PodParley PodParley
Yr Haclediad

PODCAST · technology

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

  1. 159

    Gwin Gwynfluencer

    Mae’r gwanwyn wirioneddol yma, ac wrth i’r coed flaguro a’r blodau ffrwydro mae criw'r Haclediad yma efo tusw tymhorol o farn heb ymchwil na gwybodaeth i chi gyd! Yn y bennod hon da ni’n deud tata i Tim Cook yn Apple, teimlo reit sâl wrth weld yr AI Influencer Cymraeg cyntaf a mynd  i’r Vatican efo Bryn (*gweler Haclediad #90 "Pope on a Rope" am fwy o fanylion) Ffilm Pam Ddim y mis ydy’r anhygoel Bullet Train Explosion - ai hwn ydy Master and Commander ffilms trenau? Gwrandewch i ffeindio allan! Diolch o galon in cefnogwyr anhygoel ac i chi wrandawyr annwyl; diolch hefyd i Iestyn am olygu a diolch i’r Pab Leo am fendithio tech Bryn fel na gewn ni fyth cursed episode eto 🙏

  2. 158

    The Devil’s Bean Juice

    Mae’r Haclediad yma i efengylu ar ôl trip Bryn i Salt Lake City! Dewch i glywed y newyddion da am just pa mor creepy ydy Alexa, a pa mor bert fyddwn ni gyd yn edrych trwy filter DLSS5 😘 Bydd Iest yn gwirioni ar tech agored CorridorKey, a’r tri ohonom yn gwirioni ar dechnoleg BadgerNet i fabis Cymru 🦡 Y Ffilmdiddim ydy clasur y genre _The Great Wall _- sy’n teimlo fel ffordd i dojio trethi gan bawb ynddo i fod yn onest 🤣 Diolch o galon i Iestyn am olygu a chynhyrchu’r Haclediad - rhyw ddydd mi wnaiff AI y job iddo, ond am rŵan gweddïwch drosto wrth iddo wrando ar 3 awr o'r ffwlbri yma bob mis 😅❤️ Diolch hefyd i chi sy’n gwrando, cyfrannu a chefnogi’r sioe, chi werth y byd 😘

  3. 157

    Draclediad - sponsored by Beavertree

    Mae’n awards season eto, a mae’r wobr i’r podlediad lleiaf cursed yn mynd i’r… Haclediad am unwaith!🎉 Da ni’n neidio mewn i surveillance capitalism efo Rings a robovacs, cael sgwrsio am fideo AI Psychosis Eddy Burback or diwedd, safon sŵn CDs a lansiad Tŵt Cymru 🚂 #FfilmDiDdim y mis ydy’r boncyrs o waedlyd Renfield - gyda 66% or Haclediad yn meddwl ei fod yn delight, ond pwy fydd isie rhoi stake brên yn nghalon y ffilm? Gwrandwch i ffindo mas! Diolch o galon i Iestyn am olygu’r, techio a chynhyrchu’r sioe, ac i chi gyd am wrando a chefnogi pob mis, chi werth y byd!

  4. 156

    Brought to you by Smellspace

    Blwyddyn newydd… checks notes dda i chi Hac-ffans! Mae Bryn, Iestyn a Sioned yn ôl i fynd a chi mewn i 2026 yn y ffordd orau posib - efo cursed episode arall a ffilm wnaeth ni’n actively blîn 😆 Ni’n trafod bits a bobs o newyddion, just pa mor sâl mae symudiad robots Boston Dynamics yn neud Sioned ac AI induced psychosis… wel mi nath Bryn a Iest recordio 30 munud wych arno, tra oedd GarageBand Sioned wedi crasho heb iddi sylwi - so gewch chi hwna mis nesa 😅 Y Ffilmdiddim ydy “Fountain of Youth” ar Apple TV, jumpscare o ffilm “directed by Guy Richie” Diolch o galon i bawb sy’n gwrando ar y maxi length zine yma o podcast, a dwbl diolch i chi legends sy’n cyfrannu hefyd 🥹

  5. 155

    Nadolig Nyrrê

    🎄Nadolig llawen a diolch am sdicio efo ni am flwyddyn arall hac-ffans! Mae'r criw yn mynd mewn i 2026 yn meddwl am gorau a gwaethaf 2025 - ac yn esbonio beth yn union ddigwyddodd i lais Iest yn y bennod diwethaf. Ffilmdiddim y mis ydy dryswch emosiynol Madame Webb - y ffilm sy'n gofyn 'just pa mor checked out allith un prif gymeriad fod?' Diolch o waelod calon i Iestyn am olygu'r sioeau, achub ni o enshittification a gwneud yr Haclediad beth ydy hi trwy'r flwyddyn👏 Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros 2025, dewch efo ni i weld beth ddaw yn 2026 🫶

  6. 154

    Haclediad v Arnie

    Mae'r oerfel wedi dod o'r diwedd, pa ffordd well i'w guro fo na lapio dy hun mewn blanced a gwrando ar tri ffrind yn trafod tech? Bydd Iest, Sions a Bryn yn herio Grokipedia, dysgu bod Siemens Llanberis yn thing, neidio ar yr Affinity trên a trio gweithio allan sut mae Disney am stopio bobl fod yn sglyfs pan rown nhw generative AI ar Disney+😣 FfilmDiDdim y mis ydy'r topical Running Man o 1987 - yr Haclediad yn erbyn Arnie am y tro cyntaf! Hyn i gyd a llawer mwy Yn Haclediad mis Tachwedd ❄️ Diolch i Iestyn am gynhyrchu ynghanol cursed episode arall, a diolch i chi gyd am eich cefnogaeth ac am wrando 🤓

  7. 153

    Shite Night

    Helo Hac-fans, chi'n barod am bennod brawychus mis Hydref? Achos doedd Iest druan ddim, felly ymddiheuriadau am yr ysbrydion technegol ar ei sain o yn ystod y bennod 🙇👻 Byddwn ni'n trafod llwyth o bethau mis yma - Mapio Cymru, Data Centre posib i Gaernarfon, LLM Cymraeg, a gredwch chi fyth - actual adolygiad tech newydd gan Sioned o bawb! Y #FfilmDiDdim ydy Fright Night o 1985 - ydy o'n llanast llwyr? Ydy 🧛‍♀️ Diolch o galon am eich cefnogaeth bob mis gang, chi werth y byd 🎃

  8. 152

    A View to a Rhyl

    Croeso i Haclediad 150… (go iawn tro ma) ymddiheuriadau am recordio dros 400 awr o’r absoliwt nonsens yma dros y blynyddoedd 😆 All-good-vibes ydy’r amcan mis yma, dim ond chydig iawn iawn o AI spiraling, lot o atgofion neis, a barn Iest am liquid glass newydd sgleiniog Apple. Hefyd! FfilmDiDdim wael/wych am ddyddiau cynnar Silicon Valley, A View to a Kill… Pennod Bondigrybwyll arall amdani! Diolch o galon i Iestyn Lloyd am gynhyrchu’r sioe, ac i bob un ohonnoch chi sy’n cyfrannu, gwrando a chefnogi’r 3 person media empire yma - mawr fydd eich gwobr 🫶

  9. 151

    Such Proffesiynoldeb, Much Safon

    🎒Tymor newydd, Haclediad newydd! Pennod ola desperate yr haf o’r Haclediad sy’n dod atoch chi heddiw, diolch i olygu medrus Iestyn Lloyd ar fferi i Iwerddon (dedication ar y diawl Iest, nais won). Bydd Iestyn, Sions a Bryn yn speedrunio straeon tech yr haf - Kobo 🤝 Instapaper, symud searches ni gyd draw i Kagi, deud helo i browser newydd Dia, llanast recordio, bywyd Steve Wozniak a llawer mwy! Primo #Ffilmdiddim y mis ydy’r gampwaith “Gods of Egypt” - High camp values? Iep! Clueless protagonists? Deffo! Gerard Butler? WRTH GWRS! Neidiwch mewn i bwll nofio’r haclediad am un splash hafaidd olaf cyn i’r haul ein gadael ni am y 6 mis nesa 😆 DIolch i’n holl cefnogwyr hyfryd, i Iestyn am gynhyrchu a golygu, ac i chi gyd am wrando 🥰 Os hoffech chi helpu ni allan, prynnwch Ko-fi i ni ☕️

  10. 150

    Pre Haclediad Syndrome

    Mocktails, Grocktails a Donkey Dong Bananza - hyna i gyd a mwy ar bennod hafaidd arall o’r Haclediad! Bryn sy’n mynd â ni trwy data breaches llywodraeth Prydain, Iest sy’n rhoi barn artist ar ddefnydd Netflix o generative ᴀɪ a mae Sioned actually yn yfed diod classy am unwaith! Ffilmdiddim y mis ydy’r surprisingly diddanol Prince of Persia, byddwch yn barod am Alfred Molina chwyslyd yn yr anialwch 🤩 Diolch o galon i Iestyn Lloyd am olygu a chynhyrchu’r sioe, ac i bawb sy’n gwrando a chyfrannu bob mis - chi werth y byd ☺️

  11. 149

    Switch, Plîs

    Croeso i big Summer Blow Out yr Haclediad! Bydd Bryn, Iest a Sions yn mynd nôl i wreiddiau'r sioe mis yma, efo actual tech review go iawn o'r Nintendo Switch 2 🎮 Hefyd bydd 'na newyddion pam bo pawb yn flin efo Duolingo, ffrind y sioe Carl M yn cyflwyno dyfodol digidol i'r Senedd, a Ffilmdiddim games-aidd - Assassin's Creed. Diolch am eich cefnogaeth, cofiwch ollwng newid mân yn y pot Ko-fi os chi di joio ☺️

  12. 148

    Talk Hard: Pretty Bad Case of Being Cut in Half

    Craciwch y golf claps na allan am bennod hafaidd o'r Haclediad! Datblygiadau dirgel AI sy’n mynd â bryd Sioned, Iestyn a Bryn mis yma - romcom y degawd gyda teaser am “rhywbeth” gan Sam Altman a Jony Ive, a guest appearance gan Nick Clegg i roi chi off eich swper. Yn wahanol i’r arfer mae’r criw wedi gwylio ffilm actually da ar gyfer y #Ffilmdiddim - y music biopic i ladd y genre (wrth ei dorri yn ei hanner natch) Walk Hard. Diolch o galon i chi gyd am wrando, diolch i’n cyfranwyr caredig, a diolch i Iestyn am gynhyrchu a golygu’r sioe 🥹🫶

  13. 147

    Sean a'i Scheepy Shwetah

    Croeso i Haclediad mis Ebrill! Mae Bryn, Sions a Iestyn nôl efo mwy o farn heb ymchwil na gwybodaeth 👉 Tro ma, ni'n cadw llygad ar y Broligarchy trwy Meta Raybans, trafod pa mor sbwci o gywir oedd Her(2012) am emotional affairs efo AIs ac wrth gwrs yn gwylio Ffilmdiddim am ddim :- ydy Sioned yn gywir bo ni wir ddim yn gwbod pa mor dda oedd pethe yn 2003, neu yd The League of Extraordinary Gentlemen wedi defnyddio comic book psychic powers arni hi? Hyn i gyd, a lot lot mwy (Ah-gin-dada unrhyw un?🍭🍬🍫) yn eich hoff podlediad "dwi'n rhoi hwn mlaen yn y cefndir i deterrio burglars trw nos" 😘 Diolch o galon i'n holl wrandawyr a chefnogwyr - os hoffech chi roi ceiniog yn y jar, dyma'r link Ko-fi ☕

  14. 146

    Con-boocha

    'Ble mae'r Haclediad diweddaraf di bod?' da ni'n clywed chi'n holi. Wel, mae rhediad o cursed episodes wedi torri cynhyrchydd, boi sain ac enaid y podlediad - so ddefnyddion ni'r sweet sweet arian sponcon i anfon Iest off ar meditation retreat tra bo Bryn a Sioned yn ffaffian am loose leaf tea neu rw nonsens dosbarth canol arall. Ar bennod yma'r Haclediad - ni'n trafod Teslas, De-Americaneiddio ein bywydau, Drinkfluencers a Signal-gate (gafodd y bennod ei recordio CYN cyhoeddiad manylion y Switch 2😍 so gewch chi glywed ni'n ecseitio am hwna mis nesa 😅) Mae'r Ffilmdiddim yn gampwaith o'r Cate-Blanchet-power-lesbian cinematic universe, ond yn bell o fod yn unrhyw fath arall o gampwaith - wylio'n ni Borderlands fel bo chi ddim yn gorod 😅 Diolch o galon i chi gyd am gefnogi, tanysgrifio a gwrando - tolltwch ddiod i Iest a welwn ni chi mis nesa 🫶😊

  15. 145

    The Pope’s Sgwishi Sobrasada Excorcist

    Mae criw'r Haclediad nôl gyda cursed episode arall o'ch hoff tech/existential dread/ffilms gwael podcast (yn y Gymraeg!) Mis yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn galaru am Skype, trafod cêrio am bethe a phethe sydd wedi eu neud â gofal, a haunted trailer newydd Alexa plus (pam fod angen brên dy hun? Just gad i big brother Jeff Bezos neud o!) Hefyd gwrandwch allan am coverage byw o #CIG2025 yn trendio ar Bluesky as it happened, a'r criw yn bathu'r term "Booze Miles" am y cysyniad sut mae gwin wastad yn neisiach dramor 💡 Ffilmdiddim y mis ydy'r gampwaith S-Tier The Pope's Excorcist - schloc crefyddol o'r radd flaenaf 👌👌👌 (Hefyd, yn anffodus anghofiodd Russel Crowe i excorcisio meicroffon Iest a felly fe ddiflannodd ei sain o hanner ola'r Sioe - RIP hot takes Iest ar Pope on a Rope 2: the Crowening) Diolch o galon i chi gyd eto am wrando a chefnogi'r sioe - chi werth y byd 🫶

  16. 144

    Blunder Woman 1984 // "Haclediad is good, but it can be better"

    Croeso i flwyddyn newydd gyffrous ym myd yr Haclediad... psych! Na, just blwyddyn arall o ni'n tri yn arwain chi trwy storm💩bywyd modern 😃 Gweledigaeth AI Keir Starmer, y ban Tiktok yn yr UDA helyntion Apple TV Iest - mae hyn i gyd a mwy yn aros amdanoch chi! Ffilmdiddim y mis ydy'r lliwgar Wonder Woman 1984 - ffilm lle mae Pedro Pascal yn sianeli Raul Julia ac yn neud popeth yn well (ond dydy o a Chris Pine methu hydynoed achub hon druan) Diolch o waelod calon i'n holl wrandawyr a chefnogwyr - da chi werth y byd 🫶 Helpwch Iestyn i gadw Bonta Deli i fynd wrth gyfrannu i'r Kofi 👇🙏❤️

  17. 143

    Krampus Campus a’rJacked Santa

    🎄Nadolig llawen i chi gyd Hac-ffans! Neidiwch mewn i bennod arbennig llawn feibs hapus positif efo Bryn, Sions a Iestyn wrth i chi yrru adre /cwcio /cuddio mewn cwpwrdd dros Dolig*. 🎅 FfilmDiDdim y mis ydy Red One - sy’n gyrru Sioned mewn i existential creisis am ystyr oesol Jacked Santa. Fydd na chats am A.I. wrth gwrs, ond gan fwyaf fyddwn ni’n siarad am be da ni di joio dros y flwyddyn, ac yn trio edrych mlaen i 2025 Diolch o waelod galon am wrando trwy’r flwyddyn - chi werth y byd 🫶 *ni’n gwybod bod y Nadolig yn gallu bod yn anodd iawn i lot ohonoch chi - gobeithio bod ein mwydro yn cadw cwmni i chi a chofiwch estyn allan, mae'n OK i ofyn❤️

  18. 142

    International Spam of Mystery

    🌸YEAH BABY!🌼 Oedden ni’n meddwl bod angen rhaglen all-good-vibes ar bawb y mis yma, felly da ni wedi ditcho’r Ffilmdiddim am Ffilmi’rdim yn lle - dowch nôl i 1997 efo ni (eto?!) i wylio Austin Powers: International Man of Mystery ✌️ Wrth gwrs, mae genno ni sgwrs tech i chi cyn hyna tho, Prosiect Lleisior sy’n creu cofnod o leisiau Cymraeg i bobl sy’n eu colli, gwefan nuts Walzr.com sy’n ffendio’r holl hen fideos “send to youtube” o 10 mlynedd nôl a chreu timerift nostalgia weird iawn i Milennials - ac wrth gwrs, trafod gwaith sylwebydd tech mwyaf disglair Cymru, Cefin Roberts, ar pam ddylai Cymry Cymraeg deffinetli aros ar Twitter am rhyw reswm. HYN OLL A MWY yn Haclediad #140 - welwn ni chi am y christmas spectacular!

  19. 141

    Penblwydd Morb-us i ni

    Mwah ha hahclediad Calan Gaeaf hapus i chi wrandawyr - ydych chi’n barod am hunllef fwyaf rhieni... ffôns yn yr ysgol?!🎃 Yn y bennod yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn taclo heriau ffôns i blant, ein penblwydd yn 14 (so da ni ddigon hen i gael ffôn yn ôl Smartphone Free Schools) a Ffilmdiddim perffaith o addas... ac ardderchog o dwp, Morbius 🦇🧛‍♂️ Mae na 14 mlynedd o’r nonsens yma wedi pasio, diolch o waelod calon i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r Haclediad - da chi’n sêr 🤩 Os hoffech chi daflu ceiniog draw i bodlediad hyna’r Gymraeg prynwch Ko-fi i ni 🫶☕

  20. 140

    Môr-BADron

    Tymor newydd, pennod newydd arrr-dderchog o'r Haclediad i chi... yn llawn môr ladron, language models a trips cyffrous i'r swyddfa bost...?! FfilmDiDdim y mis ydy'r llanast epic 'Cutthroat Island', a diolch enfawr i Matt M a Jamie am eu cyfraniadau ac i Iestyn am lywio'r good ship Haclediad

  21. 139

    The Wrong Sexy Trousers

    Mae’r haf ar ben, ond gadewch i Iestyn, Bryn a Sioned fynd â chi am un fling gwyliau arall... Mis yma da ni’n cael braw efo Pixel 9 Google, sy’n stwffio tech AI Gemini mewn i bob twll a chornel - a fyddwn ni’n gallu trystio unrhyw lun ffôn byth eto? Byddwch yn barod am Iest Test arall ar ôl trip i drio’r Vision Pro yn y siop Apple; a’r ffilmdiddim y mis ydy’r ‘camp’waith Y2K Entrapment - Abertawe’s finest yn erbyn y lasers coch na, be gei di well? Diolch i Iestyn am gynhyrchu’r sioe, i bob un ohonoch sy’n gwrando, a diolch arbennig i chi sy’n cyfrannu’n fisol 😘

  22. 138

    Mae’r Sharks ma’n In-Seine

    Clasur arall o barti haf sy'n dod i'ch clustiau chi mis yma - ymunwch â Bryn, Sions a Iestyn i ddeifio i'r Seine, teithio i Mexico a malu pob terminal Microsoft welwn ni. Outage fawr Crowdstrike, search GPT, Archif Ddarlledu Cymru a llawer mwy fydd yn yr epig yma i chi wrando ar y traeth 🏖️ Ffilmdiddim Olympaidd mis yma ydy 'Under Paris' - Sous la Seine... Sharks in Paris baby! Diolch o galon i bob un ohonoch sy'n cefnogi a gwrando ar y sioe - chi werth medal aur 🥇

  23. 137

    Hac the Planet!!

    "I am a Haclediad, and this is my manifesto. You may stop this podcast, but you can't stop us all... " Y flwyddyn yw 1995, mae sbectols bychan a rollerblades yn bla ar ein strydoedd, a mae 'Hackers' yn dy siop video leol... ochenaid dyddiau da. Yn y bennod yma o'r Haclediad (sy'n brysur troi mewn i Milennial hiraeth cast) bydd Iest, Sions a Bryn yn trafod: 👉cariad Llywodraeth Cymru tuag at AI 👉Sylwadau Mira Murati o Open AI am sut bo rhai swyddi creadigol "ddim angen bodoli" 👉y blockchain yn amddiffyn gwaith artistiaid 👉 ac wrth gwrs - y Ffilmdiddim AmDdim - Hackers (1995) ar Freevee Diolch eto i bob un ohonoch sy'n gwrando, tanysgrifio a chefnogi - chi werth y byd 🥹

  24. 136

    Paned with the Apes

    Yn parhau'r run o benodau melltigedig, trïwch sbotio lle wnaeth Sioned ddiffodd switch trydan ei set up cyfan ynghanol y sioe yma ⚡😅 Bydd Iest, Bryn a Sions yn taclo Cymru/Wales yn y Metaverse, hysbyseb yr ipad Crush ac enshittifiation cynnyrch Apple. Gwyliwch allan am ddial Cupertino ar Iest yn ail hanner y sioe wrth i Face Time crasho bob 5 munud 😖 Ffilm ofnadwy y mis yma ydy campwaith Marky Mark Planet of the Apes (2001) - pwy wyddau pa mor horni allai mygydau rwber fod? Diolch i bawb sy'n gwrando a chefnogi 🙏❤️ (Recordiwyd y bennod yma cyn implosion Cwis Bob Dydd, neu base ni di cyfro hwna hefyd!)

  25. 135

    Mae 'na ffilms gwell Argylle...

    Shhhh, peidiwch gadael y gath o'r cŵd am gynnwys Haclediad mis Ebrill... y cyfan allwn ni ddeud ydy bod yr Humane AI pin yn siomedigaeth a mai Argylle ydy o bosib y Ffilmdiddim GWAETHAF hyd yn hyn (yup, waeth na Diana the Musical😨). Ymunwch â Bryn, Iestyn a Sions i leddfu'ch unigrwydd gyda 2+ awr o tech talk, trafod obsesiwn plant Sioned efo "Death in Paradise" ac awgrymiadau beth DYLE chi wylio (hint: Deffinetli ddim Argylle) Diolch o galon i bawb sy'n gwrando a chyfrannu - chi wirioneddol yn lejys bob un 🥹

  26. 134

    Dune i’m, ‘de

    Pasg hapus... neu ffŵl Ebrill? Penderfynwch chi! OK, mae 'na newyddion tech i’w gael, ond mae pennod Mis Mawrth yn un Ffilm Di Ddim ffest go iawn... diolch i ffrind y sioe Ross McFarlane, mae Bryn, Sions ac Iest wedi gwylio DUNE (1984). Dy’n ni ddim yn rhy siŵr os ydyn ni’r un bobl ar ei ôl o, ond tiwniwch mewn i glywed Diolch i bob un ohonoch chi sy’n gwrando, cyfrannu a chefnogi ni bob mis - a diolch arbennig i Iest am waith arwrol golygu a chynhyrchu’r sioe mis yma 🔥"I must not fear. Fear is the mind-killer. Fear is the little-death that brings total obliteration. I will face my fear. I will permit it to pass over me and through me. And when it has gone past I will turn the inner eye to see its path. Where the fear has gone there will be nothing. Only Yr Haclediad will remain."🔥

  27. 133

    Ddim cweit yn Taron 12

    “Haul y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn” meddai’r Nains, so anwybyddwch y pelydrau egwan yna, ffendiwch flanced a cwtshwch fyny am bennod Chwefror 2024 o’ch hoff podlediad tech-ffilm-sortof! O’r diwedd byddwn ni’n mynd i’r berllan i weld be di’r ffys am yr Apple Vision Pro, a wedyn syllu’nyn gegrwth ar fideos AI diweddaraf Sora. I’r rhai ohono chi sy’n joio’r podcast-within-a-podcast, mae’r #FfilmDiDDim yn... ofnadwy?! Mi oedd na LOT o emosiynau cryf wrth drafod (Not your Daddy’s) Robin Hood (2018), y Robin Hood gwaethaf erioed?! Diolch i bawb sy’n gwrando a chefnogi - chi werth y byd! 🙏😊

  28. 132

    Rebal Moon Wîcend

    Diwedd mis Ionawr, tywydd ofnadwy, ond mae na gwmni da a ffilm gwael genno ni i'ch cadw i fynd! Bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod sgandal Horizon, Gladiators, dyfais ddigidol Rabbit (ond dim honna sori), memory hole Bryn am Bwncath ac amserlennu bysus efo AI. Mae'r ffilmdiddim yn LLANAST o gynhyrchiad gan un o feistri'r genre - Rebel Moon gsn Zack Snyder. Tybed pa un o'r criw oedd dioddef PMS gwaeth na'r arfer o'i herwydd? 😅 Diolch o galon eto i bawb sy'n gwrando, cyfrannu a rhoi hwb i ni gario mlaen efo'r nonsens llwyr yma 😘

  29. 131

    A Christmas Twistmas🎄🌪️

    🎄A dyma ni gyfeillion… gwledd Nadolig swmpus arall gan griw ffyddlon yr Haclediad. Mae’r fideo 10 awr 4k o le tân yn ffrydio as we speak, felly neidiwch mewn a joiwch ddechrau’r gwyliau Nadoig gyda ffilm-di-ddim-am-ddim OFNADWY a thrafodaeth ddeallus* a sensitif* o newyddion y flwyddyn. Mae Bryn, Iest a Sions yn cael dipyn o ddychryn go iawn wrth i Bard gamddarllen adroddiad S4C, yn cael dipyn o laff ar gelwydd Google Gemini ac yn joio trio ffigro allan be ydi teitl y Ffilm Di ddim - A Chritsmas Twister, neu F6: Twister?! Bethbynnag ydy’r enw, diolch i chi gyd sy’n cyfrannu i gadw’r servers yn spinio yma ar yr Haclediad - yn enwedig i diolch I Ross McFarlane a Jamie mis yma! 🥹 DIolch i bob un ohonnoch chi sy’n rhannu’r 3ish o oriau yma efo ni bob mis, gobeithio y byddwn ni’n cadw chi i fynd trwy’r gwyliau ma os ydych chi’n teimlo bach yn unig 🫶🎄

  30. 130

    Large Language Model Croft: Tomb Raider

    Gyda S4C yn sacio un pennaeth ac Open AI yn sacio/ddim sacio un nhw, dyma bodlediad i chi sy wastad dan yr un arweinyddiaeth gadarn... ond sydd hefyd ddigon twp i wylio ffilms ofnadwy bob mis😅 Yn Haclediad Mis Tachwedd bydd Iest, Bryn a Sions yn datgymalu dyfodol OpenAI a’r Gynhadledd Bletchley; trafod mysterious airtags yn ymddangos ar dy ffôn; ffindio’r clustffonau bach gorau ac wrth gwrs gwylio Lara Croft: Tomb Raider ar BBC iPlayer am laffs y #FfilmAmDdim Da ni’n hynod ddiolchgar i bawb sy’n gwrando a chyfrannu bob mis - diolch arbennig i Matt M a Jamie am roddion hael mis Tachwedd☺️

  31. 129

    Tri Gwrach, un Pwmpen

    Ma genno ni bennod mwy sgeri na climate change i chi Mis yma - neu mwy sgeri nac AI oleia😏 Ymunwch â’r frightmasters eu hunain, Iestyn, Bryn a Sions i drafod y Google Pixel 8, printers (!) a sut i wneud dim byd gyda Jenny Odell 😴 FfilmAmDdim y mis ydy The Witches of Eastwick - ffilm gwallt mawr gorau'r ganrif ddiwethaf? Gewch chi weld 🧙‍♀️🧙‍♀️🧙‍♀️ Diolch i Daf y Gath, ab Agwedd a Jamie am gyfraniadau arbennig i'r pot KoFi mis yma - da ni'n wirioneddol stunned pan mae gwrandawyr yn cyfrannu, diolch o galon i chi gyd 🥹 🎃 Calan Gaeaf hapus - joiwch spooky season 🕷️

  32. 128

    SpecsDols G.I. Ken

    Hwciwch y pumpkin spice lattes na i'ch veins i ddathlu dechre'r hydref efo Bryn, Iest a Sions 🍂🍁 Mae'r dyfeisiadau diweddaraf gen Apple, Amazon a Google dan y chwyddwydr - yn ogystal â bill amddiffyniad plant digidol llywodraeth Prydain a pa mor syndod o ddefnyddiol ydy Bing chat 💡 Ond mae na laffs hefyd - mae'r Ffilm Di Ddim Am Ddim mis yma yn un o'r rhai mwyaf contrafyrshal ers Valerian! Ydy G.I. Joe Origins: Snake Eyes (Channel 4) yn ffilm o ddychymyg bachgen 11 oed efo cool sword fights, neu yn llanast llwyr fel gyrfa Henry Golding druan? Gwrandewch i ffeindio allan! Diolch i bawb am wrando a chefnogi - popiwch geiniog yn y cwpan KoFi i helpu efo'r costau hostio os da chi'n joio be chi'n clywed 😘🙏

  33. 127

    Bwncath Seepage

    Croeso i blow out diwedd y gwyliau i griw'r Haclediad - da ni'n rhoi Haf 2023 i'w wely gyda kraken o benod i chi ☺️ Ymunwch gyda Bryn, Sions ac Iestyn i weld final death throws TwiXter, yr argymhellion i gael awdurdod darlledu i Gymru a holi sut allith yr Eisteddfod ehangu allan o'r maes yn ddigidol... hyn oll a'r campwaith o FfilmI'rDim "Master and Commander: Far side of the World", pa weevil basa chi'n dewis?🤔 Saethwch eich cannon balls llawn arian draw i'r cyfrif KoFi neu rhannwch y sioe efo rwyn sydd angen cwtsh clustiau 😘 Diolch am eich cefnogaeth 🫶

  34. 126

    Treklediad: Deep Space Bryn

    O'r diwedd, mae Bryn, Sions a Iestyn wedi ffendio ffordd i neud yr Haclediad yn hydynoed mwy o niche podcast na'r arfer... Ni'n neud pennod ar ffilm Star Trek 🤣 Na, na, peidiwch â mynd! Mae'n OK, mae genno ni lwyth o bethe arall, addo 😅 Fel bod ceir self driving rŵan yn road legal yn y DU, yr hwyl sydd i gael efo Bard a Bing, y trend weird o ffrydwyr NPCs ar Onlyfans ac wrth gwrs... Da ni'n gwylio Star Trek: Nemesis SORI NOT SORI. (cafodd y pod ei recordio CYN i Elon gael un normal iawn a newid Twitter i X dros nos - ond i fod yn onest, sa ni just wedi neud jôcs Vin Diesel am y peth probabli) Diolch o galon o bob UN ohonoch chi sy'n gwrando, a'r Unicorn Investors sy'n cyfrannu bob mis i gadw ni i fynd - da chi gyd yn blydi gwych 🥹

  35. 125

    Caernarfon Has Fallen

    Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co’ chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni’n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ’r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy’n gwrando ac yn cyfrannu bob mis - chi’n ridic a da ni’n meddwl y byd ohonoch!

  36. 124

    Byth Di Bod i Japan

    Mae’r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o’r diwedd -yup, mae’r haf yn dod! Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension 😨 Hefyd y mis yma fe gewch chi chydig iawn o actual newyddion tech, a llwyth o travel vlog Sions wrth iddi ddychwelyd o daith gyfareddol i Japan 🗾 Hyn oll a llawer mwy ar Haclediad Mis Mai! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, rhannu a hoffi’r sioe - chi werth y byd ❤️

  37. 123

    AI Generated Gwynfor Evans

    Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi. Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN! A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?! Yr atebion i hyn a llawer mwy yn Haclediad 121! Diolch am wrando, etc!!

  38. 122

    Pennod Mis Mawrth but make it Mis Ebrill / “Cocaine be?!”

    Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill! Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM! Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn 😘 ☕ Diolch eto, a welwn ni chi ddiwedd y mis 😍

  39. 121

    The Iest and the Furious

    Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid! Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7 Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi! 😘

  40. 120

    Sh*tcake Mushrooms

    Blwyddyn newydd dd- wps! OK so mae'r Haclediad braidd yn hwyr efo'r cyfarchion, ond dyma chi gwerth mis arall o #cynnwys tech a pop culture i'ch cadw i fynd yn 2023! Da ni'n popio draw i CES i weld skins newydd i dy gar, sensor piso a sut i optimeiddio dy hun i fod yn super hiwman. Ond pwy sydd angen hiwmans pan fydd AI yn neud y job drosa ni eniwe? Ffilm di ddim y mis ydy'r epic oesol Warcraft gan ffrind y sioe Duncan Jones - a bydd Iest, Bryn a Sions yn argymell beth ddylai chi wylio yn lle hwnnw yn yr after party. Joiwch, diolch am bob cyfraniad a welwn ni chi mis nesa!

  41. 119

    Sharknadodolig on Ice

    Da ni’n dathlu heuldro’r gaeaf yn yr unig ffordd bosib eleni - efo llwyth o booze a ffilm ofnadwy(o dda!) Iep, mis yma ni’n parhau i CSI-io diwedd Twitter, yn gegrwth efo sgams FTX, ac yn dathlu FIND Y FLWYDDYN gan Iest - ffilm A CHRISTMAS ICETASTROHE (2014) Diolch o galon i chi GYD am wrando, cyfrannu a chefnogi elenni - welwn ni chi am fwy yn 2023 🥰

  42. 118

    Twit-Ty-Whodunnit

    OK bawb, mae'n gwdyn cymysg o'r gwych a'r gwallgof heno ar eich hoff bodlediad tech-a-phopeth arall, croeso ir gaeaf! Setlwch nôl efo mulled wine a neidiwch mewn i gornel crypto enfawr wrth i Iestyn drio esbonio be ddiawl sy'n digwydd 😅 Ry'n ffarwelio â cartref y we Gymraeg ers degawd wrth i Twitter gwympo'n ddarnau dan Elon Musk... Ac heb anghofio, mae'n dymor y siwmperi a charthenni, felly fe wylion ni Ffilm I'r Dim mis yma - See How They Run, cwtshwch lan a neidiwch mewn 🛋️

  43. 117

    NFCheese

    Gyda tymor sbŵci ar ein pennau bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn neidio mewn i newyddion tech/bywyd/popeth yr hydref - ydy Rishi Sunak yn crypto bro? Hiraeth hen iPods a (diffyg) ethics apps cymdeithasol. (Recordiwyd y sioe cyn i Elon Musk actually brynu Twitter tho, sori!) Ffilm di ddim y mis ydy John Carter, ydy’r 10 mlynedd ers iddo agor wedi newid y feirniadaeth arno…? (sboilers: mae un o’r criw yn flin am y peth!) Diolch o galon eto i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r sioe bob mis 🥹

  44. 116

    Contrepreneurs

    Oeddech chi’n meddwl bod dim Haclediad am fod mis yma? Dim y fath lwc, yn hwyr neu’n hwyrach dyma hi, Haclediad mis Medi! Mae Bryn yn ôl o’i wyliau yn yr Eidal (dydi o ddim yn licio siarad amdano) ac yn barod i drafod newyddion tech efo Iestyn a Sioned. Bydd y criw yn trafod fideo newydd Dan Olson am Evans passive income, hardware newydd Amazon a cynhyrchiad theatr / ffilm / arlein newydd trippy “Galwad”. Yn fwy na hyn, bydd y criw yn trafod o bosib y ffilm di ddim di-ddimiaf ohonynt i gyd: MOONFALL (spoilers: pa un o’r tri sy fwya blin efo hwn? The answer might surprise you!) Diolch o galon i bawb am gefnogi a gwrando - os hoffech chi gefnogi ni, taflwch geiniog it het fan hyn, neu rhannwch ni gyda’ch ffrindiau!

  45. 115

    RRR-Bennig

    Mae’r tech yn eilradd i’r ffilm y mis yma - gyda Iestyn, Bryn a Sions yn taclo’r Ymerodraeth Brydeinig yn y FFORDD MWYAF EPIC trwy wylio/profi RRR 🤯 OK, mae na chydig o tech hefyd, gyda sŵn diffeithwch y gofod, keyloggers yn browsers eich hoff social media apps a burnout artistiaid vfx - ond gan fwyaf? RRR fancast ydy hwn mis yma (a byddwn, fyddwn ni'n sôn am y stwff problematic hefyd 😣) Diolch o galon i’n holl gyfranwyr ar Kofi, ac i bob un ohonoch chi sy’n gwrando ar y llanast yma bob mis - ni’n falch o gael chi yma 🥰

  46. 114

    Rheol Goldblum's Law

    Dyma hi, parti haf (arall) yr Haclediad - a mae hi just digon hir i bara'r dreif i'r sdeddfod 😬 🍹 Fel Piña colada i'ch clustiau, bydd Bryn, Iestyn a Sions yn sipian drinks oer, trafod Glassholes, backlash Insta newydd a ffilm... Dda!? Yup, ar ôl dwy flynedd o 'Ffilmiau Di Ddim', mae'r criw yn swapio'r rhai gwael am 'Ffilmiau Pam Ddim?' Ac yn deifio fewn efo'r design classic mildly problematic The Man From U.N.C.L.E. 😅 Diolch o galon eto i bawb sy wedi ein cefnogi ni wrth wrando a chyfrannu i'r gronfa slush ☀️😎

  47. 113

    Anadin Skywalker: The Cursed Haclediad

    Meddwl mai dim ond Iesu Grist oedd yn gallu atgyfodi pethe o farw'n fyw? Meddyliwch eto - trwy rhyw wyrth mae’r criw yn cyflwyno Pennod 111 i chi: The Cursed Haclediad. Mae na newyddion sentient chatbots a’r Apple WWDC yn ogystal â Ffilm di Ddim rybish go iawn (Jumper gyda Hayden Christensen);ond yn bwysicach na hynny... Mae na bennod wedi ei ryddhau mis yma diolch i Iestyn Grist ✝️😇👼 Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu 😉a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍

  48. 112

    Wild Mountain Thymecoin

    Croeso i Haclediad arall sy’n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti’n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?” Mae’r ateb i hwn, a’ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o’r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni’n joio llenwi’ch clustiau efo’r audio equivalent o’r distraction dance - os chi awydd ymuno â’r criw ffyddlon o gyfranwyr, taflwch cwpl o bunnoedd i’r pot Ko-rfi ☺️

  49. 111

    House of Chŵd-cci

    Os nad yw’r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill😅 Mae gyda ni 2+ awr o newyddion tech, barn heb ymchwil na gwybodaeth, a ffilm di-ddim FFYRNIG🔥 Bydd Iest, Bryn a Sions yn holi pam na chafon nhw £32k i wneud podcast am gaws efo Mark Drakeford, dwyn Netflix logins Yncl Rhyds a trio deall Bond villain plan Elon Musk - hyn i gyd cyn gwylio HOUSE OF GUCCI a lansio spin off sit-com efo Paolo👌 Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - welwn ni chi gyd mis nesa 😍

  50. 110

    BMX Bryndits

    Mae’n dymor newydd, felly dyma bennod ffresh lliwgar i’r gwanwyn i chi ffam yr Haclediad - mwynhewch 2+ awr o Bryn, Iestyn a Sions yn eich clustiau. Mae ganddo ni scoop o newyddion tech go-iawn gan Iest - app Speechify a’i tech llais text-to-speech Cymraeg sy'n curo Siri. Hefyd, y newyddion tech allai helpu droi'r llanw yn rhyfel torcalonnus Iwcrain. Ffilm di ddim y mis ydy’r ridic/hyfryd/weird BMX Bandits o 1983 - ac with gwrs mae na sbrinclad o awgrymiadau ffilms, streaming a (old skool) llyfrau i gael chi trwy’r mis nesa. Diolch i bawb sy’n gwrando, ac i’r legends sy’n cyfrannu i’n Ko-fi - chi’n wych 🤩

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

HOSTED BY

Haclediad

URL copied to clipboard!