Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021 episode artwork

EPISODE · Dec 31, 2021 · 16 MIN

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

from Y Podlediad Dysgu Cymraeg · host BBC Radio Cymru

01. Aled Hughes – Elfyn JonesDoes dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled HughesYn union ExactlyGorchuddio To coverAnhygoel IncredibleDenu To attractCeudyllau PotholesTwyllodrus DeceptiveAmgylchiadau CircumstancesDyffrynnoedd ValleysYn wirioneddol ReallyOffer Equipment02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry JonesCyngor da gan Elfyn Jones yn fan’na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo’r mynyddoedd yn y gaeaf. Mae’n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i’r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i’r plant mawr! Ond beth sy’n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi farn Nia Roberts a Caryl Parry Jones...Nadoligaidd ChristmassyNaws MoodCydio yn To attach toMyfyrio To reflectAddoli To worshipDyfynodau Quotation marksEin heneidiau ni Our soulsHud a swyn Magic and enchantmentPreseb MangerDyheu am To yearn for 03. Dros Ginio – Betsan Powys ac R Alun EvansAc ar ddiwedd y clip yna clywon ni ddarn o un o ganeuon Nadolig Caryl - “Drama’r Preseb”. Dau sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r BBC dros y blynyddoedd oedd gwestai Dewi Llwyd ar Dros Ginio –R Alun Evans a’i ferch Betsan Powys. Buodd R Alun Evans yn gyflwynydd a chynhyrchydd gyda’r BBC am 32 o flynyddoedd ac yn weinidog gydag enwad yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd Betsan yn Olygydd Rhaglenni y BBC nes iddi hi roi'r gorau i'r swydd yn 2018. Dyma i chi flas ar y sgwrs...Cyflwynydd a chynhyrchydd Presenter and producerEnwad yr Annibynwyr Independents denominationGolygydd Rhaglenni Programme editor Siglen SwingParchu To respectPenderfynol, ystyfnig Determined, stubbornCymwynasgar ObligingCefnogol Supportive 04. Hywel Gwynfryn a Sian Phillips (Darllediad Arbennig Dydd Nadolig) Un arall sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r BBC dros y blynyddoedd ydy Hywel Gwynfryn a fe gafodd y cyfle i gael sgwrs gyda’r actores fyd enwog Siân Phillips, sydd yn dod o Waen-Cae-Gurwen yn Sir Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol. Dyma hi’n sgwrsio am un rhan o’i gyrfa wnaeth ddim gweithio cystal â hynny...Cyfraniad enfawr A huge contributionCyhoeddwraig Announcer ( female)Ro’n i’n dwlu ar Ro’n i wrth fy modd efo Uffernol HellishCyngor y Celfyddydau Arts CouncilClychau Bells Mas o anadl Out of breathPennaeth Head05. Geraint Lloyd - Rhys Jones o GwmffrwdDyna stori dda on’d ife? Mae hyd yn oed Sian Phillips yn gallu bod mewn trwbl gyda’i bos! Ddaeth Sion Corn i’ch tŷ fore Nadolig? Os mai dod lawr y simnai wnaeth e, gobeithio eich bod wedi gwneud yn siŵr bod y simnai’n lân iddo fe! Glanhawr simneiau ydy Rhys Jones o Gwmffrwd ger Caerfyrddin a gofynnodd Geraint Lloyd iddo fe pam dewisodd e wneud y swydd arbennig hon... Glanhawr simneiau Chimney sweepBachan Dyn(Di)bennu GorfffenMo’yn EisiauFfili MethuTystysgrif CertificateTannau nwy Gas fires06. Geraint Lloyd – Ar y MapRhys Jones oedd hwnna , ac mae ganddo un o swyddi bwysica adeg yma’r flwyddyn on’d oes? Arhoswn ni gyda Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd, aeth Geraint ‘Ar y Map’ i bentref bach Casnewydd Bach yn Sir Benfro, sydd yn enwog fel man geni y mor-leidr Barti Ddu. Mae undeg chwech cenhedlaeth o deulu Richard Davies wedi byw yn y pentre hwn, felly fe yw’r dyn i sôn am berson enwoca Casnewydd Bach a dyma fe’n sôn am hanes Barti Ddu wrth Geraint Lloyd... Man geni BirthplaceMorleidr PirateCenhedlaeth Generation Taw MaiYn lled ifanc Quite youngCrydd CobblerCofnodi To recordCarreg goffa Memorial stoneTrichanmlwyddiant TercentenaryGenedigaeth BirthMarwolwaeth Death

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Dec 31, 2021

Embed this episode

NOW PLAYING

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

0:00 16:31

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Y Podlediad Dysgu Cymraeg?

This episode is 16 minutes long.

When was this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode published?

This episode was published on December 31, 2021.

Can I download this Y Podlediad Dysgu Cymraeg episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!