Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022 episode artwork

EPISODE · May 10, 2022 · 16 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg.Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commencedAnne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde?Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan. Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebrationA phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde? Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman... Darlledu - To broadcast Ar bwys - Wrth ymyl Rhyngwladol - International Diflasu - To become weary of Gwenu - Smiling Sa i'n mynd - Dw i ddim yn myndDyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny.Papur Ddoe Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes. Llofruddiaeth - Murder Yn dwyn yr enw - Named Tyddyn - Smallholding Cynnyrch - Produce Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Swm sylweddol - A considerable amount Tollborth - Toll gate Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves Tystion - Witnesses Daethpwyd o hyd - Was found Cwato - CuddioHanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe.Ifan Evans a Nigel Owens Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad...Dyfarnwr - Referee Rowndiau terfynol - Finals Gêm y gymuned - The community game Rowndiau terfynol - Finals Cyfleoedd - Opportunities Yr Undeb - The Union (WRU) Unigryw - Unique Profiad - Experience Wastad - AlwaysBraf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy?Stiwdio Cefyn Burgess Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022.Arddangosfa - Exhibition Casgliad - Collection Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes Yn gyfarwydd - Familiar Dychymyg - Imagination Yn fy oed ac amser - At this stage in my life Ehangach - Wider Talaith - State

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022

0:00 16:08

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

La Corrobra Canal Extremadura El espacio de la radio pública que pone en valor las lenguas autóctonas de Extremadura: el estremeñu, la fala y el portugués rayano.Con Juan Pedro Sánchez. LA LUZ DEL MISTERIO CON JULIO BARROSO LA LUZ DEL MISTERIO Es el 1er podcast del Misterio en habla hispana desde 1993 y el programa genuino del misterio que se emite desde el centro de Londres, desde el centro de Europa, en London Radio World para todo el universo. Desde hace 31 años, cada semana puedes descargarte las emisiones desde iVoox, iTunes, Spotify, You Tube & Amazon. Y vive el misterio, antropología, astroarqueología, viajes desconocidos, criminología... Vive el Misterio. Pasa, ponte cómodo y disfruta...Si deseas apoyarnos: https://www.ivoox.com/ajx-apoyar_i1_support_29070_1.htmlContacta con nosotros a través de:[email protected] Estamos en Facebook, Instagram & Twitter.Si deseas apoyarnos: https://www.ivoox.com/ajx-apoyar_i1_support_29070_1.htmlhttps://www.ivoox.com/luz-del-misterio-especial-peru-nazca-i-audios-mp3_rf_43511668_1.html Temps de Dol Temps de Dol Soy 1 de 4. Lo he sido dos veces. Aquí te traigo mi tiempo de duelo para que, si también estás transitando un proceso de duelo gestacional sepas que no estás sola. Hablemos. Escuchemos. Visibilicemos. Y, sobretodo, acompañemos. UTOPIA Marcio Villarreal Espacio para hablar sobre política, actualidad, sociedad y realidad.Imparcial ante todo, ni de izquierda ni derecha, sino todo lo contrario.Con el Locutor y estudiante de comunicación. Marcio Villarreal.La Paz - Bolivia.Este podcast forma parte del medio de difusión online Pausa para Fumar ©.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 16 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on May 10, 2022.

What is this episode about?

Bore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith...

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes, you can download this episode by clicking the download button on the episode player, or subscribe to the podcast in your preferred podcast app for automatic downloads.
URL copied to clipboard!