EPISODE · May 13, 2021 · 20 MIN
Pennod 3 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
from Podlediad Eryri / Eryri Podcast · host APCE / SNPA
Sesiwn 3: Cysylltu a'r synhwyrau: gwrandoMae'r sesiynau nesaf yn ein harwain i ddechrau cysylltu'n wirioneddol efor synhwyrau, yn gyntaf yr ymdeimlad o swn. Gall dod a’n sylw at ein synhwyrau ddod ani yn ol i'r presennol, ac fe all fod yn ddefnyddiol iawn pan fydd ein meddyliau yn cael eu tynnu tuag at bryderon neu straen.Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tu allan.Y tro yma, mae'r synau natur ar ddechrau ac ar ddiwedd y recordiad yn dod o Nant y Geuallt uwchben Capel Curig ar noson oer o Ebrill yng nghanol eira.Gwahoddiad 3: GwrandoDod o hyd i le cyfforddus a gadael i'r corff setloSylwi...ar unrhyw deimladau sy'n codi yn y traed neu rythm yr anadl...Pa synau sy'n bresennol?Ar gyfer yr ymarfer hwn, gweld os yw hi'n bosib gwrando ar hyn rydych chi'n ei glywed heb ei enwi - gan sylwi ar bethau fel y traw...dirgryniad...ton...y gwahanol synauPan fydd llif y meddwl yn prysuro, gweld os yw hi’n bosib i'w nodi ac yna dod yn ol at y profiad uniongyrchol, presennol o wrandoTalu sylw yn ofalus i'r sain - efallai sylwi ar synau o wahanol gyfeiriadau, synau agos neu bell, synau meddalach neu galetach, hirach neu fyrrach - beth sydd yma?Chwalu myth meddylgarwch: Mae angen lle tawel iawn arnoch i ymarfer (Sesiwn 3)Gellir ymarfer meddylgarwch yn unrhyw le! Yn aml, mae'r amgylchedd o'n cwmpas yn brysur ac yn swnllyd a gall gymryd eiliad i sylwi ar yr ystod o synau (ac efallai ein hymatebion i'r gwahanol synau hefyd) fod yn arbrawf diddorol.Yn y sesiwn nesaf bydd y synau'n dod o ran wahanol or Carneddau gydag ymarfer meddwigarwch ynglyn ag archwilio'r ymdeimlad o olwg yn ofalus.
Embed this episode
What this episode covers
Sesiwn 3: Cysylltu a'r synhwyrau: gwrando Mae'r sesiynau nesaf yn ein harwain i ddechrau cysylltu'n wirioneddol efor synhwyrau, yn gyntaf yr ymdeimlad o swn. Gall dod a’n sylw at ein synhwyrau ddod ani yn ol i'r presennol, ac fe all fod yn ddefnyddiol iawn pan fydd ein meddyliau yn cael eu tynnu tuag at bryderon neu straen. Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei ...
NOW PLAYING
Pennod 3 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
No similar episodes found.
Similar Podcasts
No similar podcasts found.