Sut i Ddarllen podcast artwork

PODCAST · arts

Sut i Ddarllen

Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.

  1. 7

    Casi Wyn

    Yn cadw cwmni i Francesca Sciarrillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn.Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn yn ogystal â thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd Mawrth.Casi hefyd yw Cyfarwyddwr Creadigol cylchgrawn Codi Pais, cylchgrawn annibynnol i bawb gan ferched Cymru.Yn y bennod mae Casi’n trafod gwerth darllen barddoniaeth, ei hoff siopau llyfrau a vibes faniau llyfrgell!Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes Recordio sain: Aled Wyn Hughes Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod honLlyfr Mawr y Plant - Jennie Thomas, J.O. WilliamsRala Rwdins - Angharad TomosHeddwch o’r Diwedd - Jill Murphy, addas. Roger BooreBeth Nesaf? - Jill Murphy, addas. Roger BooreY Llygod a’r Lleuad - Joyce Dunbar, addas. Myrddin ap DafyddThe Lion, the Witch and the Wardrobe - C.S. LewisA Series of Unfortunate Events - Lemony SnicketHarri Potter a Maen yr Athronydd - J. K. Rowling, addas. Emily HuwsCaer y Rhew - Robert Swindells, addas Gruff RobertsMrs Mochyn a'r Sos Coch - Mary RaynerElfed yr Eliffant - David McKee 'Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth - Michael Rosen, addas. Gwynne WilliamsTeulu Bach Nant Oer - MoelonaY Tylwyth Tegmae - Mererid HopwoodMymryn Rhyddid - Gruffudd OwenO Ffrwyth y Gangen Hon - Gol. Nia MoraisTrochi – Carwyn EckleyI Know Why The Caged Bird Sings - Maya AngelouThe Doors of Perception - Aldous HuxleyCodi PaisFolding RockHanes BywAtgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr - Siân JamesY Tywysog Bach - Antoine De Saint-ExupéryCariad Yw - Casi WynCerdded Lerpwl y Cymry - Gari WynBitter Honey - Caryl LewisService 95Send BooksSongs of Innocence and of Experience  - William Blake Mynd - Marged TudurNature and Selected Essays - Ralph Waldo EmersonY llyfrau ar gael o'ch siop lyfrau leol.

  2. 6

    Malachy Edwards

    Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen.Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.Yn y bennod mae'n trafod cylchgronau sgelfyrddio, darllen y clasuron a'i ymchwil diweddar i fywyd John Ystumllyn.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.Rhestr DdarllenThrasher MagazineKerrangRolling Stone Cyfres Artemis Fowl - Eoin Colfer1984 - George OrwellThe Handmaid's Tale - Margaret AtwoodDoctor Faustus - Christopher MarloweThe Autobiography of Benvenuto Cellini - Benvenuto Cellini, cyfieithiad Anne MacdonellThe Interesting Narrative and Other Writings - Olaudah EquianoPam Na Fu Cymru - Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg - Simon BrooksDecolonizing Language and Other Revolutionary Ideas - Ngugi wa Thiong'oThe Islander - Tomás O'CrohanY Fro Dywyll - Jerry HunterSgythia - Gwynn ap GwilymYmbelydredd - Guto DafyddLloerganiadau - Fflur DafyddAnfarwol - Peredur GlynTe yn y Grug - Kate RobertsCysgod y Cryman - Islwyn Ffowc ElisGweithiau Daniel OwenY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

  3. 5

    Buddug Watcyn Roberts

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts.Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp. Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a'r mwynhad o ddarllen yr un llyfr sawl tro.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.Rhestr DdarllenMorgan a Magi Ann - Mary Vaughan JonesHuw Bob Lliw - Marian JonesNeli’r Pysgodyn Jeli - Marian JonesMarc y Siarc - Marian JonesFfawd, Cywilydd a Celwyddau - Llwyd Owenmor hapus - Gwenllian EllisLladd Arth - Kayley RobertsCwlwm - Ffion EnlliHoll Lawenydd Gwyllt - Llyr Gwyn LewisGwlad Bardd - Rhys IorwerthIaith y Nefoedd - Llwyd OwenOedolyn-ish - Mel OwenGirl Crush - Florence GivenWomen Don’t Owe You Pretty - Florence GivenWomen Living Deliciously - Florence GivenTrochi - Carwyn EckleyAbermandraw – Rhys IorwerthMymryn Rhyddid – Gruffudd OwenHel Llus yn y Glaw – Gruffudd OwenWhy Has Nobody Told Me This Before? – Dr Julie SmithV+Fo – Gwenno GwilymBechygyn Drwg am Byth – Llwyd OwenMwy am prosiect Pencerdd Llenyddiaeth Cymru yma.Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

  4. 4

    Melanie Owen

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru. Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025.Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn "Jacqueline Wilson girly", rhoi darllen ar y to-do list a chrio yn Llyfrgell Aberystwyth. Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy's Place, Caerdydd.Rhestr DdarllenLlyfrau Jacqueline WilsonI Feel Bad About My Neck - Nora EphronMor Hapus - Gwenllian EllisSgen i’m Syniad - Gwenllian EllisV + Fo - Gwenno GwilymOedolyn(ish) - Melanie OwenThis is Going to Hurt – Adam KayTwas The Nightshift Before Christmas – Adam KayO Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia MoraisNoughts & Crosses - Malorie BlackmanThink Again – Jacqueline WilsonLittle Fires Everywhere - Celeste NgCamu – Iola YnyrHow to Survive an Affair: A Practical Guide – Henry WiddicombeAngus, thongs and full-frontal snogging – Louise RennisonY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

  5. 3

    Geraint Iwan

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan. Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu. Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan yr wyneb, gan Wasg Carreg Gwalch, fis Mawrth.Yn y bennod mae Ger yn trafod ei obsesiwn efo straeon, darganfod darllen drwy ffilmiau a pheryglon gwrando ar lyfrau llafar yn Morrisons Caernarfon.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, LlandwrogRhestr DdarllenCongrinero - David MeredithRownd y Byd yn y Ras Falwnau Orau Erioed - Sue ScullardBeibl y Plant Mewn Lliw I Ble Aeth Haul y Bore? - Eurig WynDan Gadarn Goncrit - Mihangel MorganCysgod y Cryman - Islwyn Ffowc ElisYn y Gwaed - Geraint V. JonesTân ar y Comin - T. Llew JonesJaws - Peter BenchleyJurassic Park - Michael CrichtonDo Androids Dream of Electric Sheep? - Philip K. DickThe Gone-Away World - Nick HarkawayReady Player One - Ernest ClineI am Legend - Richard MathesonTrioleg Extracted – RR HaywoodI, Partridge: We Need To Talk About Alan - Alan PartidgeThe Rivers of London - Ben AaronovitchCyfres The Bourne Identity – Roberts LudlumStraeon byrion Ruth Rendell And Then There Were None - Agatha ChristieCyfres A Game of Thrones - George R. R. MartinThe Martian – Andy WeirY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

  6. 2

    Sioned Erin Hughes

    Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a'r awdur Sioned Erin Hughes.Daw Erin o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda'i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom. Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, ac mae hefyd wedi golygu Iaith Heb Ffiniau a chyd-olygu Beyond/Tu Hwnt.Roedd ei chyfrol O'r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd.Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad sgwennu personol a hunangofiannau ar ei bywyd a'r angen i ddarllen gyda phensil yn ei llaw.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod honJames a'r Eirinen Wlanog Enfawr - Roald Dahl, addasiad Elin MeekNab Wrc - Roald Dahl, addsiad Elin MeekModdion Rhyfeddol George - Roald Dahl, addasiad Elin MeekMatilda - Roald Dahl, addasiad Elin MeekThe Book Thief - Markus ZusakI Am, I Am, I Am: Seventeen Brushes With Death – Maggie O’FarrellThe Choice - Edith EgerCasglu Llwch – Georgia RuthTell Me Who I Am - Georgia RuthCamu – Iola YnyrNelan a Bo – Angharad PriceThe Bell Jar – Sylvia PathReason To Stay Alive – Matt HaigA Thousand Splendid Suns - Khaled HosseiniThe Kite Runner - Khaled HosseiniLan Stâr – Anthony Shapland, addasiad Esyllt LewisDevotions – Mary Oliver Y llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau leol.

  7. 1

    Huw Stephens

    Yr awdur a’r darlledwr Huw Stephens sy’n cadw cwmni i Francesca Sciarrillo.Mae Huw Stephens yn darlledu’n ddyddiol ar BBC Radio 6 Music, ac yn cynnal sioeau wythnosol yn y Gymraeg a Saesneg ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fe sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn Caerdydd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol, Wales - 100 Records.Yn y bennod mae Huw yn sgwrsio am gyfieithu The Twits yn blentyn, ei hoff nofel Gymraeg yn y byd i gyd a’i gyfraniad i’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesRecordio sain: Aled Wyn HughesRecordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod honY Dyn'i hun – Hywel GwynfrynThe Twits – Roald DahlBoy – Roald DahlPaid a Bod Ofn – Non ParryAll the Best for the Future: Growing Up Without Growing Old – Greg JamesIs-Deitla'n Unig - Emyr Glyn WilliamsDiolch Dewi! Ffrindiau'n Cofio – Gol. Myrddin ap DafyddCydymaith i Lenyddiaeth Cymru – Gol. Meic StephensA Room Above a Shop - Anthony ShaplandBechgyn Drwg am Byth – Llwyd Owen Cam o’r Tywyllwch – Rhys MwynAtgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da - Delwyn SiônAtgofion drwy Ganeuon: Rhwng Bethlehem a'r Groes - Barry (Archie) JonesAtgofion drwy Ganeuon: Llechan yn y Gwaed – Gai TomsCerddi’r Ystrad – Lyn EbenezerLladd Arth – Kayley RobertsOf Mice and Men – John SteinbeckY Tŵr – Gwenlyn ParryZonia Bowen - Dy Bobl Di Fydd fy Mhobl I - Zonia BowenOedolyn (ish) – Melanie OwenCylchgrawn Folding RockO Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia MoraisGwlad Bardd – Rhys IorwerthO! Tyn y Gorchudd – Angharad PriceThe Life of Rebecca Jones – Angharad Price, cyfieithiad Lloyd JonesNelan a Bo – Angharad PriceYr Odliadur – Roy StephensSalem a Fi – Endaf EmlynFfansins: Caws Heb Dost, Siarc Marw, Brechdan Tywod, Tacsi, Viva Sparky, KlustY llyfrau hyn, a llawer mwy, ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.

  8. 0

    Cyfres newydd o Sut i Ddarllen

    Cyfres newydd o Sut i Ddarllen ar gael yn fuan.Mwy o sgyrsiau difyr am lyfrau a darllen gyda Francesca Scarrillo.

  9. -1

    Eirini Sanoudaki

    Darllenydd mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw Dr Eirini Sanoudaki.Yn wreiddiol o Groeg, mae ei hymchwil yn archwilio iaith mewn pobl uniaith a dwyieithog.  Bu Francesca ac Eirini yn trafod sut mae llyfrau yn gallu mynd a ni nôl, pwysigrwydd darllen efo plant, a mawredd Llyfr Glas Nebo.Recordiwyd y bennod yn Shed, Y FelinheliFfilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled HughesRhestr DdarllenLlyfrau Zoe SkoldingLlyfrau Alys ConranLlyfrau Angharad PricePumed Cainc y Mabinogi – Peredur Glyn (Y Lolfa)Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)Il Nome Della Rosa - Umberto Eco (Bompiani)Sali Mali - Mary Vaughan Jones (Atebol)Y Tywysog Bach - Antoine de Saint-Exupéry (Edition Tintenfaß)The Catcher in the Rye -   J. D. Salinger (Penguin)One Moonlit Night / Un Nos Ola Leuad - Caradog Prichard (Y Lolfa)Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma.

  10. -2

    Joe Healy

    Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022.  Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca.Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth.Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled HughesRhestr DdarllenY Lindysyn Llwglyd Iawn / TheVery Hungry Catepillar  – Eric Carle (Dref Wen)Little Rabbit Foo Foo – Michael Rosen (WalkerBooks)Llyfrau Tomas y Tanc Llyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (Y Lolfa)Cwlwm – Ffion Enlli (Y Lolfa)The Lord of the Rings – J. R. Tolken (Harper Collins)The Hobbit - J. R. Tolken (Harper Collins)Of Mice and Men – John Steinbeck (PenguinBooks)Paddy Clarke Ha, Ha Ha – Roddy Doyle (Penguin)To Kill a Mockingbird – Harper Lee (Penguin)Pigeon  / Pijin - Alys Conran (Parthian)Open Up – Thomas Morris (Faber)Cyfres Stori SydynThe Handmaid's Tale - Margaret Atwood (Vintage)Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma:https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/

  11. -3

    Manon Steffan Ros

    Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd.  Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos.    Mae hi hefyd yn caru darllen.Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T.H. Parry-Williams yn y car, a sut i fynd i’r arfer o ddarllen.Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Y FelinheliFfilmio a golygu: Dafydd Hughes Sain: Aled HughesRhestr DdarllenChildhood - Maksim Gorky (Ivan R. Dee)Salem a Fi - Endaf Emlyn (Y Lolfa)Llyfr Glas Nebo - Manon Steffan Ros (Y Lolfa)Llyfrau Danielle SteeleLlyfrau Jackie CollinsMatilda - Roald Dahl (Gwasg Rily)Boy - Roald Dahl (Puffin)Ffiwsi...Be? - Irma Chilton (Gwasg y Dref Wen)Cyfres Ifan Bifan – Gunilla Bergstrom, addasiad Juli Phillips (Gwasg y Dref Wen)Lloffion – T. H. Parry-Williams Llyfrau Sally RooneyLlyfrau Matt HaigTake a BreakMae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma: https://llyfrau.cymru/siopau-llyfrau-cymru/ Mae Manon hefyd un o griw podlediad Colli’r Plot.  Gwrandewch yma:https://open.spotify.com/show/7nplXp8TLGqvi9sx1IHbzn

  12. -4

    Sara Yassine

    Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og. Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun. Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, CaerdyddFfilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled HughesRhestr ddarllen Llyfrau Roald Dahl Llyfrau Jaquline Wilson Hanes yn y Tir - Elin Jones (Gwasg Carreg Gwalch) Madws - Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn) Trigo - Aled Emyr (Y Lolfa)Mae’r llyfrau ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol. Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol ⁠yma.

  13. -5

    Kayley Roberts

    Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon.Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, soniodd Kayley am y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Elis y versatile king, a thrio peidio sbïo ar dy ffôn pam ti’n darllen. Recordiwyd y bennod yn Y Shed, Felinheli.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled HughesRhestr Ddarllen The Illustrated Mum - Jacqueline Wilson (Yearling) Think Again - Jacqueline Wilson (Bantam) Sugar Rush - Julie Burchill (Macmillan) A Little Life - Hanya Yanagihara (Picador) Danny The Champion of the World / Danny Pencampwr y Byd - Roald Dahl (Puffin) / (Rily) Sunburn - Chloe Michelle Howarth (Verve Books) Intermezzo - Sally Rooney (Faber) Sêr y Nos yn Gwenu - Casia Wiliam (Y Lolfa) Cwlwm - Ffion Enlli (Y Lolfa) Jayne Eyre - Charlotte Bronte (Penguin) Villette - Charlotte Bronte (Penguin) The Bell Jar - Sylvia Plath (Faber) Cysgod y Cryman - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer / Y Lolfa) Wythnos yng Nghymru Fydd - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer / Y Lolfa) Y Blaned Dirion - Islwyn Ffowc Elis (Gwasg Gomer) V + Fo - Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn) Neon Roses - Rachel Dawson (John Murray) tu ôl i’r awyr - Megan Angharad Hunter (Y Lolfa) Curiadau - Gol. Gareth Evans-Jones (Barddas) A Christmas Carol - Charles Dickens (Penguin) Why I’m No Longer Talking to White People About Race - Reni Eddo-Lodge (Bloomsbury) Complete Poems - Emily Dickinson (Faber) Cyfres The Realm of the Elderlings - Robin Hobb (HarperVoyage) The Secret History - Dona Tartt (Penguin)Mae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol⁠ YMA⁠.Mwy am Llyfrau Lliwgar fan hyn.Bydd nofel gyntaf Kayley Roberts, Lladd Arth (Y Lolfa), allan yn haf 2025.

  14. -6

    Siôn Tomos Owen

    Mae Siôn Tomos Owen yn fardd, artist a chyflwynydd radio a theledu. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth,Pethau Sy’n Digwydd nôl yn haf 2024.Bu Francesca a Siôn yn sgwrsio am ddarllen pedwar llyfr ar yr un pryd, agweddau snobyddlyd at gomics a chariad at lyfrgelloedd.Recordiwyd y bennod yn Tramshed Tech, Caerdydd.Ffilmio a golygu: Dafydd HughesSain: Aled Hughes Rhestr DdarllenPenbwl-Comic Plant CymruCyfres Rwdlan - Angharad Tomos (Y Lolfa)Matilda - Roald Dahl (Rily)The Catcher in the Rye - J. D. Salinger (Penguin)The Master and Margarita - Mikhail Bulgakov (Vintage Classic)Love in the Time of Cholera- Gabriel García Márquez (Penguin)Storyteller: The Life of Roald Dahl - Donald Sturrock (William Collins)Everything Must Go: The Stories We Tell About the End of the World - Dorian Lynskey (Picador)Madws -Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn)The Tipping Point: How Little Things Can Make a Big Difference - Malcolm Gladwell (Abacus)In Praise of Slow: How a Worldwide Movement is Challenging the Cult of Speed -Carl Honore (Orion)Nofelau graffeg Chris Ware ac Adrian TomineCawl - Siôn Tomos Owen (Parthian)Pethau Sy’n Digwydd - Siôn Tomos Owen (Barddas)Short Short Stories - Dave Eggers (Penguin)Library of Wales: Selected Stories - Rhys Davies (Parthian)Collected Stories - Dylan Thomas (W&N)Open Up - Thomas Morris (Faber)Straeon byrion Rachel Trezise, João Morais, Rhian ElizabethMae’r llyfrau hyn ar gael o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol.Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leolYMA.

  15. -7

    Sut i Ddarllen

    Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen, o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd.  Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr. Ymunwch â ni. Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan.

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.

HOSTED BY

Cyngor Llyfrau Cymru

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does Sut i Ddarllen have?

Sut i Ddarllen currently has 15 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Sut i Ddarllen about?

Sut i Ddarllen, sgyrsiau gonest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo.Fe fyddwn ni'n trafod pob math o agweddau ar ddarllen - o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr.

How often does Sut i Ddarllen release new episodes?

Sut i Ddarllen has 15 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to Sut i Ddarllen?

You can listen to Sut i Ddarllen on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Sut i Ddarllen?

Sut i Ddarllen is created and hosted by Cyngor Llyfrau Cymru.
URL copied to clipboard!