Beth yw ystyr bywyd? podcast artwork

PODCAST · society

Beth yw ystyr bywyd?

Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill  Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd - fel mae’r teitl yn ei awgrymu - yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw.  Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell ... )!Cyn

  1. 6

    Pennod 1 - Beth yw ystyr bywyd?

    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Mirain Rhys, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg a hefyd yn gwnselydd. Mae ei harbenigedd academaidd a’i phrofiad ymarferol yn cynnig safbwynt unigryw ar y cwestiwn dan sylw, ac yn sail i ddehongliadau difyr a chraff ynghylch pwysigrwydd ceisio ateb y pos tragwyddol hwn. Nid yw’r bennod agoriadol hon heb ambell i dro trwstan ... !Mae Beth yw ystyr bywyd?  A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

  2. 5

    Pennod 2 - Pam crefydd?

    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor, sydd yn ddarlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd (ymysg pethau eraill!). Cyfyd sawl thema a safbwynt ar y cwestiwn, gan drafod tarddiad crefydd, ei ‘phwrpas’, a phaham y bu’n rhan mor greiddiol o fywyd y ddynoliaeth.  Mae’r ddau hefyd yn myfyrio ar oblygiadau’r ffaith nad yw crefydd mor ganolog ag y bu yn y gymdeithas orllewinol a beth yw pendraw y seciwlareiddio cynyddol hwn.Mae Beth yw ystyr bywyd?  A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

  3. 4

    Pennod 3 - Pam fod tlodi’n bodoli?

    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Sam Parry, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd yn ddarlithydd mewn Busnes ac yn arbenigwr ar ddatblygiad economaidd – yn enwedig o’r safbwynt hanesyddol.  Mae Sam yn helpu esbonio’r ffactorau sy’n gyfrifol am hirhoedledd tlodi , a chan edrych ar y cwestiwn o safbwynt lleol a byd-eang.  Trafodir sut y mae deall a diffinio tlodi, a pham a sut y mae tlodi yn effeithio ar wahanol rannau o’r byd, gan gynnwys Cymru.Mae Beth yw ystyr bywyd?  A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

  4. 3

    Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth?

    Yn y bennod hon mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Huw Rees, ei gyd-weithiwr yn gyd-ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae Huw (Rees!) yn arbenigwr mewn Athroniaeth Wleidyddol ac yn y bennod hon mae’n trafod y gwahanol safbwyntiau a dadleuon a geir mewn perthynas â’r wladwriaeth. Cychwynnir gyda’r cwestiwn sylfaenol ynghylch yr angen am wladwriaeth, gyda Huw yn esbonio sut y mae gwahanol athronwyr dros amser wedi ceisio cyfiawnhau ei bodolaeth ar wahanol seiliau, ond bod rhai, yr anarchwyr yn bennaf, yn cwestiynu gwerth a chyfraniad y wladwriaeth.  Dyma drafodaeth felly sydd yn cymell y gwrandäwr i gwestiynu ac ailystyried gwerth a phwrpas sefydliad yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol fel rhan o’r gymdeithas fodern, ond sydd mewn gwirionedd yn endid diweddar iawn yn hanes y ddynoliaeth.Mae Beth yw ystyr bywyd?  A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

  5. 2

    Pennod 5 - Pam fod hiliaeth yn bodoli?

    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gydag Emily Pemberton, arbenigwr ym maes cydraddoldebau, ac yn bennaf ym maes gwrth-hiliaeth.  Mae Emily yn galw ar ei gwaith fel ymarferydd a hefyd ei hymchwil academaidd i ateb rhai o’r cwestiynau sylfaenol ynghylch tarddiad hiliaeth, ei datblygiad, a’i heffeithiau ar y gymdeithas ddynol yn hanesyddol, ac yn y dydd sydd ohoni. Trafodir y berthynas anorfod rhwng hiliaeth a datblygiad y system gyfalafol, yn ogystal â rhoi sylw i ambell feddyliwr o bwys, megis Frantz Fanon.  Rhydd sylw hefyd i’r thema yng nghyd-destun polisïau gwrth-hiliaeth yng Nghymru.Mae Beth yw ystyr bywyd?  A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

  6. 1

    Pennod 6 - A Oes Heddwch?

    Yn y bennod hon, mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda’r Athro Howard Williams, arbenigwr ar athroniaeth gwleidyddol ac awdur cyfrol sydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o heddwch tragwyddol. Yn y sgwrs hon, mae Howard a Huw yn trafod y gwahanol safbwyntiau sydd wedi ymddangos yn y traddodiad gorllewinol mewn perthynas â’r thema o heddwch, gan bwyso a mesur sut y gwnaeth gwahanol feddylwyr ddehongli’r cwestiwn.  Tra bo rhai yn gweld gwrthdaro a rhyfel yn rhan annatod o’r drefn ryngwladol, mae eraill yn ystyried bod ffurf ar heddwch yn bosib dros y tymor hir.Mae Beth yw ystyr bywyd?  A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill  Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd - fel mae’r teitl yn ei awgrymu - yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams, darllenydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd yn cynnal sgyrsiau bywiog a ffraeth â chyfeillion amrywiol, gan gynnwys arbenigwyr a rhai academyddion blaenllaw Cymraeg.Rhagdybiaeth y gyfres yw bod pob un ohonom yn hel meddyliau ar faterion dwys sy’n rhan o fywyd pob dydd, ac mae trafod a myfyrio ar y themâu hyn yn beth iach a phwysig. Mae’r sgyrsiau yn cyflwyno’r trafodaethau drwy gyfrwng iaith bob dydd mewn ffordd hygyrch; dylai apelio at ddysgwyr y 6ed dosbarth, myfyrwyr prifysgol, ac oedolion eraill nad oes ganddynt wybodaeth flaenorol o’r pynciau dan sylw.  Felly ymunwch â ni (a pharatowch hefyd am daith fach i Roswell ... )!Cyn

HOSTED BY

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Frequently Asked Questions

How many episodes does Beth yw ystyr bywyd? have?

Beth yw ystyr bywyd? currently has 6 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Beth yw ystyr bywyd? about?

Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill  Dyma bodlediad yn y Gymraeg sydd ychydig yn wahanol i’r arfer, a sydd - fel mae’r teitl yn ei awgrymu - yn mynd i’r afael â rhai o gwestiynau mawr bywyd. Ariennir y podlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chyflwynir y gyfres gan Dr Huw Williams,...

How often does Beth yw ystyr bywyd? release new episodes?

Beth yw ystyr bywyd? has 6 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to Beth yw ystyr bywyd??

You can listen to Beth yw ystyr bywyd? on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Beth yw ystyr bywyd??

Beth yw ystyr bywyd? is created and hosted by Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
URL copied to clipboard!