Y Cwmni Bach

PODCAST · arts

Y Cwmni Bach

Cyfres o sgyrsiau estynedig yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds ac ystod eang o westeion.Yn ystod y rhaglenni mae Elinor yn trafod bywyd a gyfraoedd ei gwesteion a phwysigrwydd ffydd iddynt.

  1. 25
  2. 24
  3. 23
  4. 22

    Y Cwmni Bach - Mary Lloyd-Davies

    Daw'r gantores Mary Lloyd-Davies o Lanuwchllyn ac wedi cyfnod yn astudio yn yr Academi Brenhinol yn Llundain ac ym Mharis mae wedi cael gyrfa lewyrchus yn perfformio mewn operau a chyngherddau ar hyd a lled y byd.

  5. 21
  6. 20
  7. 19
  8. 18
  9. 17
  10. 16
  11. 15

    Y Cwmni Bach - Menna Elfyn

    Sgwrs ddifyr gyda Menna Elfyn, un o bennaf beirdd Cymru. Mae hi'n ferch y Mans aeth â'i geiriau i bob cwr o'r byd.

  12. 14

    Y Cwmni Bach - Edward Morus Jones

    Gwestai arbennig Elinor Wyn Reynolds yn tro hyn yn stiwdio'r Cwmni Bach yw Edward Morus Jones. Mae'n adnabyddus fel canwr ar recordiau cynnar Dafydd Iwan, a bu’n llwyddiannus hefyd fel artist unigol yn ystod cyfnod diwedd yr 1960au a dechrau’r 1970au. Mae bellach yn rhannu ei amser rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.

  13. 13

    Episode 13: Y Cwmni Bach - Sheridan Angharad James

    Sheridan Angharad James yw gwestai arbennig Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn y Cwmni Bach. Mae hi yn Ganon Bugeiliol ar y plwyf a phererinion yn Nhŷ Ddewi.

  14. 12

    Y Cwmni Bach - Dafydd Iwan

    Mae Dafydd Iwan yn trafod stori ei fywyd gan gynnwys ei fagwraeth ym Mrynaman, yn fab i weinidog, ei lencyndod yn Llanuwchllyn a'i fywyd gweithgar fel cerddor a gwleidydd. Cawn glywed am yr angerdd a'r ffydd sydd wedi ei symbylu i oes o ymgyrchu a gweithredu.

  15. 11

    Y Cwmni Bach - Emlyn Davies

    Mae Emlyn Davies yn wyneb cyfarwydd i ni ers ei yrfa ym myd teledu Cymraeg. Yn y podlediad hwn, mae'n trafod ei fagwraeth a'i fywyd, ei yrfa a'i ffydd.

  16. 10

    Y Cwmni Bach - Nel Richards

    Brodor o Glydach yw Nel Richards ond sy'n byw bellach yn Llundain. Hi yw gwestai Elinor Wyn Reynolds ar y Cwmni Bach y tro hwn.

  17. 9

    Y Cwmni Bach - Delwyn Siôn

    Yn y rhifyn hwn o'r Cwmni Bach mae Delwyn Siôn y'n trafod ei yrfa fel cerddor dros nifer o ddegawdau, ei fagwraeth yn y cymoedd a'i rôl fel arweinydd yn eglwys annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth.

  18. 8

    Y Cwmni Bach - Dewi Myrddin Hughes

    Cyn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Dewi Myrddin Hughes sy'n ymuno ag Elinor Wyn Reynolds y tro hwn i drafod ei fywyd a'i weinidogaeth.

  19. 7

    Y Cwmni Bach - Geraint Rees

    Etholwyd Geraint yn Drysorydd yr Undeb yn 2023. Magwyd ef yn Efail Isaf, ac yn y Tabernacl, capel y pentref. Bu’n athro a phrifathro, ac yn gynghorydd proffesiynol i’r gweinidog addysg wedi cyfnodau yn llywio adrannau addysg mewn awdurdodau lleol. Mae’n aelod o’r tim eang o wirfoddolwyr sy’n cynnal y Tabernacl.

  20. 6

    Y Cwmni Bach - Rhun Dafydd

    Cyfres o bodlediadau lle mae Elinor Wyn Reynolds yn cyfarfod â gwestai arbennig i drafod eu bywyd a'u ffydd.

  21. 5

    Y Cwmni Bach - Ifor ap Glyn

    Mae Ifor ap Glyn yn adnabyddus fel cyn fardd cenedlaethol. Dyma gyfle i glywed ychydig o'i hanes mewn sgwrs gydag Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach.

  22. 4

    Y Cwmni Bach - Siân Wyn Rees

    Pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, Siân Wyn Rees yw gwestai Elinor Wyn Reynolds yn y Cwmni Bach y tro hwn. Yn enedigol o Lanilar, Ceredigion mae Siân bellach yn byw yng Nghaerdydd. Rhaglen hwyliog yn llawn straeon difyr o deithio'r byd i daith ysbrydol Sian hefyd.

  23. 3

    Y Cwmni Bach - Arfon Jones

    Y tro hwn mae Elinor Wyn Reynolds yn cael cwmni Arfon Jones, cyfieithydd beibl.net a nifer o ganeuon addoli cyfoes yn stiwdio y Cwmni Bach.

  24. 2

    Y Cwmni Bach - Siôn Brynach

    Pennaeth newydd Cytûn, Eglwysi Ynghyd yng Nghymru yw gwestai Elinor Wyn Reynolds y tro hwn yn stiwdio Y Cwmni Bach. Mae Siôn yn trafod ei fagwraeth, ei ffydd, ei yrfa ym myd cyfathrebu a'r trasedi sydd wedi taro'r teulu yn ddiweddar.

  25. 1

    Y Cwmni Bach - Jeff Williams

    Y Parchg Jeff Williams yw Llywydd newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yn y sgwrs hamddenol hon gydag Elinor Wyn Reynolds mae Jeff yn trafod ei fagwraeth yn Myddfai a Llundain a'i yrfa fel gweinidog a phennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru. Mae hefyd yn siarad yn agored am golli ei fab Llŷr yn dilyn brwydr dewr â chancr, a'i ffydd sydd wedi ei gynnal drwy'r cwbl.

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Cyfres o sgyrsiau estynedig yng nghwmni Elinor Wyn Reynolds ac ystod eang o westeion.Yn ystod y rhaglenni mae Elinor yn trafod bywyd a gyfraoedd ei gwesteion a phwysigrwydd ffydd iddynt.

HOSTED BY

Annibynwyr Cymraeg

CATEGORIES

URL copied to clipboard!