Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020 episode artwork

EPISODE · May 28, 2020 · 15 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

Myrddin ap Dafydd ar Aled HughesDw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon. Tafodieithol Dialectal Wedi gwirioni Really likedEhangach Wider Y fraint The privilegeYn hanu o Hails fromYn y bôn EssentiallyMoethus Luxurious Cogio PretendingYn glymau In KnotsFfashiwn beth Such a thing Catrin Gerallt a Hannah Daniel - Dau Cyn Dau ar Dros GinioMam a merch o Gaerdydd fuodd yn cadw cwmni i Dewi Llwyd ar Dau Cyn Dau yr wythnos yma – sef Catrin Gerallt a Hannah Daniel. Mae Catrin Gerallt yn newyddiadurwraig brofiadol iawn sydd wedi gweithio ar raglenni fel Taro Naw, Manylu a’r One Show ac mae Hannah yn actores sydd wedi perfformio mewn cyfresi fel Gwaith Cartref, Hinterland ac Un Bore Mercher. Newyddiadurwraig brofiadol An experienced (female) journalistCyfresi SeriesI’r graddau To the extent Y cyfyngiadau The restrictions(G)wynebau cyfarwydd Familiar facesHogyn BachgenMam-gu NainCyfres newydd A new seriesGweld isie To missCaryl a Dafydd – Radio Cymru 2Mae hi’n anodd gweithio ym myd comedi ar adeg mor sensitif ag yw hi nawr, ond dw i’n siŵr ei bod yn bwysicach, o bosib, oherwydd y sefyllfa i godi calonnau pobl. Y gomedïwraig Esyllt Sears oedd gwestai arbennig Caryl a Daf yr wythnos hon i sôn am sut mae’n bosib gwneud i bobl chwerthin y dyddiau hyn...Trafod To discussYstafell ddelfrydol Ideal roomYn dynn TightlyCyffwrdd To touchYsgwyd ei ysgwyddau Shaking his shouldersChwerthiniad A laughCynulleidfa AudienceGynnau A moment agoSaernïo To constructLlenwi’r bwlch Filling the gapBore CothiFaint ohonoch chi sy’n coginio yn amlach y dyddiau hyn? Gaeth Shan Cothi wybod sut i wneud pasta ffres gan Michelle Evans Fecci a dyma i chi flas ar y sgwrs... Diffyg A shortageOergell FridgeBlawd FlourRhwydd EasyTylino To kneadYn gwmws ExactlyGarlleg GarlicWinwns OnionsYsbigoglys SpinachDwlu wneud e Enjoy doing itCofio – Traed Traed oedd pwnc Cofio yr wythnos diwetha a dyma glip o 2002 pan gafodd Nia Roberts sgwrs gyda Gwenno Saunders o Gaerdydd fuodd yn cymryd rhan yn y sioe Lord of the Dance gyda Michael Flatley. Cwestiwn Nia i Gwenno oedd sut mae’r dawnsio wedi effeithio ar ei thraed hi... Gwyddelig IrishCystadleuaeth CompetitionCanolbwyntio ConcentratingFfiaidd HorribleNiwed HarmCymorth HelpBeti a’i PhobolMatt Spry o Aberplym (Plymouth) oedd gwestai Beti George wythnos dwetha. Matt oedd Dysgwr y Flwyddyn yn 2018 ac yn y clip nesa mae e’n sôn am ei hanes yn Lloegr, ei fam-gu o Gymru a pham dewisodd e’r enw Aberplym am Plymouth... Ymuno â Joins withDarganfod To discoverCernyweg Cornish languageYnganu To pronounceYmwybyddiaeth AwarenessDyfnaint DevonTad-cu TaidCysylltiad ConnectionSyfrdanol AmazingAr y ffin On the border

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published May 28, 2020

Embed this episode

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020

0:00 15:59

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 15 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on May 28, 2020.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!