EPISODE · May 14, 2021 · 23 MIN
Pennod 4 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
from Podlediad Eryri / Eryri Podcast · host APCE / SNPA
Sesiwn 4: Cysylltu a'r synhwyrau: GweldMae'r sesiwn hon yn eich gwahodd i dalu sylw yn ofalgar i'r hyn a welir. Yn aml, rydym yn tueddu i dan-ddefnyddio neu or-ddefnyddio synhwyrau penodol, felly gall treulio peth amser yn cysylltu ag un penodol mewn modd bwriadol ein helpu ni i ymarfer dewis lle rydyn ni'n rhoi ein sylw. Er enghraifft, cymryd persbectif ehangach os ydym yn cael ein cloi i mewn i lif meddwl annefnyddiol.Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei dria y tu allan.Y tro yma, mae'r synau natur ar ddechrau a diwedd y recordiad yn gan adar o goetir bedw ifanc ar lethrau isaf Llefn a Gyrn.Gwahoddiad 4: Sylwi ar yr hyn a welirDod o hyd i fan cyfforddus a gadael i'r corff setlo...Sylwi...ar unrhyw deimladau yn y traed neu rythm yr anad...Yna, gan orffwys y sylw ar weld - beth sydd yma? Cymryd diddordeb cyfeillgar mewn siapiau, lliwiau, oes yna bethau yn symud neu a ydynt yn llonydd...Sylwi ar unrhyw feddyliau neu straeon sydd yn codi wrth i ni edrych, a dod yn Al i brofiad mwy uniongyrchol o'r hyn y gallwch ei weld...gweadau...arlliwiauChwarae gydag eich ffocws, efallai sylwi ac archwilio manylion cae neu goeden benodol ac yna ymestyn y sylw i weld y darlun ehangach, fel amlinelliad crwm mynyddoedd neu goedwig.Chwalu myth meddylgarwch: Mae'n rhaid i chi eistedd yn llonydd iawn i ymarfer meddylgarwchGall fod yn dda ymarfer meddylgarwch yn eistedd, yn ogystal 4 dod ag ymwybyddiaeth i beth bynnag a wnawn, p'un a yw'n sylwi ar naws Gl ein troed, manylion yr hyn y gallwn ei weld neu swn y gwynt wrth gerdded.Yn y sesiwn nesaf bydd y synau'n dod o ran wahanol or Carneddau ac ymerfer pellachi archwilio'r synhwyrau.
Embed this episode
What this episode covers
Sesiwn 4: Cysylltu a'r synhwyrau: Gweld Mae'r sesiwn hon yn eich gwahodd i dalu sylw yn ofalgar i'r hyn a welir. Yn aml, rydym yn tueddu i dan-ddefnyddio neu or-ddefnyddio synhwyrau penodol, felly gall treulio peth amser yn cysylltu ag un penodol mewn modd bwriadol ein helpu ni i ymarfer dewis lle rydyn ni'n rhoi ein sylw. Er enghraifft, cymryd persbectif ehangach os ydym yn cael ein cloi i mewn i lif meddwl annefnyddiol. Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canlla...
NOW PLAYING
Pennod 4 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
No similar episodes found.
Similar Podcasts
No similar podcasts found.