Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023 episode artwork

EPISODE · Feb 7, 2023 · 15 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

Pigion Dysgwyr – Shan Jones Dych chi wedi gwylio’r rhaglen, Priodas Pum Mil ar S4C o gwbl? Mae tîm y rhaglen yn gwneud holl drefniadau priodas ac yn ffilmio’r cyfan. Ar Chwefror 19 bydd priodas Shan Jones o bentref Llanuwchllyn a’i gŵr Alun i’w gweld ar y rhaglen. Priododd y ddau haf y llynedd, a chafodd Shan Cothi ar Bore Cothi gyfle i holi Shan Jones ar ddydd Santes Dwynwen, gan ddechrau drwy ofyn, sut brofiad oedd e i gael y camerâu yn eu dilyn nhw ar y diwrnod mawr?Ffeind CaredigCymwynasgar ObligingAm oes For lifeYstyried To considerGoro (gorfod) fi wneud dim byd Doedd rhaid i mi wneud dimAnhygoel IncredibleRhannu’r baich Sharing the loadPwysau PressureClod PraisePigion Dysgwyr – Gareth John BaleShan Jones oedd honna’n sôn am y profiad o gael tîm Priodas Pum Mil i drefnu ei phriodas. Nesa, dyn ni’n mynd i gael blas ar sgwrs gafodd Bethan Rhys Roberts gyda Gareth Bale ar ei rhaglen Bore Sul. Nage nid y Gareth Bale yna , ond yr actor Gareth John Bale. Mae e’n actor sydd wedi gweithio ar nifer o ddramâu, nid am bel -droed y Gareth Bale arall, ond yn hytrach am rygbi ac yn arbennig felly sioe- un-dyn ble roedd e’n portreadu Ray Gravell...Mwy diweddar More recentlyYn gyfarwydd Familiar Hirgron OvalDegawd DecadeCanmlwyddiant CentenaryAwyrgylch AtmosphereNaws MoodYmateb ysgytwol A terrific responseHer A challengeUniaethu gyda To identify with Pigion Dysgwyr – Munud i Feddwl 31.1Nid rygbi ond pêl-droed oedd thema Munud i Feddwl y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James fore Mawrth ar Bore Cothi. Beth allen ni ddysgu o wylio’r gêm gwpan gyffrous ddiweddar rhwng Wrecsam a Sheffield Utd tybed? Gwerthfawrogi ein cymuned yn un peth, yn ôl Manon..Parchedig ReverendGwerthfawrogi To appreciateCynghrair LeagueGornest MatchTylwyth teg FairyDiffuant, angerddol Genuine, PassionateDiwylliant CultureDehongli To interpretCyfrifoldeb ResponsibilityCyfraniad ContributionPigion Dysgwyr – Nia Wyn JonesManon Ceridwen James oedd honna’n rhannu Munud i Feddwl gyda ni ar Bore Cothi. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos diwetha oedd Dr Nia Wyn Jones o Brifysgol Bangor. Hanes Cymru ydy’r pwnc mae hi’n darlithio arno a gofynnodd Beti iddi hi’n gynta sut mae mae hi’n llwyddo i gael ei myfyrwyr i gymryd diddordeb yn y pwnc…..Darlithio To lectureCyfleu’r wybodaeth To convey the informationCymhleth ComplicatedGwrthryfel RebellionTaith dywys Guided tourY Gadeirlan The Cathedral Y Mers The MarchesEsgob BishopBodoli mewn dogfennau Existing in documentsGoroesi To survivePigion Dysgwyr – SalsaWel dyna syniadau ymarferol gwych o ddod a hanes Cymru yn fyw on’d ife? Nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Sion Sebon. Mae Sion yn mynd i nosweithiau clwb Salsa Bangor yn rheolaidd, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o beth sy’n digwydd yn y nosweithiau hyn...Yn rheolaidd RegularlyGosodedig FixedSymudiadau pendant Definite movesCysylltiad ConnectionT’bod? (wyt) Ti’n gwybod?Pigion Dysgwyr – Bat out of Hell A dyna ni, os dych chi’n byw ochrau Bangor ac yn ffansïo ‘chydig o salsa , dych chi’n gwybod ble i fynd. Mae Sioned Evans o Bancyfelin ger Caerfyrddin yn Sydney Awstralia ar hyn o bryd, yn gweithio ar Sioe Gerdd Bat Out of Hell fel Is Gyfarwyddwr ac mae hi hefyd yn chwarae’r allweddellau yn y gerddorfa. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Sioned wythnos diwetha gan ofyn iddi hi’n gynta faint o bobl oedd yn y cast.Sioe Gerdd MusicalIs Gyfarwyddwr Associate DirectorAllweddellau KeyboardCerddorfa OrchestraOfferennau taro Percussion instruments

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Feb 7, 2023

Embed this episode

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Chwefror 2023

0:00 15:23

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 15 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on February 7, 2023.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!