PODCAST · health
Nerth dy Ben
by Nerth Dy Ben
Mae’r gyfres yma yn rhoi’r cyfle i ni sgwrsio a dod i ‘nabod pobol anhygoel ein cymuned sydd i gyd yn eu tro wedi defnyddio ac adnabod eu cryfderau mewn amryw ffyrdd. Ymunwch hefo ni mewn sgwrs lle dan ni’n dathlu yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel unigolion, a’r hyn oll dan ni’n ei gyflawni hefo nerth.
Episodes
-
Ceridwen a Llywela
Sgwrs bendigedig rhwng dwy efaill, Ceridwen a Llywela, am yrfa ar ôl coleg, dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, mwynhâd o lwyddo ym myd y pel-droed a’r pwysa sy’n bodoli ar ddelwedd.
-
Ceridwen a Gwern
Tro yma mae Ceridwen yn rhoi’r byd yn ei le hefo Gwern Pierce. Cymeriad a hanner sydd a’i draed ar y ddaear ac sy’n ceisio byw ei fywyd gyda un feddylfryd benodol…! Sgwrs hamddenol braf a gonest rhwng dau berson Ifanc a doeth.
-
Ceridwen ac Elenid
Yn y gyfres fer yma o bodlediadau Nerth yr Ifanc, mae Ceridwen yn sgwrsio, mwydro ac yn rhoi’r byd yn ei le hefo tri ffrind yn ei dro. A’r cyntaf ydy Elenid Alun, sydd yn sgwrsio am ei phenderfyniad hi i beidio dilyn y drefn ‘arferol’ o fynd i’r brifysgol, a chael yr hyder i ddilyn ei trywydd ei...
-
P4 Sgwrs Llior a’r ‘baby lunatic’
** Pennod arbennig ** Ma hon yn sgwrs boncyrs o hyfryd! Yn y bennod gonest yma dan ni’n clywed am fywyd Emma, sy’n gweithio fel therapydd plant, ac sydd wedi cael sawl profiad heriol, fel mam ac fel therapydd. Mae Llior ac Emma yn cael sgwrs gonest am bob dim o post natal depression i hiwmor, ac…
more -
P3 Mari Hughes - byd llawn lliw
Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio hefo Mari o Lansannan, sydd wedi dilyn gyrfa ym myd Celf. Dan ni’n sgwrsio am ddylanwad celf ar ei bywyd o ddydd i ddydd, a sut ma' hynny wedi ei galluogi hi i ddelio efo be' bynnag ma bywyd yn ei daflu ati. Ma' hon yn sgwrs llawn lliw, creadigrwydd, pwysigrwydd...
-
P2 Dewi Glyn - Cobiau, chwerthin a chicio pêl
Persbectif, pêl-droed, teulu a hiwmor – sgwrs gynnes a gonest efo’r bridiwr ceffylau llwyddianus, Dewi Glyn. Wrth i fywyd fynd ar garlam, dan ni’n cael cyfle i isda lawr dros baned a rhoi’r byd yn ei le (efo’r gath!). Dyma sgwrs am bob dim sy’n bwysig i’r tad, ffarmwr, adeiladwr a’r Cymro sydd…
more -
P1 Llior Radford – O Lannefydd i Lundain
Magwyd Llior ar Fferm ger Llannefydd, ac ar ôl treulio amser yn gweithio yn myd byrlymus y byd ffasiwn yn Llundain a thu hwnt mae hi wedi dychwelyd yn nôl adre i’w milltir sgwâr, efo perspectif newydd ar fywyd. Yn y bennod yma, ma Llior yn sgwrsio am sut wnaeth ei magwraeth hi fel merch ffarm…
more -
Cyflwyniad
Be' ma' cryfder meddwl yn ei olygu mewn gwahanol sefyllfaoedd? O’r ffarm i’r weinidogaeth, o’r mynyddoedd i’r ‘stafell ddosbarth - stay tuned i ffeindio allan!
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Mae’r gyfres yma yn rhoi’r cyfle i ni sgwrsio a dod i ‘nabod pobol anhygoel ein cymuned sydd i gyd yn eu tro wedi defnyddio ac adnabod eu cryfderau mewn amryw ffyrdd. Ymunwch hefo ni mewn sgwrs lle dan ni’n dathlu yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel unigolion, a’r hyn oll dan ni’n ei gyflawni hefo nerth.
HOSTED BY
Nerth Dy Ben
Loading similar podcasts...