EPISODE · Feb 25, 2026 · 16 MIN
Tyfu Lan gyda Cholled: Lois a Gerallt yn Trafod Teulu, Galar a Chofio Brawd
from Share The Load Podcast - Podlediad Rhannwch Y Baich · host The DPJ Foundation
Yn y bennod bersonol hon, mae Lois, gwirfoddolwr gyda’r DPJ, yn eistedd gyda’i thad Gerallt, i siarad yn agored am deulu, galar, a’r effaith barhaus o golli mab a brawd drwy hunanladdiad.Collwyd Andrew cyn ganed Lois, ac maent yn rhannu mewnwelediad i dyfu i fyny gyda cholled o rhywun nag oedd hi wedi cwrdd - yn dod i adnabod pwy oedd ei brawd trwy straeon, atgofion, a’r cariad sy’n dal i’w amgylchynu. Mae Gerallt yn siarad fel tad sy’n byw â galar parhaus ar ôl colli ei fab, a gyda’i gilydd maent yn trafod sut mae colled yn siapio teulu dros cenedlaethau. Mae’r sgwrs yn myfyrio ar effeithiau tawel a hirdymor profedigaeth, y ffyrdd gwahanol o brosesu galar, a sut mae gonestrwydd a chyfarthrebu yn dansail i helpu teuluoedd i gario bywyd yn ei flaen ar ôl colled.Mae’r bennod yn cynnig persbectif pwerus ar absenoldeb, cofio, a’r cryfder mae rhannu straeon yn creu - hyd yn oed pan mae’r atgofion yn cael eu cario gan eraill.Rhybudd cynnwys: Mae’r bennod hon yn cynnwys trafodaethau am hunanladdiad a phrofedigaeth a all peri gofid i rai gwrandawyr, yn benodol am unigolion gyda phrofiad o feddyliau hunanladdol, hunan-niwed, neu cholled o ganlyniad i hunanladdiad. Argymhellir disgresiwn. Os yw’r bennod hon yn codi teimladau anodd, cofiwch fod cymorth ar gael, nad oes rhaid i chi gario hyn ar eich pen eich hun. Cymerwch ofal wrth wrando/wylio a chymerwch seibiant, cam yn ôl, neu dod o hyd i gefnogaeth os mae angen. Os yr ydych yn cael trafferth a hoffwch siarad â rhywun am gefnogaeth plis ffoniwch ein llinell Rhannwch y Baich 24/7 ar 0800 587 4262 neu tecstiwch 07860 048799www.thedpjfoundation.co.uk#RhannwchYBaich #ShareTheLoad
What this episode covers

NOW PLAYING
Tyfu Lan gyda Cholled: Lois a Gerallt yn Trafod Teulu, Galar a Chofio Brawd
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
Mar 26, 2026 ·1m
Mar 19, 2026 ·34m
Feb 18, 2026 ·11m
Feb 11, 2026 ·45m