EPISODE · May 16, 2021 · 21 MIN
Pennod 6 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
from Podlediad Eryri / Eryri Podcast · host APCE / SNPA
Sesiwn 6: Ymarfer y mynyddMaer sesiwn olaf hon yn ymarfer y mynydd. Gall mynyddoedd fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth wych ar gyfer meddylgarwch a gall yr ymarfer hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd pethau'n teimlo'n ansefydlog. Gall dwyn delwedd o fynydd i'r cof, Gyda'u rhinweddau o erytder, llonyddwch a sefydlogrwydd ein helpu i ddod o hyd i lonyddwch yng nghanol y newidiadau o'n cwmpas.Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio heb arweiniad.Mae'r synau natur ar ddechrau a diwedd y recordiad yma yn ganeuon adar ar noson oer o Ebrill mewn gardd yn Rachub wrth i'r haul fachlud.Gwahoddiad 6: Ymarfer y mynyddDod o hyd i le cyfforddus gan adael i'r corff ar meddwl setlo y gorau gallwch...Cymryd ychydig eiliadau i orffwys eich sylw ar y corff, neu'r anadl...Dod a mynydd i'r cof - efallai un o'r Carneddau, neu ymhellach i ffwrdd...Dychmygu siap y mynydd... ei sylfaen gadarn a'i amlinelliad...y llethrau, y copa crwn neu garw...sut brofiad ydio...?Gan gofio rhinweddau'r mynydd - efallai ei lonyddwch, ei harddwch a'i natur fawreddog...Sylwi sut mae'r mynydd yn Illonydd ac yn gyson trwy gydal yr holl newidiadau o'i gwmpas - y golau...y tywydd...y gwahanol dymhorau...Gorffwys gyda'r ddelwedd hon o fynydd yn eich meddwl.Chwalu myth meddylgarwch: Mae angen i chi ymarfer am gyfnodau hirMae arferion hirach yn wych hefyd, ond gall hyd yn oed dilyn anadl neu ddwy neu roi sylw ar uno'n synhwyrau helpu os ydym yn teimlo'n boenus neu'n bryderus, gan ddod a ni yn ol i'r foment bresennol.Dyma'r sesiwn olaf yn y gyfres hon o bodlediadau meddylgarwch a natur. Gobeithio eich bod wedi mwynhau. Mae'r gyfres o bodlediad meddylgarwch yma ym myd natur yn gydweithrediad rhwng Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, Gwenan Roberts o Ymwybyddiaeth Gwynedd a Golygfa Gwydyr
Embed this episode
What this episode covers
Sesiwn 6: Ymarfer y mynydd Maer sesiwn olaf hon yn ymarfer y mynydd. Gall mynyddoedd fod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth wych ar gyfer meddylgarwch a gall yr ymarfer hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd pethau'n teimlo'n ansefydlog. Gall dwyn delwedd o fynydd i'r cof, Gyda'u rhinweddau o erytder, llonyddwch a sefydlogrwydd ein helpu i ddod o hyd i lonyddwch yng nghanol y newidiadau o'n cwmpas. Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad...
NOW PLAYING
Pennod 6 - Dod at ein coed - Trwy ein synhwyrau
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
No similar episodes found.
Similar Podcasts
No similar podcasts found.