EPISODE · May 11, 2021 · 21 MIN
Pennod 1 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
from Podlediad Eryri / Eryri Podcast · host APCE / SNPA
Sesiwn 1: Cwrdd ar traedMae'r sesiwn gyntaf hon yn eich gwahodd i gwrdd ar traed. Yn aml iawn mae ein sylw yn nghanol ein meddyliau. Dyma gyfle i dalu sylw’n fwriadol i'r corff ac i archwilio'r byd o'n cwmpas trwy wadnau ein traed.Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tuallan.Daw cân yr adar ar ddechrau a diwedd y recordiad hwn o ardd sydd yn cefnu ar y Carneddau wrth i'r haul godi dros Foel Faban.Gwahoddiad 1: ‘Cwrdd a'r traed’Sefyll (neu eistedd) gyda'r traed wedi eu gosod yn wastad ar y llawr, gan gymryd anadl ddyfnach...Gadael i'r corff a'r meddwl i setlo y gorau gallwch... fe allwch hyd yn oed gymryd ochenaid hir..Yna dod ar sylw at wadnau eich traed...Sylwi ble mae'r pwysau ar y traed... ar belen y droed, y sodlau, bysedd traed..? A oes yna ran o'r troed nad yw'n cyffwrdd y llawr?Tiwnio i mewn i weadau a theimladau o dan y traed - beth sydd yma...? Efallai yn sylwi ar ryg neu garped meddal os ydych chi y tu mewn, neu ansawdd y glaswellt neu galedwch Ilwybr llechi os ydych chi y tu allan...Cymryd cam neu ddau gan fod a diddordeb yn y teimladau a'r newidiadau sy'n codi yng ngwahanol rannau o'r traed...Sut un ydi'r cam yma...? Gan sylwi ar y teimladau sy'n codi drwy wadnau'r traed wrth i chi dalu sylw, fel pe bai am y tro cyntaf erioed...Chwalu myth Meddylgarwch : Rhaid ymarfer meddylgarwch yn arafNid oes rhaid ymarfer meddylgarwch yn araf. Gallwn ymarfer cerdded neu redeg yn ystyriol, gan sylwi ar deimladau or awel yn rhuthro heibio neu swn y traed yn glanio. Weithiau gall helpu iddechrau drwy arafu, gan gymryd saib bwriadol, gan sylwi ar fanylion y teimladau yn eithaf manwl ar y dechrau.Bydd y sesiwn nesaf yn cynnwys synau o ran gwahanol o'r Carneddau ac ymarfer meddylgarwch drwy dalu sylw i'r anadl fel lle i angori'r sylw.
Embed this episode
What this episode covers
Sesiwn 1: Cwrdd ar traed Mae'r sesiwn gyntaf hon yn eich gwahodd i gwrdd ar traed. Yn aml iawn mae ein sylw yn nghanol ein meddyliau. Dyma gyfle i dalu sylw’n fwriadol i'r corff ac i archwilio'r byd o'n cwmpas trwy wadnau ein traed. Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tu allan. Daw cân yr adar ar ddechrau a diwedd y recordiad hwn o ardd sydd yn cefnu a...
NOW PLAYING
Pennod 1 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
No similar episodes found.
Similar Podcasts
No similar podcasts found.