Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023 episode artwork

EPISODE · Feb 28, 2023 · 13 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

Pigion Dysgwyr – Heledd Sion ...dwy Heledd - Heledd Cynwal a’r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y weUwch seiclo To upcycleGwinio To sew Cyfnither Female cousinGwehyddu WeavingYn llonydd StillAddasu To adaptAwch Eagerness Esblygu To evolveDidoli To sortBuddsoddi To investPigion Dysgwyr - Francesca SciarilloHeledd Cynwal yn fanna’n cadw sedd Shan Cothi’n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi’n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug .Disgybl PupilYr Wyddgrug MoldDylanwad InfluenceEidales Italian (female)Sylweddoli To realiseDarganfod To discoverPigion Dysgwyr – Dion DaviesAc mae Francesca newydd gael ei phenodi fel swyddog hybu darllen yn adran blant y Cyngor Llyfrau. Pob lwc iddi yn ei swydd newydd on’d ife? A sôn am lwc, prynodd yr actor Dion Davies docyn loteri pan oedd e’n ymddangos mewn pantomeim yn Aberdaugleddau fis Rhagfyr, ond anghofiodd e bopeth am y tocyn. Dyma Dion yn sôn am beth ddigwyddodd pan oedd e’n gwagio ei gar ddechrau Chwefror…Ymddangos To appearGwagio To emptyHap a damwain ChanceSa i’n gallu Dw i ddim yn medruPencadlys HeadquartersPigion Dysgwyr – Costa RicaDyna beth yw sioc braf i’w chael – gwagio’r car a ffeindio eich bod wedi ennill pum deg pump o filoedd o bunnau ar y loteri! Nos Lun roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn sôn am ei ymweliad â Costa Rica. Gwlad fechan ydy hi, tebyg i Gymru ond mae sawl peth yn wahanol rhwng y ddwy wlad a dyma Iolo‘n sôn ychydig am y gwahaniaethau rhwng Costa Rica a Chymru…Dylanwad InfluenceArgraff ImpressionAmrywiol VariedGwlad werdd A green countryTebygrwydd SimilarityCynefinoedd HabitiatsAmcangyfrif EstimateGorchuddio To coverUgain y cant 20%Pigion Dysgwyr – Angela OwenMae Iolo Williams yn amlwg wrth ei fodd gyda Costa Rica, on’d yw e? Nos Iau ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Angela Owen. Mae Angela a’i ffrindiau wedi sefydlu Clwb Cerdded yn Mhen Llŷn a dyma hi‘n esbonio pam gwnaeth hi benderfynu sefydlu’r clwb arbennig yma yn y lle cyntaSefydlu To establishAwyr iach Fresh airAnhygoel IncredibleDiogel SafePigion Dysgwyr – Jac y DoAngela Owen oedd honna’n sôn am lwyddiant Clwb Cerdded Pen Llŷn. Bob mis mae Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio ar raglen Shan Cothi am aderyn y mis. A’r aderyn y mis yma oedd Jac y Do. Heledd Cynwal oedd unwaith eto’n cadw sedd Shan yn gynnes ddydd Mercher a dyma i chi flas ar y sgwrs cafodd hi gyda Daniel.Jac-y-Do Jackdaw Golygfa aeafol Winter sceneryAr ein gwarthau ni ImminentHeidio To flockDrudwennod StarlingsGwlad yr haf SomersetWrth iddi nosi As the night draws inCynrhon MaggotsEnw torfol Collective noun

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Feb 28, 2023

Embed this episode

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr 28ain o Chwefror 2023

0:00 13:37

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 13 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on February 28, 2023.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!