Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023 episode artwork

EPISODE · Apr 11, 2023 · 13 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

Pigion Dysgwyr – Al LewisAr Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill……Cynhyrchydd ProducerO fewn WithinCerddoriaeth MusicDychmygu To imagineBreuddwydion DreamsHynod dalentog Extremely talentedProfiad anhygoel An incredible experienceHwb A boostAr y trywydd iawn On the right trackCael ei barchu Being respectedPigion Dysgwyr – Sonia EdwardsProfiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy….Llacio To loosen Dirgelwch MysteryLlofruddiaeth MurderYn feddalach SofterYmgynghori To consultYmchwil To researchCyffuriau DrugsDarganfod To discoverYn ymarferol PracticalDoethuriaeth PhDPigion Dysgwyr – Jason MohammadA dyna i chi Sonia Edwards yn rhoi blas i ni ar ei nofel ddirgelwch newydd fydd yn y siopau’n fuan. Un o westai Shelley a Rhydian yn ddiweddar oedd y darlledwr Jason Mohammad. Mae Shelley a Rhydian yn rhoi cyfle i’w gwestai bob wythnos ddewis caneuon Codi Calon. Un o ddewisiadau Jason oedd “Pride in the Name of Love” gan U2. Dyma fe i sôn mwy am ei ddewis…..Yn ddiweddar RecentlyDarlledwr BroadcasterCodi Calon Raising the spiritsCyfweliadau InterviewsWatsio GwylioT’m bod Rwyt ti’n gwybod Atgofion MemoriesPigion Dysgwyr – Theatr Wild CatsY darlledwr Jason Mohammad oedd hwnna’n esbonio pam mai “Pride in the Name of Love” oedd ei ddewis fel Cân Codi Calon. Ac roedd angen codi calon arno gan i’w dîm, Dinas Caerdydd, golli i Abertawe yn y ‘Derby’ Cymreig nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Yn Aberhonddu mae yna gwmni theatr arbennig wedi ei sefydlu o’r enw Theatr Wild Cats sy’n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae Gwenno Hutchinson yn gwirfoddoli gyda’r Theatr ac esboniodd hi wrth Caryl Parry Jones ar ei rhaglen nos Fawrth, sut aeth ati i helpu’r criw…..Anableddau dysgu Learning disabilitiesGwirfoddoli To volunteerGweithgaredd ActivityYn gyfleus ConvenientHaeddu To deserveCyfraniad ContributionCymdeithasu To socialiseCelfyddydau ArtsPigion Dysgwyr – Vaughan EvansGwenno Hutchinson oedd honna’n sôn am y gwaith pwysig mae Theatr Wild Cats yn ei wneud. Dych chi yn gwybod beth yw Northern Soul? Wel, daeth Vaughan Evans ar raglen Aled Hughes fore Llun wythnos diwetha i esbonio mwy am y symudiad cerddorol hwn……Symudiad cerddorol Musical movementTanddaearol UndergroundCuriad BeatCefn gwlad The countrysideTywyll DarkDigalon DownheartedPigion Dysgwyr – Dylan Rhys ParryA dyna ni’n gwybod llawer mwy am Northern Soul a’r Wigan Casino nawr, diolch i Vaughan Evans. Mae Dylan Rhys Parry wedi ei ddewis fel un o arweinwyr y rhaglen deledu S4C Ffit Cymru am 2023. Gweinidog yw Dylan sy’n byw yn Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol. Buodd Dylan yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal fore Mercher diwetha a gofynnodd Heledd iddo fe’n gyntaf pam ei fod e wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn rhan o’r gyfres.……..Gweinidog MinisterY gyfres The seriesGwaed BloodClefyd siwgr DiabetesCanlyniadau ResultsYsgogiad ImpetusCanrannau Percentages

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Apr 11, 2023

Embed this episode

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr 11eg o Ebrill 2023

0:00 13:58

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 13 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on April 11, 2023.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!