EPISODE · Jan 14, 2022 · 17 MIN
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 14eg 2022
from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru
1) Cofio 02/01/22Dyn ni’n aml iawn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol ddechrau Ionawr, on’d dyn ni? A dyma’n union ddigwyddodd ar Cofio yr wythnos diwetha wrth i nifer o glipiau gwych o’r archif gael eu hail-ddarlledu. Dyma un o’r goreuon, T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones am ei hatgofion o gadw gwesty yn y Rhyl am dros 40 o flynyddoedd...Y flwyddyn flaenorol The previous yearAil-ddarlledu To rebroadcastAtgofion MemoriesDdaru WnaethGweithwyr cyffredin Ordinary workersEnwogion CelebritiesDigri DoniolTynnu gwynebau Pulling faces2) Rhaglen Beti a’i Phobol - 09/01/22...a chafodd y clip yna ei recordio’n wreiddiol yn 1982. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn Senedd Cymru. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ. Elusen iechyd meddwl yng Nghymru ydy DPJ sydd yn helpu’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig ac mewn amaethyddiaeth. Dyma Samuel yn esbonio wrth Beti pa effaith cafodd y cyfnod clo ar ei iechyd meddwl e... Ceidwadol ConservativeElusen CharityGweithgar ActiveGwledig RuralAmaethyddiaeth AgricultureDigalon DepressedEgni EnergyCysgod ShadowHala TreulioSicrhau To ensure3) Aled Hughes 04/01/22 – Mawrth Samuel Kurtz yn dweud wrth Beti George ei bod yn bwysig siarad am unrhyw broblemau iechyd meddwl. Mae gan Aled Hughes bodlediad o’r enw "Siarad Moel" a bore Mawrth diwethaf cafodd e sgwrs gyda Heledd Iago sy'n gweithio ym maes geneteg. Gyda ffilm Spiderman yn boblogaidd iawn yn y sinemâu ar y foment gofynnodd Aled i Heledd fasai hi’n bosib rhyw ddydd i rywun allu cael pwerau fel rhai "Spiderman"?Genynnau GenesPryfaid cop CorynodYmbelydredd RadioactivityGwyddonwyr ScientistsBwlch GapPlentynnaidd Childish4) Trystan ac Emma 07/01/22 – Gwener Dych chi’n meddwl bod Aled yn ffansïo’i hyn fel Spiderman? Swnio felly, on’d yw e?Ar Ionawr 1af, roedd y nofel Winnie The Pooh yn y newyddion gan ei bod erbyn hyn yn rhan o’r ‘parth cyhoeddus’, sy’n golygu nad oes hawlfraint arni hi bellach.’ ac ar eu rhaglen fore Gwener cafodd Trystan ac Emma sgwrs gyda Rhian Nash o Lwydcoed ger Merthyr Tudful, sydd yn ffan mawr o’r cymeriad Winnie the Pooh …..Parth Cyhoeddus Public DomainHawlfraint CopyrightCasglu To collectEnfawr HugeAddas SuitableHudolus MagicalRhinweddau Virtues5) Aled Hughes 03/01/22 – Llun – Dyna i chi gwestiwn da gan Emma on’d ife – pa gymeriad o Winnie the Pooh dych chi’n debyg iddo tybed?Bore Llun y 3ydd o Ionawr roedd hi’n 45 mlynedd yn union I’r diwrnod ers i Radio Cymru ddod i fodloaeth ac un o’r cyflwynwyr cynta y bore hwnnw oedd Hywel Gwynfryn a dyma fe’n sôn am y darllediad cyntaf hwnnw...Bodolaeth ExistenceCyflwynwyr PresentersDarllediad BroadcastCyfrifoldeb ResponsibiltyCynulleidfa AudienceGweddill y diwrnod The rest of the dayAnnog To encourageO ddifri SeriouslyDeugain a phump Pedwar deg pump6) Dros Ginio - 06/01/21 – Iau - LlaethHywel Gwynfryn oedd hwnna’n sôn am ddarllediad cynta Radio Cymru pedwardeg pump o flynyddoedd yn ôl.Yn yr wythdegau, cyflwynwyd y ‘cwotâu llaeth’ oedd yn rheoli faint o laeth oedd ffermwyr yn cael ei gynhyrchu. I nifer yng nghefn gwlad Cymru, roedd hyn yn creu problemau mawr a buodd yna lawer o brotestiadau. .Dyma’r newyddiadurwr Alun Lenny, oedd yn gweithio ar y stori ar y pryd, yn sôn wrth James Williams ar Dros Ginio am y protestiadau, ond hefyd yn sôn fel mae rhai wedi elwa wrth arallgyfeirio oherwydd y cwotâu.... Llaeth Llefrith Cynhyrchu To produceElwa To profit Arallgyfeirio To diversifyFfynnu To prosperRhewgell FreezerArgyfyngus Critical
What this episode covers

NOW PLAYING
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 14eg 2022
No transcript for this episode yet