. Gyda bron i gan mil o ddilynwyr ar wefannau cymdeithasol, mae’r Doctor Cymraeg yn un o wynebau mwyaf adnabyddus y byd dysgu Cymraeg. Dechreuodd Stephen ei gyfrif Trydar ‘Doctor Cymraeg’ yn 2020, ac erbyn hyn mae wedi helpu miloedd o bobl i ddysgu’r iaith mae e’n ei garu. Daeth Stephen o deulu di-Gymraeg, ac ar ôl dysgu’r iaith, aeth ati i geisio helpu eraill ar y daith o ddysgu iaith newydd. Mae Stephen hefyd yn gefnogwr enfawr o glwb pêl-droed Wrecsam, ac ar ôl i sêr Hollywood ddod yn berchnogion y clwb yn ddiweddar, mae Stephen yn rhannu rhai o’r uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r newid i gefnogwr ffyddlon fel ef. Yn o gystal, rydym yn trafod y broses o ddysgu iaith newydd, yr effaith seicolegol mae diffyg hyder yn gallu cael, a’r daith anhygoel mae Stephen arni fel y Doctor Cymraeg. Cofiwch ddilyn y podlediad os ydych yn mwynhau’r cynnwys! Mwynhewch y bennod yma o Pen yn y Gêm!
-
3
Owain Tudur Jones: Cawr Canol Cae a Chyfryngau Cymru
Yn y bennod yma rwyf yn trafod gydag Owain Tudur Jones, cyn chwaraewr pêl-droed proffesiynol, cyflwynydd Heno ar S4C, a pundit pêl-droed ar raglen Sgorio S4C. Bu chwarae Owain i sawl tîm ledled Prydain, gan gynnwys cyfnodau yn chwarae yng Nghymru, Lloegr, ac yn yr Alban. Yn ogystal, bu chwarae dros ei wlad ar sawl adeg, yn ennill 7 cap dros Gymru. Yn anffodus, brwydrodd Owain gydag anafiadau trwy gydol ei yrfa, a bu anafiadau a gwendid i'w ben-glin yn ei orfodi i ymddeol yn 30 oed yn 2015. Ers hynny mae Owain wedi camu mewn i ddiwydiant y cyfryngau yn naturiol. Ers dechrau ei yrfa yn y cyfryngau mae Owain wedi cyflwyno podlediad The Long Man's Football World Podcast, a chyd-gyflwyno Y Coridor Ansicrwydd gyda Malcolm Allen. Mae hefyd yn gyflwynydd ar raglen S4C Heno, ac yn pundit ar raglen pêl-droed S4C, Sgorio. Rwyf yn siarad gydag Owain am ei brofiadau yn chwarae i'w glybiau a dros ei wlad, yr effaith corfforol a meddyliol cafodd anafiadau arno, ei ymddeoliad a'r symudiad i ddiwydiant y cyfryngau, a'r chwaraewyr gorau mae erioed wedi chwarae gyda. Cofiwch ddilyn y podlediad os ydych yn mwynhau'r cynnwys! Mwynhewch y bennod yma o Pen yn y Gêm!
-
2
Rhodri Jones: Hanes Cymro Cudd Syr Alex Ferguson
Yn y bennod hon rwyf yn siarad gyda chyn-bêl-droediwr Manchester United, Rhodri Jones. Roedd Rhodri wedi ymuno gydag academi’r clwb yn 1996, ac yn rhan o gyfres S4C ‘Giggs, Rhodri a Beckham’ yn y flwyddyn 2000. Ar ôl sawl anaf, bu rhaid i Rhodri ymddeol o bêl-droed yn ifanc iawn, ac erbyn hyn mae’n hyfforddi meddyliau actorion, pobl busnes, a mwy! Dwi’n gofyn i Rhodri am ei amser yng nghwmni Syr Alex Ferguson yn Man U, serennu mewn rhaglen S4C, y broses o ymddeol, a’r hyn mae’n gwneud erbyn hyn ar ôl pêl-droed. Paratowch am raglen llawn straeon diddorol, chwerthin, emosiwn a chyngor ysbrydoledig. Cofiwch ddilyn y Pod, a mwynhewch y bennod yma o ‘Pen yn y Gêm’.
-
1
Croeso i Pen yn y Gêm!
Helo, fy enw i yw Jack Thomas, a chroeso i bodlediad Pen yn y Gêm. Yn y podlediad yma byddaf yn siarad ag amryw o bobl o bob ban y wlad am eu profiadau gyda chwaraeon. O bêl-droedwyr y Premier League i Enillwyr aur yng ngemau’r Olympaidd, bydd rhywbeth i bawb ar y podlediad yma. Dwi am ddysgu am yr effaith mae chwaraeon yn cael ar iechyd meddwl, ac yn bwriadu dysgu o’r goreuon, fel mae cael eich pen yn y gêm! Os ydych chi yn edrych ‘mlaen i glywed mwy, dilynwch y pod ac ymunwch â’n tîm. Diolch i chi, mi welai chi cyn hir.
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Podlediad Cymraeg am Feddylfryd ac Iechyd Meddwl o fewn Chwaraeon
HOSTED BY
Jack Thomas
CATEGORIES
Loading similar podcasts...