Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021 episode artwork

EPISODE · Sep 24, 2021 · 15 MIN

Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … RECORDIAU RHYS MWYN…blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda’r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi’n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg.Amgen AlternativeTelynau HarpsLlinach LinageDylanwadu To influenceBodoli To exist Cantores Female singerAnnwyl AdorableALED HUGHESWel doedd dim eisiau i Francesca boeni dim am ei Chymraeg cyn sgwrsio efo Gwenno nac oedd – mae ei Chymraeg hi’n wych! Dych chi’n hoff o gyfresi trosedd? Mae sawl un ar y teledu y dyddiau hyn on’d oes? Mae cyfres newydd o Silent Witness ar BBC One ar hyn o bryd, ac mae Pembrokeshire Murders wedi cael enwebiad Bafta Cymru. Ond tybed pa mor realistig ydy’r rhaglenni hyn? Dyma farn Nia Bowen, sy’n batholegydd yn Nhreforys, Abertawe. Cyfresi trosedd Crime seriesEnwebiad NominationYmchwil ResearchDwfn DeepCynhyrchwyr ProducersMwy o alw Greater demandCael eu parchu Being respectedHela rhyw lofrudd Hunting some murdererDisgwyliadau ExpectationsGolygfeydd ScenesCOFIO GRAVNia Bowen, y patholegydd o Dreforys, oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes. Ar y 12fed o Fedi eleni basai Ray Gravell wedi dathlu ei benblwydd yn 70 oed. Roedd Grav yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd, yn actor a phawb yn hoff iawn ohono. P’nawn Sul roedd rhaglen arbennig gan John Hardy yn Cofio Grav. Dyma glip bach o Grav yn sgwrsio gyda Beti George yng nghlwb rygbi Mynydd-y-Garreg ger Cydweli yn 2004.Crybwyll To mentionCyfrifoldebau ResponsibilitiesWap ar ôl Yn fuan ar ôlUchafbwynt HighlightHeb os Without doubtSodlau HeelsWedi dweud ar goedd Have proclaimedGenedigaeth BirthBydwraig MidwifeRhegi mewn gorfoledd Swearing in joyBORE COTHIDyna gymeriad oedd Grav on’d ife? ac roedd hi’n dipyn o sialens i‘r actor Gareth John Bale chwarae rhan y dyn mawr mewn ffilm cafodd ei gweld ar S4C yn ddiweddar. Dyma fe’n sgwrsio gyda Shan Cothi am yr her a’r pwysau o actio cymeriad oedd mor enwog a phoblogaidd â Grav... Her A challengePwysau PressureMae’r ymateb mor belled The response so farRhyddhad ReliefDroeon Several times Anrhydedd An honourDyletswydd A dutyDychwelyd To returnDwlu ar To dote onCynulleidfa An audienceCyfarwyddwr DirectorBORE COTHIAc arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr i glywed rhan o sgwrs cafodd Shan gyda Dylan Jones i drafod sut a pham buodd e a’i frindiau yn gwneud Her Tri 3 Chopa Cymru yn ddiweddar. Cerddon nhw Gadair Idris, Pen y Fan ac wrth gwrs, Yr Wyddfa...Asgwrn BoneHer Tri Chopa The Three Peaks ChallengeElusen CharityCadw’n heini Keeping fitCyflwr ConditionArbenigwyr ExpertsCyflawni To fulfilDROS GINIOBasai’n dipyn o her dringo’r tri chopa unrhyw adeg, ond roedd ei wneud tra’n dioddef o gyflwr ar y traed yn anodd iawn baswn i’n meddwl. Y seicolegydd chwaraeon, Seren Lois oedd yn ymuno â Vaughan Roderick ddydd Mercher i drafod sut mae llwyddo mewn chwaraeon ac i sônam yr her a’r pwysau sydd ar athletwyr ifanc, fel enillydd yr US Open, Emma Raducanu.Trafod To discussHyfforddwyr CoachesPencampwraig Female championMewnol InnerBalchder PrideBoed hynny Whether it be Goresgyn To overcomeYmdopi To copeCysurus ComfortingDisglair Brilliant

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Sep 24, 2021

Embed this episode

NOW PLAYING

Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021

0:00 15:31

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 15 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on September 24, 2021.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!