EPISODE · Feb 4, 2026 · 1H 5M
Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth?
from Beth yw ystyr bywyd? · host Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn y bennod hon mae Huw yn trafod cwestiwn yr wythnos gyda Dr Huw Rees, ei gyd-weithiwr yn gyd-ddarlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Huw (Rees!) yn arbenigwr mewn Athroniaeth Wleidyddol ac yn y bennod hon mae’n trafod y gwahanol safbwyntiau a dadleuon a geir mewn perthynas â’r wladwriaeth. Cychwynnir gyda’r cwestiwn sylfaenol ynghylch yr angen am wladwriaeth, gyda Huw yn esbonio sut y mae gwahanol athronwyr dros amser wedi ceisio cyfiawnhau ei bodolaeth ar wahanol seiliau, ond bod rhai, yr anarchwyr yn bennaf, yn cwestiynu gwerth a chyfraniad y wladwriaeth. Dyma drafodaeth felly sydd yn cymell y gwrandäwr i gwestiynu ac ailystyried gwerth a phwrpas sefydliad yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol fel rhan o’r gymdeithas fodern, ond sydd mewn gwirionedd yn endid diweddar iawn yn hanes y ddynoliaeth.Mae Beth yw ystyr bywyd? A chwestiynau mawr eraill yn bodlediad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
NOW PLAYING
Pennod 4 - Pa angen sydd am wladwriaeth?
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
May 27, 2026 ·26m
May 27, 2026 ·24m
May 20, 2026 ·24m
May 20, 2026 ·25m
May 14, 2026 ·19m
May 14, 2026 ·25m