EPISODE · May 12, 2021 · 17 MIN
Pennod 2 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
from Podlediad Eryri / Eryri Podcast · host APCE / SNPA
Sesiwn 2: Dod at yr anadlMae'r arfer meddylgarwch y sesiwn yma yn eich gwahodd i angori eich sylw yn yr eiliad bresennol gan ddefnyddio'r anadl. Gall ymarfer rhoi ein sylw fel hyn yn yr oes sydd ohoni ein helpu i wasgu'r botwm saib ar yr adegau hynny pan fydd ein meddyliau'n carlamu a phryderon.Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tu allan.Y tro yma, mae'r synau natur ar ddechrau ac ar ddiwedd y recordiad yn dod o gae wrth ymyl Afon Ffrydlas, yn uchel uwchben Bethesda.Gwahoddiad 2: Dod at yr anadlDod o hyd i le cyfforddus a rhoi eiliad i'r corff setlo...Sylwi... ar y teimladau yn y traed... lle mae'r corff yn cysylltu a'r sedd o'ch dewis...Ymhle mae'r anadl yn ymddangos yn y corff? Efallai y gallwch osod eich llaw i ddilyn symudiad y corff mewn ymateb i'r anadl...Bydd y meddwl yn siwr o grwydro yma ac acw...efallai y bydd yn cynllunio neu yn cofio...pan fydd hyn yn digwydd, yna ymarfer ei dywys yn ôl yn garedig - sut un ydir anadl yma?Mae anadlu yn rhywbeth y mae ein cyrff yn ei wneud ar ei ben ei hun...does yna ddimangen ceisio anadlu mewn ffordd benodol - ddim ond sylwi ar yr anadl fel ag y mae...Chwalu myth meddylgarwch: Mae angen i chi wagio eich meddwil o feddyliauEfallai mai un o'r camsyniadau mwyaf cyffredin o feddylgarwch yw bod angen i chiwagio'ch meddwil neu atal eich meddyliau. Nid yw hyn yn wir ac mae hyn bron ynambhosibl! Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag annog perthynas mwy cyfeillgar a'nmeddyliau ac fe all hyn leihau tensiwn yn ein bywydau.Bydd y sesiwn nesaf yn cynnwys synau o ran wahanol o'r Carneddau ac arfer meddwlgarwch ynglyn a defnyddio'r synhwyrau fel Ile i angori ein sylw.
Embed this episode
What this episode covers
Sesiwn 2: Dod at yr anadl Mae'r arfer meddylgarwch y sesiwn yma yn eich gwahodd i angori eich sylw yn yr eiliad bresennol gan ddefnyddio'r anadl. Gall ymarfer rhoi ein sylw fel hyn yn yr oes sydd ohoni ein helpu i wasgu'r botwm saib ar yr adegau hynny pan fydd ein meddyliau'n carlamu a phryderon. Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tu allan. Y tro yma,...
NOW PLAYING
Pennod 2 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
No similar episodes found.
Similar Podcasts
No similar podcasts found.