Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022 episode artwork

EPISODE · Dec 20, 2022 · 13 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

Radio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas Cafodd ei sefydlu Was establishedSylfaenydd FounderDarlledwr BroadcasterFy annwyl wraig My dear wifeCadeirio ChairingFfodus LwcusCymysgu’r sain Mixing the soundRo’n i’n methu’n deg I couldn’t at allAelod selog A faithful memberAmbell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hiDylanwadu To influenceTyfu lan Tyfu fynyTad-cu TaidEmynau HymnsTraddodiadol TraditionalYn grac Yn flinCyfweliad InterviewSwnllyd NoisySwynol BeautifullyFfili Methu Bore Cothi - Banc Bwyd Eglwys Crist 13.12 Bronwen Lewis oedd honna’n sôn am ei theulu cerddorol. Dydd Mawrth ar Bore Cothi aeth Shan Cothi i Eglwys Crist Caerfyrddin ble mae aelodau’r eglwys wedi sefydlu banc bwyd ar gyfer y gymuned. Yn gyntaf dyma y Parchedig Delyth Richards gyda ychydig o gefndir y fenter Parchedig ReverendEsgob BishopBendithio To blessAddoli To worshipCynnyrch ProduceBlwch BoxYn gyson Regularly Beti a’I Phobl – Marc Howells 18.12 Da iawn aelodau Eglwys Crist, ond dyw hi’n drueni bod rhaid agor banciau bwyd y dyddiau hyn? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol bnawn Sul oedd Marc Howells o Ddinbych yn wreiddiol, fe yw pennaeth Adnoddau Dynol y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca. Adnoddau Dynol Human Resources Meddyginiaeth MedicineLlywodraethau GovernmentsDatblygu To developDiwydiant gwyrdd Green industryYr amgylchedd The environmentAled Hughes – Joseff Gnagbo 14.12 Golwg bach gwahanol yn fanna ar waith y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca ar Beti a’i Phobol. Bore Mercher cafodd Aled Hughes gwmni Joseff Gnagbo. Daw Joseff o’r Traeth Ifori yn wreiddiol cyn iddo fe orfod ffoi oddi yno. Erbyn hyn mae’n byw yng Nghymru ac yn rhugl yn y Gymraeg. Gofynnodd Aled iddo fe beth mae Cymru wedi ei gynnig iddo fe…. Gorfod ffoi Had to escapeCyfrannu To contributePersonoliaeth PersonalityYmladd To fightTrefedigaeth ColonyAnnibyniaeth IndependenceHyrwyddo To promoteTroi’r Tir – Jamie Stroud 12.12 Joseff Gnabo , wnaeth ffoi o’r Traeth Ifori , dod yn rhugl yn y Gymraeg ac sydd nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwych on’d ife? Un arall sy wedi dysgu Cymraeg ydy Jamie Stroud sy’n gweithio ar fferm lysiau gydweithredol Tyddyn Teg ger Caernarfon. Mae’r fferm yn cyflenwi 170 o focsys llysiau yr wythnos i’r gymuned leol yn ogystal â chynnal siop fferm, becws a llysiau i siopau a bwytai lleol. Buodd Jamie ar raglen Troi’r Tir ddydd Llun i esbonio mwy am waith y ffermCydweithredol CooperativeCyflenwi To supplyHinsawdd ClimateBwydydd Cyflawn WholefoodsAnarferol UnusualPannas ParsnipsCynhaeaf To harvestMeithrinfa planhigion Plant nurseryHau hadau Sowing the seedsCnwd Crop Bresych Cabbage

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Dec 20, 2022

Embed this episode

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 20fed 2022

0:00 13:33

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 13 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on December 20, 2022.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!