Hansh

PODCAST · comedy

Hansh

Criw Hansh (ac ambell westai arbennig) yn trafod rhai o'r pynciau a fideos diweddaraf.

  1. 72

    Pwy Sy’n Galw? | Ceri Siggins

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Ar bennod olaf y gyfres mae gwyneb Hansh, Ceri Siggins. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  2. 71

    Pwy Sy’n Galw? | Mared Jarman

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn ymuno â Lloyd wythnos yma mae’r actores Mared Jarman. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  3. 70

    Pwy Sy’n Galw? | Alaw Haf

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn ymuno â Lloyd wythnos yma mae Alaw Haf, glamour model a chrëwr cynnwys. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  4. 69

    Pwy Sy’n Galw? | Harry Hambley

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn y bennod newydd mae seren cyfryngau cymdeithasol a chrëwr y ‘Bean’, Harry Hambley aka Ketnipz, yn ymuno â Lloyd i drafod celf a socials. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  5. 68

    Pwy Sy’n Galw? | Mared Parry

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Yn ail bennod y gyfres mae cyflwynydd Tisho Fforc? a seleb spotter Hansh, Mared Parry yn ymuno â Lloyd i drafod selebs. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  6. 67

    Pwy Sy’n Galw? | Jac Northfield

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Lloyd Lewis! Ym mhennod gynta'r gyfres newydd mae’r cyflwynydd Hansh, Jac Northfield yn ymuno i ateb cwestiynau ar bywyd myfyriwr. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  7. 66

    Pwy Sy'n Galw? | Gwenllian Ellis

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhob pennod bydd y ddau yn gofyn cwestiynau a dilemas doniol i westai arbennig! Ar y rhaglen heddiw mae Gwenllian Ellis, awdures sydd newydd gyhoeddi ei llyfr cyntaf am gariad a rhyw!

  8. 65

    Pwy Sy'n Galw? | Katie Owen

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn ymuno â'r criw yn y bennod yma yw'r DJ, cyflwynydd a'r dysgwr Cymraeg, Katie Owen.

  9. 64

    Pwy Sy'n Galw? | Gwion Ifan

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod olaf y gyfres mae'r cyflwynydd Hansh, Gwion Ifan yn ymuno â'r deuawd direidus i drafod dilemas bwyd!

  10. 63

    Pwy Sy'n Galw? | Brett Johns

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn y drydedd bennod, mae'r ymladdwr MMA Brett Johns yn ymuno â nhw i drafod chwaraeon a'r UFC!

  11. 62

    Pwy Sy'n Galw? | Catrin Feelings

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Yn yr ail bennod, mae'r Frenhines Drag Catrin Feelings yn ymuno â nhw i drafod nosweithiau allan a'r sîn drag yng Nghymru!

  12. 61

    Pwy Sy'n Galw? | Sage Todz

    Croeso i Pwy Sy'n Galw gyda Dom a Lloyd! Ym mhennod gynta'r gyfres mae'r rapiwr Sage Todz yn galw heibio i ateb cwestiynau cerddorol. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  13. 60

    Hansh - PROBCAST - CHWARAEON A FFITRWYDD

    Roly polies, gwersi ffitrwydd a marathons. Yn bennod olaf y gyfres mae Beth, Amber, Hollie a Mared yn trafod probs mwyaf chwaraeon a ffitrwydd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  14. 59

    Hansh - PROBCAST - IECHYD MEDDWL

    RHYBUDD – Mae’r pennod yma yn trafod iechyd meddwl ac hunanladdiad. Am gymorth a help ewch i: https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/ Ar bennod newyd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod iechyd meddwl. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  15. 58

    Hansh - PROBCAST - RHYW A RHYWIOLDEB

    Ar bennod newydd Probcast mae Amber, Hollie, Mared a Beth yn trafod eu probs rhyw a rhywioldeb. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  16. 57

    Hansh - PROBCAST - HUNAN DDELWEDD

    Mae 'na lot o bwysau i newid yn y flwyddyn newydd, felly ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn trafod hunan ddelwedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  17. 56

    Hansh - PROBCAST - PARTIOEDD

    Teimlo’n burnt out o’r holl bartis ‘Dolig? Ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Mared, Amber a Beth yn rhannu eu problemau partioedd. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  18. 55

    Hansh - PROBCAST - GORO NEUD

    Mae merched Probcast nôl am gyfres newydd! Ym mhennod gyntaf y gyfres mae Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn trafod ffilmio ‘Goro Neud’, eu cyfres teithio newydd ar Hansh. Gwylia'r Vodcast ar YouTube Hansh.

  19. 54

    Hansh - PROBCAST #6 - TEITHIO

    Beth yw probs fwyaf teithio? Gwrandewch ar bennod olaf Probcast i weld beth mae Hollie, Beth, Mared ac Amber yn meddwl.

  20. 53

    Hansh - PROBCAST #5 - TECHNOLEG

    Teimlo fel deinosor pan mae’n dod i dechnoleg? Ar bennod newydd Probcast mae Hollie, Beth, Mared ac Amber yn rhannu eu problemau technoleg.

  21. 52

    Hansh - PROBCAST #4 - CYMDEITHASU A FFRINDIAU

    Beth yw ‘social battery’? Ar bennod newydd Probcast wythnos yma mae Beth, Amber, Hollie a Mared yn rhannu eu problemau cymdeithasu a ffrindiau.

  22. 51

    Hansh - PROBCAST #3 - GWAITH AC ARIAN

    Wythnos yma mae Mared, Hollie, Amber a Beth yn trafod problemau gwaith ac arian. Faint o gynulleidfa Hansh sydd erioed wedi tynnu sickie? 🤒 Gwrandewch a thanysgrifiwch!

  23. 50

    Hansh - PROBCAST #2 - PERTHNASOEDD A DATIO

    Cheto, ghostio a pwy sy’n talu ar y dêt cyntaf? Wythnos yma ar Probcast mae Amber, Mared, Beth ac Hollie yn trafod perthnasoedd a dateio. Cofia danysgrifio!

  24. 49

    Hansh - PROBCAST #1 – CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

    Pedair merch. Tair problem. Probcast. Podlediad lle mae pedair merch gydag anableddau gwahanol yn trafod probs yr 21ain ganrif. Ym mhob pennod bydd Hollie Smith, Mared Jarman, Amber Davies a Beth Frazer yn rhannu probs bywyd nhw, o bethau bach annoying i bethau maen nhw wedi cael llond bol ohono. Bydd pawb yn cyflwyno’u hachosion i’r cadeirydd a’r achos gwaethaf sy’n ennill! Wythnos yma mae Mared yn dewis rhwng probs cyfryngau cymdeithasol y grŵp ac yn gofyn i gynulleidfa Hansh faint ohonyn nhw sydd wedi sleidio mewn i DMs rhywun.

  25. 48

    GIGIO #6 - Iwan Fôn (Podcast Hansh)

    Hywel Pitts sy'n cyfweld Iwan Fôn (Y Reu, Kim Hon, Rownd a Rownd) y tro hwn am ei gigs cyntaf, gwneud stand-up, moonio ar y llwyfan a'r noson nath o sleifio i weld Oasis. Tanysgrifiwch / Gwyliwch / Gwrandwch / Mwynhewch!

  26. 47

    GIGIO #5 - Glain Rhys (Podcast Hansh)

    Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi'r cantores Glain Rhys am bob dim gigs, gan gynnwys perfformio yn Phantom of the Opera, Tafwyl, Sesiwn Fawr a mwy! Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i bodlediad Hansh.

  27. 46

    GIGIO #4 - Lewis Williams (Podcast Hansh)

    Y cerddor a digrifwr Hywel Pitts sydd yn holi drymiwr Swnami a Candelas - Lewis Williams - am bob dim gigs. Tanysgrifiwch ar Spotify, Apple Podcasts a Fireside i podlediad Hansh.

  28. 45

    GIGIO #3 - Esyllt Sears (Podcast Hansh)

    Hywel Pitts sy'n cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a’r gyntaf! Sgwrsio gydag Esyllt Sears y tro hwn.

  29. 44

    GIGIO #2 - Morgan Elwy (Podcast Hansh)

    Hywel Pitts sydd yn cyflwyno GIGIO - cyfres podcasts yn trafod gigs - gorau, gwaethaf, delfrydol a’r gyntaf! Ennillydd Can i Gymru 2021 Morgan Elwy sydd yn cael ei holi am barn dances trychinebus a’r profiad o recordio yn Zurich! Tanysgrifiwch yma!

  30. 43

    GIGIO #1 - Al Parr (Podcast Hansh)

    Cyfres newydd gan Hywel Pitts!

  31. 42

    2020 CB2... Caryl Bryn a Carwyn Bach

    Mae Caryl Bryn a Carwyn Bach yn edrych yn ol ar ddigwyddiadau mawr o 2020, ac yn sgwrsio am be mae nhw'n edrych ymlaen iddo yn 2021. Cathod, The Crown, Eurovision, TikTok, Brexit, COVID a llawer mwy!

  32. 41

    Arbed Arian... Melanie a Geraint

    Yda chi angen tips ar syd i edrych ar ol eich arian? Ar syd i brynu y pethau iawn? Ar syd i gychwyn busnes eich hyn?! Gyda phawb yn gwario ac arian yn dynn, mae Geraint Iwan yn holi'r entrepreneur Melanie Carmen Owen am air o gyngor i arbed arian yn ein podlediad mis yma.

  33. 40

    Calan Gaeaf Iwan a Caryl

    I ddathlu Calan Gaeaf, mae Caryl Bryn ac Iwan Pitts yn gwrando ar amryw o straeon ysbryd, a gwneud Tarot reading...

  34. 39

    Mali a Melanie

    Yn ein podcast mis yma mae’r entrepreneur Melanie Carmen Owen a’r actores Mali Ann Rees yn trafod Mis Hanes Pobl Ddu.

  35. 38

    Sefyll Allan... Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd

    Ifan Llywelyn a Cadi Dafydd sydd yn trafod dod allan, materion LGTBQIA+, a pam bod Ifan ddim yn hoffi Pride. Gwyliwch y fideo yma - https://www.youtube.com/watch?v=VrHRovyUp6s

  36. 37

    Sesh Maes Barcar

    Llynedd, mi wnaeth Llyr Jones (Pasta Hull) trefnu gig bythgofiadwy munud olaf ‘Sesh Maes Barcar’ yn ystod wythnos ‘steddfod yn Llanrwst pan wnaeth storm canslo Maes B. Yn y podlediad yma, mae Geraint Iwan yn holi Llyr ac Iwan Fôn am y digwyddiad yna (a mwy).

  37. 36

    Sefyll Allan... Al Parr a Lloyd Steele

    Yn y podcast yma mae Al Parr a Lloyd Steele yn trafod dod allan, y symudiad Black Lives Matter, y gymuned LGBT a mis Pride. Hefyd yn cael ei drafod mae Grindr a Little Britain, sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. In this podcast, Al Parr and Lloyd Steele discuss coming out, the Black Lives Matter movement, the LGBT community and Pride month. Also debated is Grindr and Little Britain, which have been in the news recently.

  38. 35

    Iechyd Meddwl... Caryl a Meilir

    Good Grief! Actor ydi Meilir Rhys - ac mae pawb wedi hen arfer ei weld ar sgrîn, ond ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Meilir a Caryl Bryn yn sgwrsio a thrafod galar, gorbryder... Ru Paul.

  39. 34

    Y GOFID Gareth a Rhys

    Mae Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor wedi bod yn brysur yn ystod y lockdown yn creu cynnwys i Hansh. Dyma sgwrs rhwng y ddau wrth iddynt drafod be mae nhw wedi bod yn ei neud!

  40. 33

    Podcast Lŵp - Elis Derby yn holi Osian Candelas

    Elis yn holi Osian am ei fywyd fel cerddor yn ystod COVID-19. Hefyd hanes Y Sesiwn Adre diweddar wnaeth Osian i Lŵp, ynghyd a'r gerddoriaeth a'r teledu y mae o'n eu mwynhau wrth hunan ynysu.

  41. 32

    Be di'r Hanes... Iwan a Rhys

    Be di hanes Be Di'r Hanes? Iwan Pitts a Rhys Iorwerth sy'n trafod y gyfres hanes wedi'w animeiddio - Be di'r Hanes?

  42. 31

    Actio Ambwyti

    Yw bywyd actor yn siampên, carped coch a minglo 'da selebs i gyd? Neu yw e mwy fel tempio, takeaways a chadw’r cyfrif banc mas o’r coch? Yn y podlediad yma mae’r actorion, a dau o wynebau cyfarwydd Hansh, Iestyn Arwel a Geraint Rhys Edwards yn camu bant o’r llwyfan a thu ôl y llen i drafod realiti’r byd actio. Ma’ nhw’n trafod auditions gwael, bywyd mewn coleg drama a pham dyle Geraint byth drin eich traed. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a chynnwys sydd ddim yn addas i blant.

  43. 30

    High & Dry gyda Iwan a Sion

    Iwan Fon a Sion Gwyn yn trafod syt mae'r her 'High and Dry' yn mynd! Dros y mis diwethaf mae nhw a grwp o ffrindiau wedi bod yn codi arian i Tim Achub Mynydd Llanberis wrth drio dringo y nifer uchaf o droedfeddi a maent yn medru ei wneud fel grwp dros fis!

  44. 29

    Gweledigaethau 2020

    Blwyddyn Newydd dda a chroeso i bodlediad cyntaf Hansh yn 2020. Be chi’n edrych ‘mlaen ato dros y flwyddyn nesaf? Ymunwch â Miriam, Tom a Sam a’u gweledigaethau am bob dim 2020. Ma’ nhw’n trafod ffilmiau, teledu, Olympics, Euros, Glastonbury a phwy fyddai’n chwarae Miriam mewn ffilm. Ydych chi’n cofio pryd ddaeth yr iPad allan? Neu Pokémon GO? Ma’ nhw hefyd yn edrych nôl ar eu hoff a’u cas bethau o’r ddegawd ddiwethaf a beth i’w ddisgwyl o’r ddegawd newydd sbon. RHYBUDD: YN CYNNWYS IAITH GREF.

  45. 28
  46. 27

    HMS Morris yn Japan... Heledd a Rhys yn trafod

    Heledd Watkins o HMS Morris a Rhys Gwynfor yn trafod taith ddiweddar HMS Morris i Japan, oedd digwydd bod yn cyd fynd a Chwpan Rygbi'r Byd. Hefyd yn cael ei drafod, cathod, bwyd, ac ychydig bach am goed Nadolig.

  47. 26

    Calan Gaeaf Gareth a Rhys

    Mae'n wythnos Calan Gaeaf! Dyma Gareth yr Orangutan a Rhys Gwynfor i drafod diwrnod mwya sbwci y flwyddyn! Cofiwch wylio gig HyWelsh ar Facebook Hansh yn fyw Nos Iau am 7.

  48. 25

    Dreigiau Digartref (Osian a Geraint)

    I gyd fynd efo'n ffilm 'Dreigiau Digartref' dyma podcast diweddara HANSH, lle mae Geraint Iwan yn sharad efo Osian Lloyd, a oedd yn chwarae dros Gymru yng Ngwpan Digartrefedd Y Byd.

  49. 24

    Iawn Jonis?....Y Podlediad

    Iawn Jonis? Meddwl bod chi’n gwbod bob dim am iechyd rhyw? Faint o STIs chi’n gallu enwi? Chi’n mynd am check-up yn rheolaidd? Yn y podledid hwn ma’ Ffraid sôn wrth Sam am ei anturiaethau diweddar i weld faint ma’ bobl ifanc Cymru yn gwbod am iechyd rhyw. Ma’ nhw’n trafod be i ddisgwyl yn y GUM clinig, pam bod e ddim yn embarrassing i gael check-up ac ar ôl i chi gal eich testio pam fod cael STI ddim yn ddiwedd y byd. RHYBUDD - Mae’r podlediad hwn cynnwys iaith gref a thrafodaeth am ryw allai fod yn anaddas i blant.

  50. 23

    Ffanibowan: Amser 'Na O'r Mislif

    Ma’ Ffanibowan yn ôl a’r tro hwn maent am drafod y diafol yn dod am de, cyfnod y blodau a mis baner Siapan. Ma’ Heledd a Mari Elin yn trafod pob peth mislifaidd: Pam mae cymaint o dabŵ o amgylch siarad am y mislif? Beth chi’n neud os chi’n ‘Steddfod heb y cynnyrch cywir? Sut mae bod yn wyrdd yn ystod yr amser ‘na o’r mis? Mae’r ddwy yn rhannu profiadau personol, ffeithiau ysgytwol ac yn trafod y cynnyrch ecogyfeillgar diweddaraf i’r rhai ohonom sydd ddim am niweidio’r blaned.

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Criw Hansh (ac ambell westai arbennig) yn trafod rhai o'r pynciau a fideos diweddaraf.

HOSTED BY

Hansh

URL copied to clipboard!