Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022 episode artwork

EPISODE · Feb 4, 2022 · 16 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

1. Beti a'i Phobol a Rebecca RobertsBuodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo...Anabledd - Disability Ymgyrchu - To campaign Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Awdurdodi - To authorize Arbenigol - Specialized Byd o wahaniaeth - A world of difference Deisebu - To petition Arbenigedd - Expertise Gwaith ymchwil - Research Dadlau fy achos - Arguing my case Rhoi cynnig arni - To give it a go2. Cymru Carwyn Iau efo Max BoyceRebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch. Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce.Cymuned - Community Sylw - Attention Dwlu bod - Wrth fy modd bod Hollol lofaol - Predominantly coalmining Prydferth - Beautiful Mo'yn - Eisiau3. Aled Hughes a Mirain IweryddCarwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce. Mi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un gân sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn sôn am y daith arbennig honno...Cyflwynydd - Presenter O bob cwr - From every corner Y Wladfa - The Welsh settlement in Patagonia Diolchgar - Thankful Cyffelyb - Equivalent Hala ni mas - Anfon ni allan Llwyfan - Stage Lledaenu - Spread Neges Ewyllys Da - The Peace and Good Will Message Cyfrinach - Secret Ymwybodol - Aware4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans Mirian Iwerydd yn fan'na yn sôn am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd...Cyfarwydd - Familiar Pedair awr ar hugain- 24 hours Anhygoel - Incredible Datgelu - To reveal Taw - Mai Amlwg - Prominent Cefnogaeth - Support Anferth - Huge Her - A challenge Ffili - Methu5. Isio Babi Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i gŵr, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni...Triniaeth - Treatment Cefndir - Background Di-Gymraeg - Ddim yn siarad Cymraeg Gofal plant - Childcare Ffodus - Lwcus Llonni - Gwneud yn hapus Ar waith - Working6. Trystan ac Emma a Mot y ciPob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn â Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar ôl i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo .....Mi ddaru - Gwnaeth Ymateb - Response Wedi crwydro - Had wandered Tebygrwydd - Similarity Anobaith llwyr - Sheer hopelessness Traddodiad - Tradition Dianc - To escape Rhuthro - To rush Sefyll yn stond - Standing still Yn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

0:00 16:56

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

La Corrobra Canal Extremadura El espacio de la radio pública que pone en valor las lenguas autóctonas de Extremadura: el estremeñu, la fala y el portugués rayano.Con Juan Pedro Sánchez. LA LUZ DEL MISTERIO CON JULIO BARROSO LA LUZ DEL MISTERIO Es el 1er podcast del Misterio en habla hispana desde 1993 y el programa genuino del misterio que se emite desde el centro de Londres, desde el centro de Europa, en London Radio World para todo el universo. Desde hace 31 años, cada semana puedes descargarte las emisiones desde iVoox, iTunes, Spotify, You Tube & Amazon. Y vive el misterio, antropología, astroarqueología, viajes desconocidos, criminología... Vive el Misterio. Pasa, ponte cómodo y disfruta...Si deseas apoyarnos: https://www.ivoox.com/ajx-apoyar_i1_support_29070_1.htmlContacta con nosotros a través de:[email protected] Estamos en Facebook, Instagram & Twitter.Si deseas apoyarnos: https://www.ivoox.com/ajx-apoyar_i1_support_29070_1.htmlhttps://www.ivoox.com/luz-del-misterio-especial-peru-nazca-i-audios-mp3_rf_43511668_1.html Temps de Dol Temps de Dol Soy 1 de 4. Lo he sido dos veces. Aquí te traigo mi tiempo de duelo para que, si también estás transitando un proceso de duelo gestacional sepas que no estás sola. Hablemos. Escuchemos. Visibilicemos. Y, sobretodo, acompañemos. UTOPIA Marcio Villarreal Espacio para hablar sobre política, actualidad, sociedad y realidad.Imparcial ante todo, ni de izquierda ni derecha, sino todo lo contrario.Con el Locutor y estudiante de comunicación. Marcio Villarreal.La Paz - Bolivia.Este podcast forma parte del medio de difusión online Pausa para Fumar ©.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 16 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on February 4, 2022.

What is this episode about?

1. Beti a'i Phobol a Rebecca RobertsBuodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo...

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes, you can download this episode by clicking the download button on the episode player, or subscribe to the podcast in your preferred podcast app for automatic downloads.
URL copied to clipboard!