Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021 episode artwork

EPISODE · Oct 1, 2021 · 15 MIN

Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … COFIOPlentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio’r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi...Gwâdd To invite Yn ddigalon TristAnadlu To breathePeswch A coughWyddoch chi You knowBORE COTHICantores arall sy’n gorfod teithio’r byd yw Rhian Lois a buodd hi’n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi’n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi?Synhwyrau SensesArogl A smellBant I ffwrddLlanw fy nghalon i Fills my heartCroten Merch fachMam-gu NainGWNEUD BYWYD YN HAWSY gantores Rhian Lois oedd honna yn sôn am ei merch fach Elsi. Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a’r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna’n siarad gyda Ellie Armstrong o’r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae’r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd.Ymateb ResponseHynod o lwyddiannus Extremely successfulLlaeth gafr Goat’s milkLlys-fam StepmotherTawlu TafluCyflyrau croen Skin conditionsEitha tost Quite illALED HUGHESKefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda’i gŵr, Scott Griffiths, sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau’r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed?Adnoddau ResourcesBodolaeth ExistenceIFAN EVANSCymraeg gwych gan Morwenna yn fan’na ar ôl dim ond dwy flynedd yn dysgu’r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda’r ‘boy band ‘ Cymraeg Mega. Mae e yn ôl yn perfformio nawr yn rhan o’r grŵp newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega?Hyn a llall This and thatDim mor ffôl a hynny Not that badProfiadau ExperiencesCyfoethogi To enrichGwerth chweil WorthwhileCynhyrchydd ProducerStŵr A rowBETI A’I PHOBLMarc Skone oedd hwnna’n sôn am ei fand newydd Halo Cariad. Mae’r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o’r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn...Buddsoddi To investCyfarwyddwr DirectorAdolygu To reviewCrynhoi To summariseCynulleidfa AudienceAdloniant EntertainmentCynhesrwydd WarmthLlafar VocalRhyngwladol International

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Oct 1, 2021

Embed this episode

NOW PLAYING

Pigion y Dysgwyr 1af Hydref 2021

0:00 15:31

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 15 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on October 1, 2021.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!