Skip to content
Craffu360 podcast artwork

PODCAST · society

Craffu360

by Golwg 360

Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru. Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau. Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.

Publisher-supplied feed metadata · PodParley refreshed Oct 14, 2026 · Source feed

Episodes

  1. Dafydd Trystan Davies: Y llwybr at ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru

    Y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad sydd yn ymuno a’r podlediad i drafod ei weledigaeth gyfansoddiadol i Gymru, gyda chanolbwyntio ar gyfiawnder a phlismona. Mewn sgwrs hirhoedlog, rydym yn trafod ei ymrwymiad i feicio fel Aelod o’r Senedd, gwylan yn cael damwain...

  2. Huw Thomas: Llywodraeth Burnham, dyrchafiad Sarwar, a dyfodol Llafur Cymru

    Yn ymuno’n a’n Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yr wythnos hon yw Aelod y Senedd Llafur dros Gaerdydd Penarth, Huw Thomas. O dan sylw mae goblygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o dan arweiniad Andy Burnham i Gymru. Mae Huw Thomas hefyd yn trafod penodiad Arweinydd Llafur yr Alban, Anas Sarwar…

    more
  3. Gair y Gohebwyr: Synhwyro’r Senedd newydd, ta-ta i Starmer, a helo Burnham!

    Gyda Phlaid Cymru yn methu a phasio ei gyllideb atodol, mae Efan a Rhys yn trafod be yw’r dyfodol yn edrych fel i Lywodraeth sydd eisiau llywodraethau’n effeithiol. Wrth i Syr Keir Starmer baratoi i adael Rhif 10 ar ddydd Llun, rydym yn edrych yn ôl ar ei amser o ran yr hyn mae ei ddylanwadu ar...

  4. Gair y Gohebwyr: Owain Williams ar beth aeth o'i le i Lafur Cymru, a sut i adfer

    Yn ymuno â Rhys ac Efan heddiw mae'r Llafurwr Owain Williams. Rydym yn pori drwy fethiannau Llafur Cymru a beth mae'n credu sydd angen digwydd nesaf i sicrhau bod Llafur yn goroesi ei her fwyaf: aros yn berthnasol. Hefyd, byddwn yn trafod dyfodol Swyddfa Cymru o dan brif weinidogaeth bosibl Andy...

  5. Gair y Gohebwyr: Efan yn yr Urdd, cwestiynau cyntaf i Rhun ap Iorwerth, a diffyg cyfeiriad ar y Gymraeg

    Rhys a Efan sy’n trafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos yng Nghymru, yn cynnwys sesiwn gyntaf Cwestiynau i’r Prif Weinidog i Rhun ap Iorwerth.

  6. Gair y Gohebwyr: Llywodraeth newydd, Senedd newydd, gwleidyddiaeth newydd?

    Wedi seibiant am gwpl o wythnosau, mae ein gohebwyr yn ôl i drafod yr hyn sy’n newydd o fewn gwleidyddiaeth Cymru. Mae gennym ni lywodraeth newydd, a chabinet i bori drwyddo. Rydym hefyd yn trafod y pleidiau eraill yn y Senedd. Mae Reform UK yn ymddangos fel plaid sy’n fwy parod i fod yn…

    more
  7. Etholiad 2026: Dadl ar yr iaith Gymraeg, diwylliant a’r celfyddydau

    Gydag wythnos i fynd tan ddiwrnod yr etholiad, mae ymgeiswyr y pleidiau yn ymuno a Craffu360 ar gyfer dadl. Efallai nad yw’n syndod fod y sgwrs genedlaethol cyn etholiad yn dueddol o ganolbwyntio ar y materion craidd ein hoes, megis y Gwasanaeth Iechyd ac Addysg. Ond heddiw, rydym yn pori drwy...

  8. Gair y Gohebwyr: Owain Williams ar Lafur, y Ddadl Fawr, a gweledigaethau wan y pleidiau ar yr economi ac iechyd

    Yn ymuno Rhys ac Efan yr wythnos hon mae Owain Williams o Lafur Cymru. Dan sylw mae ymgyrch anodd hyd yn hyn i Eluned Morgan a’r Blaid Lafur, ynghyd â chynlluniau’r pleidiau ar gyfer tyfu’r economi a symud tuag at Gymru fwy llewyrchus ac iach. Trafodwn hefyd y Ddadl Fawr ar S4C, a’r hyn a…

    more
  9. Gair y Gohebwyr: Risg y Democratiaid Rhyddfrydol, mwy o ganolbwyntio ar Holyrood na Chymru, a beth fydd yn digwydd yn yr etholiad?

    Er rydym hanner ffordd drwy’r ymgyrch swyddogol, nid yw hi o reidrwydd yn teimlo fod yr ymgyrch wedi sbarduno i mewn i fywyd. Gyda llawer o ddiddordeb y cyfryngau Prydeinig yn canolbwyntio ar yr ymgyrch yn yr Alban, mae ein gohebwyr, Efan Owen a Rhys Owen, yn trafod lle mae’r pleidiau arni ar hyn…

    more
  10. Beth yw cynnig Plaid Cymru i’r genhedlaeth ifanc? Gyda Niamh Salkeld

    Mewn cyfweliad hirhoedlog gyda phodlediad Craffu360, mae ymgeisydd Plaid Cymru ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, Niamh Salkeld, wedi bod yn datgan beth yw eu cynllun i bobol ifanc. Mae ymddiriedaeth pobol ifanc mewn gwleidyddiaeth wedi bod yn gostwng yn ganlynol ar hyd y degawdau diwethaf. Hefyd…

    more
  11. Gair y Gohebwyr: Maniffesto Plaid Cymru, rhestr siopa’r Gwyrddion, ac ymgeiswyr wedi’u cadarnhau

    Ar Gair y Gohebwyr heddiw mae gan Efan Owen a Rhys Owen nifer o bynciau gwahanol i’w trafod. Yn gyntaf mae maniffesto Plaid Cymru, sy’n addo llawer ar yr economi, y Gwasanaeth Iechyd, a gofal plant. Rydym yn edrych yn fanwl ar bolisi'r Blaid i gael 50% o ddisgyblion Cymru mewn addysg gyfrwng...

  12. Gair y Gohebwyr - Diwedd y Chweched Senedd, ond be fydd nesaf?

    Gohebwyr Golwg360, Efan Owen ac Rhys Owen, sydd yn eistedd lawr i drafod wythnos olaf y Chweched Senedd, ac yn cymryd golwg ar yr hyn ddigwyddodd yn sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog. Bydd y ddau hefyd yn trafod canllawiau arolwg barn YouGov ITV Cymru Wales, a beth all hyn olygu o ran yr…

    more
  13. Pam mae lefelau ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth Cymru mor isel?

    Yn y bennod hon rydym yn gofyn pam mae ymwybyddiaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru mor isel? Mae astudiaeth ddiweddar yn dangos lefelau pryderus o ymgysylltu gyda gwleidyddiaeth a sut mae Cymru’n cael ei lywodraethu. A’i dibyniaeth ar gyfryngau Prydeinig sydd tu ôl i hyn? Mae ein gohebwyr, Efan…

    more
  14. Jane Dodds a’r Democratiaid Rhyddfrydol: Gwrthwynebu annibyniaeth ond eisiau mwy o ddatganoli

    Yn ymuno a Craffu360 yw Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds. Yn pwysleisio ariannu gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gofal cymdeithasol, rydym yn gofyn a’i dim ond grŵp gwthio yn hytrach na phlaid wleidyddol maen nhw yng Nghymru? Hefyd mae’r mater o annibyniaeth…

    more
  15. Gair y Gohebwyr: Lansiad maniffesto Reform, ysbion Tsiena a Llafur, a Gove yn hoffi Plaid Cymru

    Yn ymuno ac Efan Owen a Rhys Owen ar Gair y Gohebwyr yr wythnos yma, mae aelod o Academi Newyddiaduraeth Golwg360, Ben Withers. O dan sylw mae lansiad maniffesto Reform, gyda’n Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen yn rhoi blas ar yr hyn oedd yn digwydd yng Nghasnewydd. Hefyd mae’r mater o ddiffyg ffydd...

  16. Maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig: Cysgod Reform ac addewidion radical? Gyda Sam Kurtz

    Wedi lansiad maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig, yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda’u Llefarydd ar yr economi ynni, ac amaeth, Sam Kurtz. O dan sylw mae penderfyniad ei ffrind James Evans i ymuno Reform, perthnasedd y blaid yng Nghymru, ac wrth...

  17. Cynhadledd Plaid Cymru: Barod i lywodraethu? Gyda Mabon ap Gwynfor

    Yn y bennod hon o Craffu360, mae ein Gohebydd Gwleidyddol, Rhys Owen, yn eistedd lawr gyda Llefarydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor i drafod y neges sy’n siapio’r ymgyrch - yn enwedig y ffocws ar Reform UK - a geiriau cryf Rhun ap Iorwerth am y dewis rhwng “cynnydd neu...

  18. Gair y Gohebwyr: Goblygiadau cyfansoddiadol yr hawl i farw, Gorton a Denton, a Chynhadledd Plaid Cymru

    Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn trafod wythnos brysur yn Senedd a thu hwnt. Dan sylw mae’r tensiynau cyfansoddiadol yn sgil y bleidlais ar roi pwerau i Weinidogion Cymru dros hawl i farw - a’r hyn mae hynny’n ei ddatgelu am y setliad datganoli presennol.…

    more
  19. Gair y Gohebwyr: Trenau, cydweithio ar y chwith, a dyfodol y Teulu Frenhinol

    Ar Gair y Gohebwyr heddiw, er bod y Senedd ar wyliau, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn eistedd lawr i drafod wythnos brysur ym myd gwleidyddiaeth. Ar yr agenda mae’r weledigaeth newydd gan Drafnidiaeth Cymru, Heddiw, Yfory, Gyda'n Gilydd - ond ai cefnogaeth go iawn ynteu ymdrech…

    more
  20. Gair y Gohebwyr: Starmer yn goroesi a thensiynau o fewn Reform dros y Gymraeg

    Ar Gair y Gohebwyr heddiw, mae ein gohebwyr Efan Owen a Rhys Owen yn cael eu hymuno gan Joshua Romain o Academi Newyddiaduraeth Golwg360. O dan sylw mae Keir Starmer yn goroesi bygythiad i’w Brif Weinidogaeth, a sut y gall newidiadau i’w dîm yn Rhif 10 arwain at newid yn y ffordd y bydd…

    more
  21. Gair y Gohebwyr: Dan Thomas yn arwain Reform, rhaniadau Llafur, a dyfodol Keir Starmer

    Mae golwg360 yn lansio cyfres newydd wythnosol fel rhan o bodlediad Craffu360 i drafod straeon gwleidyddol mwyaf yr wythnos o Fae Caerdydd a San Steffan. Gohebwyr Golwg360, Efan Owen a Rhys Owen, sydd yn eistedd lawr i drafod y newyddion mai Dan Thomas yw Arweinydd Reform yng Nghymru. O dan sylw...

  22. Dyfodol y byd amaeth, gyda Gareth Parry o Undeb Amaethwyr Cymru

    Yn ymuno a Rhys Owen mae Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Parry. Wedi cyfnod o flynyddoedd bregus i ffermwyr, a hynny ar lefel Gymreig gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac yntau ar y lefel Brydeinig, gyda newidiadau i dreth etifeddiaeth, mae Gareth Parry yn sôn am 2026 fel blwyddyn…

    more
  23. Daeargryn wleidyddol? 5 mis tan etholiad y Senedd

    Gyda phum mis i fynd nes etholiad y Senedd, dyma bennod arbennig Nadoligaidd o Craffu360. Yn ymuno a ni yw’r Cynghorydd Aled Thomas o’r Ceidwadwyr Cymreig, y Cynghorydd ac ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngwynedd Maldwyn Elwyn Vaughan, yr aelod o Lafur Cymru Owain Williams, ac fel sylwebydd o Senedd...

  24. Aled Eirug a’i lyfr newydd, Dafydd Elis-Thomas: Nation Builder

    Yn ymuno a ni y tro hwn yw’r newyddiadurwr Aled Eirug i drafod ei lyfr newydd, Dafydd Elis Thomas: Nation Builder. Mi fydden yn trafod yr hyn oedd yn siapio ‘Dafydd El’ fel un o wleidyddion unigryw ei oes, a thrafod yr angen am ei fath o wleidyddiaeth bragmatig mewn Senedd go wahanol o fis Mai...

  25. Mark Drakeford o Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

    Yn ymuno a ni y tro hwn yw cyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Fel rhywun fydd o bosib yn mynd lawr fel arweinydd mwyaf adnabyddus Llywodraeth Cymru ers dechrau datganoli, mi fydd ei ddylanwad yn parhau ymhell i’r dyfodol. Hefyd, ei benderfyniad o i ddiwygio’r Senedd sy’n debygol o greu’r...

  26. Maxine Hughes, Newyddiadurwr yn yr Unol Daleithiau

    Yn ymuno â ni ar Craffu360 y tro yma yw’r newyddiadurwr Maxine Hughes, sy’n byw yn Washington. Yn brif wyneb Newyddion S4C yn yr Unol Daleithiau, mae Maxine Hughes yn wyneb cyfarwydd i nifer fel rhywun sy’n adrodd straeon gwleidyddol a materion cyfoes o’r wlad honno. Fyddwn yn trafod eithafiaeth,...

  27. Ieuan Wyn Jones, cyn-Ddirprwy Prif Weinidog Cymru

    Yn gyn-Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac yn gyn-arweinydd Plaid Cymru, mae Ieuan Wyn Jones yn enw adnabyddus o fewn gwleidyddiaeth yng Nghymru. Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, a’r tebygolrwydd o gydweithio trawsbleidiol wedyn, Rhys Owen, Gohebydd Gwleidyddol golwg360, sy'n trafod y sefyllfa...

  28. Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C

    Ar ôl cyfnod cythryblus i'r sianel Gymraeg, mae gan S4C Brif Weithredwr newydd wrth y llyw. Yn y bennod hon, mae Rhys Owen, gohebydd gwleidyddol golwg360, yn holi Geraint Evans, sy'n gobeithio troi’r dudalen a chanolbwyntio ar dyfu cynulleidfa a darparu cynnwys newydd, fel rhaglen Y Llais, er…

    more
  29. Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru

    Yn wyneb a llais cyfarwydd o'r byd gwleidyddol yng Nghymru, daeth Vaughan Roderick i amlygrwydd adeg y refferendwm cyntaf ar ddatganoli yn 1979. Bu'n gweithio ar rai o raglenni gwleidyddol amlycaf BBC Cymru ers hynny, ac yn cyflwyno rhaglenni megis Sunday Supplement a Dros Ginio yn fwyaf…

    more
  30. Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan

    Yn y bennod yma o Craffu360, mi fydd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn ymuno â ni i drafod ei gyrfa gwleidyddol, ac i edrych ymlaen at y flwyddyn a hanner sydd i ddod cyn etholiad Seneddol 2026.

  31. Ann Davies - Aelod Seneddol Plaid Cymru

    Mewn cyfres podlediad newydd, golwg360 sy'n craffu ar waith rhai o ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru. Yn y bennod gyntaf, ein Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen sy'n ymweld â Chaerfyrddin i gwrdd ag Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru gafodd ei hethol dros yr etholaeth newydd sbon. Sut all pedwar...

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru.

Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau.

Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad er mwyn dysgu mwy am gyd-destun y Gymru sydd ohoni heddiw.

HOSTED BY

Golwg 360

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does Craffu360 have?

Craffu360 currently has 31 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Craffu360 about?

Croeso i Craffu360, podlediad gwleidyddol Cymraeg newydd fydd yn holi rhai o ffigyrau mwyaf dylanwadol Cymru. Bydd Craffu360 yn holi gwleidyddion y gorffennol, y presennol, a’r dyfodol, er mwyn clywed mwy am eu credoau a'u polisïau. Byddwn ni hefyd yn sgwrsio â ffigyrau diwylliannol ledled y wlad...

How often does Craffu360 release new episodes?

Craffu360 has 31 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to Craffu360?

You can listen to Craffu360 on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Craffu360?

Craffu360 is created and hosted by Golwg 360.
URL copied to clipboard!