Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022 episode artwork

EPISODE · Dec 13, 2022 · 12 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

Bore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional Morio canu Singing their hearts outPoblogaidd PopularAmrywiaeth VarietySioeau cerdd Musicals(Carolau) plygain Traditional Welsh carols Trefniant ArrangementCydio To graspCroen gwŷdd GoosebumpsDisglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenlyCaryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on’d ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae’r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni NaughtinessCorachod ElvesWedi gwirioni’n lân Infatuated withPeth diweddar A recent thingBeti A'i Phobol – Shan Ashton 11.12 Mae plant ysgol feithrin Llanllwni wir yn edrych ‘mlaen at y Dolig on’d yn nhw? Shan Ashton oedd gwestai Beti ar Beti a’i Phobol bnawn Sul. Mae Shan wedi cael gyrfa amrywiol ac wedi gorfod magu ei phlant ar ei phen ei hun, ar ôl iddi hi a’i gŵr wahanu pan roedd y plant yn ifanc. Sut wnaeth hi ymdopi â’r sefyllfa anodd yma? Dyna un o gwestiynau Beti iddi hi...Gwahanu To separateYmdopi â To cope withCymdogion NeighboursHeb eu hail Second to noneAsgwrn cefn BackboneLlifo To sawMan a man Might as wellAgwedd iach A healthy attitudeBreintiedig PrivilegedDros Ginio – John Eifion a Helen Medi 5.12 Shan Ashton oedd honna yn sgwrsio gyda Beti George Bob dydd Llun mae Dewi Llwyd ar Dros Ginio yn cael cwmni 2 cyn 2. Tro brawd a chwaer oedd hi yr wythnos hon, John Eifion a Helen Medi. Mae’r ddau yn gerddorol iawn a chafodd y ddau eu magu ar fferm Hendre Cennin rhwng Penygroes a Chricieth yng Ngwynedd. Dyma Helen i ddechrau yn sôn am eu magwraeth... Magwraeth UpbringingAelwyd HearthArddegau Teenage yearsCymdeithasau SocietiesDiddanu To entertainDylanwadu To influenceDeuawd DuetCylchwyl A local festivalLlenyddol LiteraryRheolaidd iawn Very regularly Aled Hughes – Adrian Cain 7.12John Eifion a Helen Medi yn sôn am eu magwraeth gerddorol ar fferm Hendre Cennin . Dydd Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gydag Adrian Cain o Ynys Manaw. Mae Adrian yn athro yn unig ysgol Manaweg yr ynys sef Bunscoill Ghaelgagh (yngenir fel ‘Bynsgwl gilgach’). Mae Adrian yn siarad pedair iaith - Cymraeg, Manaweg, Gwyddeleg a Saesneg. Dechreuodd Adrian ddysgu Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl ac mae e nawr yn dysgu ychydig o Gymraeg i blant yr ysgol ar Ynys Manaw. Ynys Manaw Isle of ManManaweg ManxGwyddeleg Irish LanguageTŵf GrowthIfan Evans Eden 6.12On’d yw hi’n braf clywed am dŵf y Manaweg? Pob lwc iddyn nhw ar Ynys Manaw gyda’u hiaith arbennig.Mae gan y grŵp Eden sengl Nadolig allan sef Adre Nôl, a phrynhawn ddydd Mawrth cafodd Ifan Evans siawns i sgwrsio gyda Non Parry o’r grŵp gan ofyn iddi hi yn gynta beth oedd hi’n gwneud y prynhawn hwnnw. Addurno To decorateGoleuadau Lights

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Dec 13, 2022

Embed this episode

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 13eg 2022

0:00 12:57

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 12 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on December 13, 2022.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!