EPISODE · Feb 5, 2021 · 16 MIN
Pigion Dysgwyr 5ed Chwefror 2021
from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Steffan Cennydd Os oeddech chi’n un o’r miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi’n cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos ymaMwya llwyddiannus - Most successfulGolygfa - SceneGyferbyn â - Opposite toMae’n fyd enwog - He’s world famousEgni - EnergyRhwydd - HawddDerwen - OakMarian Brosschot Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e’n amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi’n rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr yn dysgu Daneg. Pwy well felly i roi cynghorion ar ddysgu iaith. Dyma ambell i gyngor rannodd hi ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha. Gofynnodd Aled iddi hi oedd canu yn ffordd dda o ddysgu iaith…Iseldireg - Dutch Daneg - DanishYstyr dyfnach - A deeper meaningArwynebol - SuperficialLlythrennol - Literal Trwytho - To saturateDywediadau - SayingsChdi - TiWsos - WythnosYnganiad - PronunciationAm w’n i - As far as I knowJonathan Simcock Rhywun sy wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl ydy Jonathan Simcock, er ei fod yn byw yn Derby. Mae Jonathon wedi bod yn trefnu clwb a gwersi Cymraeg i ddysgwyr ardal Derby a Nottingham ers blynyddoedd. Cafodd Shan Cothi sgwrs gydag e ar Bore Cothi a gofynnodd hi i Jonathon sut oedd Cylch Dysgwyr Derby a Nottingham wedi ymdopi â’r cyfnod clo…Ymdopi - To copeArferol - UsualTu hwnt - BeyondYmhlith - AmongstAlltud - ExiledCerdd - PoemOfferyn - InstrumentCymunedol - CommunityLlawen - MerryLlion Thomas Felly os dych chi’n barod i gymryd rhan yn y noson lawen cysylltwch â Jonathon Simcock, dw i’n siŵr basai’n falch iawn o glywed gennych. Mae gan Llion Tomos o Ynys Môn gi talentog iawn o’r new Max – fel clywodd Emma a Trystan ar eu rhaglen fore Gwener…Dallt - DeallSillafu - To spellCawn ni weld - We’ll seeAballu - And so onGwenith Evans Wel dyna ni berfformiad perffaith i noson lawen Cylch Derby – Llion rhaid i chi gysylltu â Jonathon Simcock! Therapydd cerdd ydy Gwenith Evans o Benparc ger Aberteifi, a buodd hi’n gweithio yn Seland Newydd tan tua dau fis yn ôl ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghymru unwaith eto. Dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiad yn Seland Newydd yn ystod y pandemig…Ffodus - FortunateEitha clou - Quite quicklyLlond llaw - HandfulDihunais i - Wnes i ddeffroRhyddid - FreedomFfaelu - MethuSa i’n siŵr - Dw i ddim yn siŵrAeron Pughe Hanes y cyfnod clo yn Seland Newydd yn fan’na ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws. Mae priodi yng nghefn gwlad Cymru yn gallu bod yn rhywbeth peryglus iawn yn ôl yr hanesion glywon ni ar Troi’r Tir. Dyma i chi Aeron Pughe o Gomins Coch ger Machynlleth i ddechrau yn rhoi hanes ei briodas e… Drygioni - MischiefGwas priodas - Best manCwmpodd y goeden - The tree fellLlanast - MessBudreddi - DirtYn enedigol o - A native of Fawr ddim cwsg - Hardly any sleepTraddodiad - TraditionRhaffau - RopesGroes yr heol - Ar draws y ffordd
What this episode covers

NOW PLAYING
Pigion Dysgwyr 5ed Chwefror 2021
No transcript for this episode yet