PODCAST · education
Clonc Cynefin
by Stiwdiobox
Yma ceir cyfres o bodlediadau gan Ysgolion Ceredigion am eu milltir sgwâr. Mi allwch ddysgu am hanes, treftadaeth, diwylliant ac enwogion Sir Geredigion a llawer mwy . Mae’r prosiect hwn yn un o brosiectau’r Siarter Iaith yn y Sir.
Episodes
-
Ysgol Bro Pedr
Cyfle i glywed rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr yn sgwrsio gyda rhai o gymeriadau lleol eu milltir sgwâr.
-
Ysgol y Dderi
Dyma bodlediad disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol y Dderi. Dewch ar daith gyda ni i ddysgu mwy am yr ardal.
-
Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Dewch i ddysgu mwy am Aberystwyth – ymunwch gyda ni ar daith o gwmpas ein milltir sgwar
-
Podlediad Ysgol Bro Teifi ‘Stori Guto’r Teilwr Bach’
Dewch i wrando ar ein hoff stori leol ni yma yn Ysgol Bro Teifi, sef hanes Guto y Teilwr bach a gamodd i mewn i gylch y Tylwyth Teg.
-
Cyflwyniad Cei
Dewch am dro gyda ni i glywed stori Merched y Mor, stori o Gei Newydd.
-
Ysgol Llanfarian
Cyfle i glywed am hanes ardal Llanfarian yng nghwmni rhai o ddisgyblion yr ysgol.
-
Criw Cymraeg Ysgol Mynach
‘Dyma blant Ysgol Mynach yn trafod eu milltir sgwâr. Dewch i wrando ar ein taith o amgylch Pontarfynach gan sôn am hanes a busnesau lleol yr ardal. Bydd hefyd cyfle i wrando ar gân a gyfansoddwyd y dysgwyr gyda’r Welsh Whisperer.’
-
Ysgol Gynradd Aberteifi
Ymunwch gyda ni i glywed ein sgwrs gyda’r Cynghorydd lleol Clive Davies a’r Prifardd Ceri Wyn Jones er mwyn cael clywed beth sy’n gwneud Aberteifi yn le arbennig iddyn nhw.
-
Ysgol Penweddig
Dyma ddisgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Penweddig yn trafod eu milltir sgwar. Yn cynnwys trafodaeth am hanes ein ardal, sef Llanrhystud, Rhydyfelin, Y Borth, Pontarfynach a Llanfarian. Mwynhewch!
-
Podlediad Ysgol Ciliau Parc
Podlybiau: Dewch i wrando ar ein podlediad am glybiau lleol ardal Ciliau Aeron.
-
Podlediad Ysgol Llechryd
Mae bwa yr enfys wedi bod yn ddelwedd eiconic iawn yn ein bywydau yn ddiweddar. Yn ysgol Llechryd rydym ni wedi darganfod sawl trysor ar ddiwedd yr enfys. Dewch draw i'n milltir sgwar i gwrdd a nhw yng nghwmni disgyblion yr ysgol.
-
Podlediad Ysgol Rhydypennau-‘Ein Milltir Sgwâr’
Dyma blant Blwyddyn 6 Ysgol Rhydypennau yn sôn ychydig am hanesion diddorol yr ardal.
-
Podlediad Ysgol Henry Richard
Dyma bodlediad disgyblion flwyddyn 6 Ysgol Henry Richard. Dewch ar daith gyda ni i ddathlu hwyl yr wŷl yn y dref!
-
Podlediad Busnesau Lleol Llwyn yr Eos
Dewch i wrando ar blant Ysgol Llwyn yr Eos yn cyfweld amryw o bobl yr ardal leol wrth iddynt drafod eu hanes a’u busnesau. Cewch glywed wrth Rhiannon o Pwdin, Milfeddyg a llawer mwy. Eisteddwch nol a mwynhewch.
-
Ysgol Llanilar - Ein Arfordir Arbennig
Dewch ar daith gyda ni ar hyd ein llwybr arfordirol
-
Pod Penrhyn
Dewch i wrando ar bodlediad diddorol Pod Penrhyn. Cewch top tips gyda Mr. Cemlyn Davies am sut i wneud cyfweliad da. Ychydig am hanes bardd o Benrhyn-coch sef Dafydd ap Gwilym yng nghwmni Mr. Ceris Gruffudd. A dewch i ymuno yn ein hymgyrch i helpu’r amgylchedd sef ‘Teulu Tyfu Tamaid’. Cewch mwy o...
-
Podlediad Pont yr Wylfa
Mae Cors Fochno yn cysylltu ardal Tal-y-bont a Borth. Mae’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ac yn bwysig iawn yng nghyd-destun newid hinsawdd. Ond mae’r gors yn llawn o hanesion difyr a chwedlau hefyd. Dyma ddisgyblion Ysgol Craig yr Wylfa ac Ysgol Tal-y-bont yn cyflwyno ychydig o’r…
more -
Podlediad Rygbi Rhyngwladol yr Hydref Ysgol T. Llew Jones
Dyma Podlediad disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol T. Llew Jones yn trafod am Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref 2021.
-
Ardal Arbennig Rhos Helyg
Dyma gyfle i wrando ar y Gwasanaeth Diolchgarwch gyda ffocws ar hanes a thraddodiadau lleol.
-
Podlediad Penparc
Dyma podlediad am ein milltir sgwâr ynghyd â chyfweliadau arbennig gyda'r Prifardd Ceri Wyn Jones a Ms Llinos Price. Mwynhewch!
-
Ysgol Syr John Rhys - Nabod Nant y Moch
Dewch i ddysgu mwy am ardal Ponterwyd gyda disgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Syr John Rhys. Cewch wybod pam bod argae yn Nant y Moch a hefyd chlywed perfformiad o’u rap ‘Ponterwyd’.
-
Ysgol Llannon - Ein Milltir Sgwar
Cyfle i glywed gan rhai o ddisgyblion Ysgol Llannon Ceredigion yn sôn am eu Milltir Sgwar.
-
Ysgol Dyffryn Cledlyn - Ein Milltir Sgwar
Dyma bodlediad gan ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 Ysgol Dyffryn Cledlyn yn sôn am eu Milltir Sgwar. Diolch yn fawr i bawb wnaeth gyfrannu, rydym yn gwerthfawrogi yn fawr iawn.
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Yma ceir cyfres o bodlediadau gan Ysgolion Ceredigion am eu milltir sgwâr. Mi allwch ddysgu am hanes, treftadaeth, diwylliant ac enwogion Sir Geredigion a llawer mwy . Mae’r prosiect hwn yn un o brosiectau’r Siarter Iaith yn y Sir.
HOSTED BY
Stiwdiobox
CATEGORIES
Loading similar podcasts...