Skip to content
Gwleidydda podcast artwork

PODCAST · government

Gwleidydda

by BBC Radio Cymru

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Publisher-supplied feed metadata · PodParley refreshed Oct 16, 2026 · Source feed

Episodes

  1. Arian mân?

    Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol. Mae'r tri hefyd yn sgwrsio gyda'r cyn-Aelod o'r Senedd dros y Ceidwadwyr, Sam Kurtz. A chofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw…

    more
  2. Beth nesa' i Polanski?

    Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.

  3. Y Pedwar Llew Tew

    Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones. Mae nhw’n trafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth, araith Kemi Badenoch yng Nghynhadledd y Torïaid ac ymddiswyddiad dirprwy arweinydd y Blaid...

  4. Rhwng Dau Rosyn

    Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r...

  5. Ysgol David Hughes: Eton Cymru?

    Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd. Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad dau arweinydd newydd i Reform yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw...

  6. Richard yn Rong am Reform

    Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon. Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y goblygiadau o dderbyn aelod sydd wedi croesi'r llawr. Cofiwch fod modd cysylltu gydag...

  7. Reform - Cai Parry-Jones

    Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd. Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i ariannu'r blaid ar hyn o bryd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy...

  8. Penyberth

    Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar genedlaetholdeb heddiw, a hynny yng nghmwni Dafydd Iwan, Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis…

    more
  9. Dau Brif Weinidog - Mis Mêl ar Ben?

    Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd? Cofiwch…

    more
  10. Cloch Clacton

    Yn dilyn rhifyn arbennig o'r Babell Lên yn Eisteddfod y Garreg Las, mae Bethan a Richard yn ôl yn y stiwdio yn dadansoddi canlyniad is-etholaiad Clacton on Sea. Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, yn ennill gyda 63% o'r bleidlais sy'n cael sylw y ddau.

  11. Y Prif Weinidog yn Y Babell Lên

    Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las. Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen gynulleidfa, mae'r Prif Weinidog yn trafod heriau ei swydd newydd, ei brofiad o lywodraethu,...

  12. Amser a ddengys

    Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod strategaeth y ddau arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol.…

    more
  13. Crafu'r Cregyn Llong

    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Cymru ac yn holi beth mae ei benodiad yn ei olygu i…

    more
  14. Gwynfor a'r Gyllideb

    Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru. A 60 mlynedd wedi ethol Gwynfor Evans mae ei...

  15. Dadansoddi gyda Drakeford

    Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon. Mae'r tri yn trafod be all dyfodol y blaid Lafur bod o dan arweinyddiaeth Andy Burnham, ymddiswyddiad Nigel Farage fel Aelod Seneddol a'r galw dros system bleidleisio newydd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag...

  16. Fformiwla Burnham?

    Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon. Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig o newid y drefn. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio...

  17. Meseia heb fandad?

    Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod pam penderfynodd Keir Starmer i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur. Mae'r tri yn trafod be all Andy Burnham fel Prif Weinidog olygu i ddatganoli. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  18. Yr Ymddiswyddiad

    Ar ôl i Syr Keir Starmer gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur, beth nesa' i'r blaid a'r wlad? Vaughan, Elliw a chyn Aelod o Senedd Cymru, Alun Davies sy'n dadansoddi'r cyfan.

  19. Buddugoliaeth i Burnham

    Buddugoliaeth Andy Burnham yn is-etholiad Makerfield sy'n destun trafod i Vaughan a Richard. Mae’r ddau yn dadansoddi beth mae hyn yn golygu i'r Prif Weinidog, Kier Starmerm ac yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio [email protected]

  20. Cip ar y Cyfansoddiad

    Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Mae’r ddau hefyd yn dadansoddi is-etholiad Makerfield yr wythnos nesa'. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy...

  21. Pedwar Prif Weinidog

    Pedwar Prif Weinidog Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol. Mae'r tri hefyd yn trafod sesiwn holi gyntaf y Prif Weinidog. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd...

  22. Blair iawn

    Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan Richard atebion i'ch cwestiynau chi. Cofiwch fod modd i chi gysylltu â'r criw gyda'ch ymateb chi...

  23. Wythnos Mêl?

    Vaughan, Richard ag Elliw yn trafod trafferthion y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yn edrych yn ôl dros ddyddiau cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru wrth y llyw yn y Senedd.

  24. Andy-bendod

    Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau golygu. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw...

  25. Amser i Lywodraethu

    Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag…

    more
  26. Canlyniad Hanesyddol

    Mae Vaughan, Bethan a Richard yn cael cwmni y cyn-Brif Weinidog Llafur Carwyn Jones a'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones i ddadansoddi canlyniad hanesyddol yr etholiad. Cofiwch bod modd i chi gysylltu a'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy ebostio [email protected]

  27. Cyfri'r Oriau

    Gydag oriau yn unig cyn etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod tactegau'r pleidiau i sicrhau bod eu cefnogwyr yn mynd ati i bleidleisio. Mae'r tri yn asesu sut fath o ymgyrch sydd wedi bod a beth allwn ni ei ddisgwyl ddydd Gwener ar ddiwrnod y cyfri. Mae'r tri hefyd yn ateb…

    more
  28. Cofio'r Cyfri

    Ar ôl cyflwyno deg etholiad cyffredinol, saith etholiad Cynulliad a Senedd, a phedwar refferendwm, etholiad y Senedd ar ddydd Gwener fydd yr etholiad olaf gyda Dewi Llwyd yn y gadair fawr. Mewn pennod arbennig gyda Vaughan Roderick mae'r ddau yn trafod atgofion o ddyddiau Margaret Thatcher hyd at...

  29. Yr Wythnos Olaf

    Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan, Elliw a Richard yn trafod y diweddara' wrth i ni baratoi ar gyfer y bleidlais. Mae'r pedwar yn edrych nol ar y dadleuon teledu, trafod yr arolwg barn diweddara’ ac yn dadansoddi sut all y nifer sy'n mynd ati i bleidleisio…

    more
  30. Dadansoddi'r Dadlau

    Wedi ei recordio yn syth ar ôl y Ddadl Fawr yng Nghaerfyrddin, Alun Thomas, Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n cnoi cil ar y dadlau.

  31. Dadleuon a Dadansoddi

    Elliw Gwawr, Yr Athro Richard Wyn Jones a Betsan Powys sy'n trafod y diweddaraf yn yr ymgyrch etholiadol. Gyda nifer o ddadleuon teledu wedi bod a mwy ar y gorwel, faint o wahaniaeth mae nhw'n ei gael? Mae'r tri hefyd yn dadansoddi'r arolygon barn diweddaraf. Mae Elliw, Richard a Betsan hefyd yn...

  32. Ymgyrch Dawel?

    Vaughan Roderick a'r Athro Richard Wyn Jones yn trafod yr ymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Cymru hyd yma, gan edrych yn benodol ar faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn ateb cwestiynau'r gwrandawyr. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

  33. Newid Byd

    Mae Vaughan yn ôl ac yn ymuno â Bethan a Richard i drafod sefyllfa'r Dwyrain Canol a sut mae digwyddiadau yno am newid ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru? Mae'r tri yn trafod cyhoeddi maniffesto'r Blaid Werdd ar gyfer Etholiad y Senedd fis nesa'. Ac mae Etholiad Senedd Yr Alban hefyd yn cael…

    more
  34. Fetio cyn Fotio

    Ar ôl i nifer o ymgeiswyr dynnu eu henwau yn ôl, mae Bethan a Richard yn trafod y fetio mae'r pleidiau'n gorfod ei wneud cyn Etholiad y Senedd. Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae Aelod o'r Senedd Llafur Alun Davies yn trafod gobeithion y blaid yn yr etholiad. Ac mae…

    more
  35. Ta Ta Criw '21

    Gyda thymor y chweched Senedd yn dod i ben - mae Bethan a Richard yn trafod y newidiadau sydd wedi bod i'r pleidiau dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae gwleidyddiaeth Cymru wedi newid. Mae Richard yn trafod yr arolwg barn diweddaraf ar etholiad y Senedd ym mis Mai a chawn glywed am gysylltiad...

  36. Y Llywydd - Degawd yn y Gadair

    Gyda thymor y Senedd yn dod i ben, fe aeth Bethan Rhys Roberts i'r siambr newydd y Senedd ym Mae Caerdydd i holi'r Llywydd, Elin Jones. Mewn cyfweliad estynedig mae'r ddwy yn trafod ei degawd yn y swydd, cyfarfod y Frenhines am y tro olaf a beth all y dyfodol edrych ar ol etholiad mis Mai.

  37. Tu ôl i'r Llen - Y Paratoi at Lywodraethu

    Gyda 50 diwrnod tan etholiad Senedd Cymru, mae cyn bennaeth staff y Prif Weinidog yng nghyfnod Mark Drakeford, Des Clifford sy'n ymuno â Bethan a Richard i drafod y paratoadau sy'n digwydd o fewn y gwasanaeth sifil i'r posibilrwydd o lywodraeth newydd. Mae'r tri hefyd yn trafod sylwadau gan...

  38. Stunts a Datganoli

    Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n trafod tensiynau o fewn y blaid Lafur ar ôl i nodyn gan Syr Keir Starmer rhybuddio aelodau ei gabinet rhag dangos gormod o barch i'r llywodraethau datganoledig. Fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol bleidiau, mae arweinydd y…

    more
  39. Ras y Maniffestos

    Gyda'r Ceidwadwyr a Reform UK yn lansio eu maniffestos yr wythnos hon mae Vaughan a Richard yn trafod eu pwysigrwydd. Mae gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod cynllun 100 niwrnod cynta' Plaid Cymru pe baen nhw mewn llywodraeth ar ôl Etholiad y Senedd ym mis...

  40. Golau Gwyrdd i'r Gwyrddion

    Ar ôl buddugoliaeth hanesyddol i'r Blaid Werdd yn is-etholiad Gorton and Denton mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd y canlyniad. Mae Gareth Hughes o'r Blaid Werdd hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod beth all hyn golygu ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

  41. Sgandalau Gwleidyddol

    Wrth i sgandal Peter Mandelson parhau i ddominyddu’r agenda gwleidyddol, mae Vaughan a Richard yn trafod sgandalau gwleidyddol dros y blynyddoedd. Mae'r ddau hefyd yn trafod ymgyrch y pleidiau yn yr isetholiad yn Gorton a Denton. Ac os oes gyda chi unrhyw gwestiwn i'r ddau cofiwch fod modd…

    more
  42. Nôl ar y cledrau?

    Ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Prydain y byddan nhw'n ariannu cynlluniau i wella isadeiledd rheilffyrdd Cymru gyda buddsoddiad o £14 biliwn o bunnau, mae Vaughan a Richard yn trafod y wleidyddiaeth tu ôl i'r datganiad. Mae'r cynhyrchydd teledu, Steffan Morgan yn ymuno â'r ddau hefyd i drafod ei...

  43. Wythnos Ryfeddol

    Ar ôl wythnos dymhestlog yn Downing Street, mae aelod Llafur Blaenau Gwent, Alun Davies yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod y pwysau sydd wedi bod ar Keir Starmer a'r feirniadaeth bod Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan heb fynegi safbwynt clir am ei ddyfodol. Mae'r tri yn trafod y berthynas...

  44. Dewis Dan-nisgwyl?

    Ar ôl i Reform UK ddewis eu harweinydd yng Nghymru - Vaughan, Richard a Dan Davies sy'n holi; pwy yw Dan Thomas? A beth yw arwyddocâd ei benodiad i'r blaid? Ac wrth i'r pwysau gynyddu ar Keir Starmer - mae'r tri'n dadansoddi effaith sgandal Peter Mandelson ar arweinyddiaeth y Prif Weinidog.

  45. Anawsterau’r Arglwydd

    Ar ôl i'r heddlu ddechrau ymchwiliad troseddol i honiadau bod Peter Mandelson wedi rhannu gwybodaeth sensitif â Jeffrey Epstein pan oedd e'n weinidog cabinet, mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o niwed mae'r sgandal wedi neud i arweinyddiaeth y Prif Weinidog Keir Starmer. Mae'r tri…

    more
  46. Blocio Burnham

    Ar ôl i Faer Manceinion, Andy Burnham gael ei atal rhag sefyll yn yr isetholiad ar gyfer San Steffan mae Vaughan a Richard yn trafod beth all hynny olygu i'r Prif Weinidog, Keir Starmer. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi’r tensiynau o fewn Llafur Cymru ar ôl i'r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood...

  47. Croesi'r Llawr?

    Ar ôl i ddau aelod mainc flaen y Ceidwadwyr gael eu taflu allan o'r blaid yn San Steffan a Bae Caerdydd, mae Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn trafod arwyddocâd hynny i'r Torïaid a Reform. Hefyd fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwahanol pleidiau, mae Gareth Hughes o'r blaid Werdd yn...

  48. Prif Weinidog Nesaf Cymru?

    Bethan Rhys Roberts yn holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwleidyddion blaenllaw o’r gwahanol bleidiau. Rhagor o drafod hefyd gyda Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones.

  49. "Her fwyaf Llafur yng Nghymru ers 1983"

    Aelod Llafur Blaenau Gwent o'r Senedd, Alun Davies sy'n westai ar y podlediad yr wythnos hon, ac wrth edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru eleni mae'n dweud bod y Blaid Lafur yn wynebu’r her etholiadol fwyaf yng Nghymru ers 1983. Mae Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yn trafod ei sylwadau...

  50. Ta Ta 2025, Helo 2026

    Wrth i 2025 ddod i ben, mae Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn edrych yn ôl ar y flwyddyn wleidyddol ac yn edrych ymlaen at Etholiad Senedd Cymru 2026. Mae'r ddau yn cael cwmni cyn olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, gohebydd Seneddol San Steffan BBC Cymru, Catrin Haf…

    more

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

HOSTED BY

BBC Radio Cymru

Produced by BBC

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does Gwleidydda have?

Gwleidydda currently has 143 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Gwleidydda about?

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

How often does Gwleidydda release new episodes?

Gwleidydda publishes regularly with 143 episodes available. Check the episode list for the typical release schedule.

Where can I listen to Gwleidydda?

You can listen to Gwleidydda on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Gwleidydda?

Gwleidydda is created and hosted by BBC Radio Cymru.
URL copied to clipboard!