PODCAST · society
Dim Clem
by Ffion Medi
Bod yn oedolyn. ‘Sa neb rili efo clem be ma nhw’n neud. Mae o’n gorwynt o brofiada, teimlada a pherthnasa confusing af.Felly, dyma bodcast Cymraeg efo gwestai amrywiol i drafod yr holl brofiad o fod yn oedolion efo ‘Dim Clem’, gan obeithio i orffan pob penod efo… bach mwy o glem? 🤷🏼♀️
-
8
Pennod 8: Isho cyngor?
Mae Nia Parry yn ymuno efo fi ym mhennod 8 o Dim Clem, lle 'da ni'n trio ein gorau i ateb eich dilemmas, rhannu straeon (embarrassing as per) a lot fawr o fwydro...Be sydd gan Dating sites a Cats Protection Dre yn gyffredin?Ydy ghostio byth yn dderbyniol?Gwerthu rhêchs mewn jariauFacebook live damweiniol ar y toiletY gwir ystyr tu 'nôl i emojisDynion topless yn dod allan o'r môr ar ben ceffylau'Ew, ti 'di twchu!' - sut i ymateb?!Ydy snŵpio trwy ffôn dy bartner amheus di'n iawn?Dim ond 'chydig o bethau sy'n cael eu trafod ym mhennod 8 o Dim Clem...
-
7
Pennod 7: Barn amhoblogaidd?
Yn ymuno efo fi ym mhennod 7 o Dim Clem mae Iwan Pitts (eto) i farnu barn pobl eraill…Dry robe wankersEnwi cychod ar ôl merchedTongue piercingsLinkydinky…Ydy pinafal i fod ar bitsa?Powlenni golchi llestri Dylsa pobl gael hooves yn lle traed?Ydy merched yn well na dynion?Dylsa ni ‘eat the rich’?Dim ond 'chydig o bethau sy'n cael eu trafod ym mhennod 7 o Dim Clem... Eisiau cyfrannu at bennod 8? 👇https://forms.gle/M4jfT4hzsQLCBeqF9
-
6
Pennod 6: Sut i fod yn oedolyn?
Yn ymuno efo fi ym mhennod 6 o Dim Clem mae Ffion Wynn Davies i drio ateb y cwestiwn amhosib... Sut i fod yn oedolyn?! Stori embarrassing am pavlova Life insurance & credit scores Sebon phallic mewn profile picture Online dating a dêts cynta' Yfad absinthe yn 8 oed Tips llnau bathroomDim ond 'chydig o bethau sy'n cael eu trafod ym mhennod 6 o Dim Clem...
-
5
Pennod 5: Ydy cwnsela i fi?
Yn ymuno efo fi ym mhennod 5 o Dim Clem mae 'mrawd a'n chwaer, Awel ag Osian <3Mae'r tri ohona ni efo rhyw fath o brofiad perthnasol i'r pwnc pwysig yma, ac mae angen bod lot fwy agored amdano a chwalu'r stigma o'i gwmpas - felly dyma obeithio ein bod ni'n cyfrannu mymryn at hynna... Er yn bwnc dwys a sensitif, da ni'n cadw'r bennod yma mor ysgafn â phosib wrth drio ateb y cwestiwn: Ydy cwnsela i fi?Mwynhewch y family special!
-
4
Pennod 4: Teithio ar ben dy hun
Yn ymuno efo fi ym mhennod 4 o Dim Clem yr holl ffordd o Koh Samui mae Erin Fflur. Ar ôl prynu tocyn un ffordd i Asia gan adael Cymru fach, sa'm llawar o neb efo cystal o glem am deithio ar ben ei hun...‘Go and find yourself’Pasio allan mewn slum yn IndiaHostels vs hotelsBackpackio efo bags for life a gym bagUnsolicited advice gan deuluChwilod a cockroachesEssentials teithioYr ofn o fod ar ben dy hunPam bod wir angen wet bagsDim ond 'chydig o bethau sy'n cael eu trafod ym mhennod 4 o Dim Clem...
-
3
Pennod 3: Be ydy PCOS?
Yn ymuno efo fi ym mhennod 3 o Dim Clem mae Elan Llwyd. Mae'r ddwy ohona ni yn byw efo PCOS, a'r ddwy ohona ni'n hoff iawn o fwydro... Cyfuniad perffaith ar gyfer trio ateb y cwestiwn: Be ydy PCOS?Pearly, glamorous ovariesOedd Mair (mam Iesu) efo PCOS?Y pill, coil, implant…‘Ti just angan colli pwysa’Insulin resistanceHormonal acneSupplements minefieldSex ed yn y noughtiesGneud 5k run dros teamsPam ma na gymaint o gynaecologists yn ddynion? Dim ond 'chydig o bethau sy'n cael eu trafod ym mhennod 3...
-
2
Pennod 2: Ydw i efo ADHD? Rhan 2
Cario 'mlaen y mwydro o bennod 1 efo Iwan Pitts (eto) a mynd mewn i bach mwy o fanylder am sut mae byw efo ADHD fel oedolyn (sy'n egluro'r duration...). 'Chydig o betha' 'da ni'n drafod yn y bennod yma...Chocolate voice Alan RickmanOffice UK vs USFidgetioYdy'r Beibl yn cyfri fel podlediad neu audiobook?Torri ar drawsThought process Iwan fel Spiderman/TarzanBeth ydy'n hoff regfeydd (EXPLICIT obvs)Lle oedd Duw yn ystod yr Holocaust?Iwan yn sgwennu ar lechan yn yr ysgol a gweithio'n chwarel PenrhynNavigatio bywyd addysgol/academaidd efo ADHDDim sens. Dim Clem.
-
1
Pennod 1: Ydw i efo ADHD? Dim clem.
Be sy'n digwydd pan ma 2 berson efo ADHD a dim clem am be ma nhw'n siarad yn ista lawr i drafod cael diagnosis ADHD? Y llanast yma!Dyma bennod newydd (chaotic) sbon o bodlediad newydd sbon gyda gwestai arbennig, y self-proclaimed 'athrylith', Iwan Pitts.Os da chi rhywsut yn gallu gwrando tan diwedd y bennod, ma na 92.3%* chance bo gyno chi, hefyd, ADHD.Mwynhewch a rhannwch!* Ddim yn seiliedig ar unrhyw fath o ffaith, tystiolaeth, na chwaith gan bobl call.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Bod yn oedolyn. ‘Sa neb rili efo clem be ma nhw’n neud. Mae o’n gorwynt o brofiada, teimlada a pherthnasa confusing af.Felly, dyma bodcast Cymraeg efo gwestai amrywiol i drafod yr holl brofiad o fod yn oedolion efo ‘Dim Clem’, gan obeithio i orffan pob penod efo… bach mwy o glem? 🤷🏼♀️
HOSTED BY
Ffion Medi
Loading similar podcasts...