PODCAST · comedy
Podpeth
by Iwan Pitts, Hywel Pitts
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth: Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
Episodes
-
Podpêl-droed 2022 (v Lloegr)
Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr. Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin. Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan),...
-
Podpêl-droed 2022 (v Iran)
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler? Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes). Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran…
more -
Podpêl-droed 2022 (v Yr UDA)
Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock. Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.
-
Syniadad #10 - Telibocs
"'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?" Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb.
-
Syniadad #9 - LGBTQIA+ (15)
"Ydi o dal yn syniad fi 'lly?" "... Di o'm yn syniad" Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb.
-
Syniadad #8 - Chwadan Allan o Ddŵr
"Be 'di duck yn criced?" "Dim" "Ia, dyna allan o ddeg ma hwn yn mynd i gael..." Mae profiad diweddar mewn bar ym Maenceinion wedi rhoi syniad newydd i @SpursMel. Elin, Iwan a Hywel sy'n ymateb.
-
Syniadad #7 - Podpeth ar Daith!
"Wyt ti'n gwrando ar unrhyw bodcasts?" "Na." Mae gan @SpursMel syniad tydi hyd 'noed o'm yn licio. Elin, Iwan a Hywel sy'n gofyn y cwestiwn: Pam?
-
Syniadad #6 - Gigs VR
"S'genno fi'm cwynion am hwn de Mel" Mae @SpursMel wedi meddwl am syniad newydd (ond yn amlwg heb feddwl am deitl call iddo). Mae adborth Hywel, Elin ac Iwan yn well nag arfer.
-
Syniadad #5 - Incognito / Limo i’r Sêr
"Dw i 'di g'neud tri sgript bach..." Mae @SpursMel i fyny i'w hen driciau gyda'i Syniadad wythnos yma - ond diolch byth mae o hefyd wedi bod yn brysur yn sgwennu sgriptiau. Mae Hywel, Elin ac Iwan yn trio'u gorau i ddadansoddi.
-
Syniadad #4 - Cystadleuaeth Cân Eurovision Cymru
"Mae 'na botenshal i hwnna fod yn... problematic de" "Pam?!" Mae Iwan, Elin a Hywel yn cael deja vu wrth rhoi adborth i @SpursMel am ei syniad diweddara'.
-
Syniadad #3 - Cewri Tudur
"Be 'di hwn ydi ailwampio un o Syniadads gora fi... Ar y Zip." Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trio gwneud synnwyr o syniad diweddara' @SpursMel. (Mae'r ysbrydoliaeth - Ar y Zip - yn wreiddiol o bennod 9 o'r Podpeth.)
-
Syniadad #2 - Tacsi!
"Dw i'm isho byrstio bybl chdi strêt awe... ond sut mae hwn yn wahanol i Gwlad yr Astra Gwyn?" Mae Iwan, Hywel ac Elin yn ymateb i syniad @SpursMel am sitcom newydd sbon.
-
Syniadad #1 - Mothfil
"Wel, ma siŵr fyddan nhw'n monstrosities" Iwan, Hywel ac Elin sy'n rhoi adborth i syniad diweddaraf @SpursMel.
-
UN POD OLA LEUAD #9 - Rhys Gwynfor
Yr awdur teledu a'r cerddor arbennig Rhys Gwynfor sydd yn ymuno am sgwrs i drafod 'Un Nos Ola Leuad', ond tro yma yr addasiad ffilm o 1991 gan Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Pritchard. Nadolig Llawen!
-
Odpeth 25 - Ysbrydion Llandaf
A wnaeth lun o fachgen yn crïo achosi tai i losgi lawr yn yr 80au? Pa gyffes gythryblus wnaeth goths Llandaf rhannu gyda Hywel? Pam bod y brif ddinas mor sbwci? Dyna dan ni’n drafod yn bennod yma o #Odpeth!
-
Odpeth 24 - Aliens
Heddiw, mae criw Podpeth yn trafod aliens, hoff takeaways a pwy dylai'r Ddaear danfon fel cynrychiolydd i gyfarfod bywyd arall-fydol.
-
Odpeth 23 - Ysbrydion Pen Llŷn
Yda chi wedi clywed am Bwgan Pant-Y-Wennol? Na ni! Yn y bennod yma o Odpeth, mae'r criw yn trafod Pen Llŷn, pronouns, poltergeists a property developers.
-
Odpeth 22 - Rhyw Ysbryd
Yn y bennod hon o Odpeth, cawn hanes ddyn (anhysbys) o Sir Benfro sydd wedi cael secs efo ghost. Ond be ddigwyddodd go wir? Iwan, Hywel ac Elin sy'n trafod...
-
Odpeth 21 - Judge Jeffreys
Pwy oedd yr "Hanging Judge" o Wrecsam, a be mae o'n dda mewn tafarn yn Llundain yn 2014? Y teulu Pitts sy'n ymchwilio...
-
Odpeth 20 - COVIDspiracies
I ddathlu Calan Gaeaf, mae'r podcast mwyaf sbwci yn y byd yn nôl! Yn y bennod yma o Odpeth, dan ni'n gofyn y cwestiwn mawr - "Ydi'r pandemic yn PLANdemic?" Mae'r ateb yn amlwg (na), ond tydi hynna ddim yn stopio Iwan, Hywel, Elin a Miw (y gath) trafod 5G, Bill Gates a Brexiteers. Wythnos nesaf,...
-
Podpêl-droed 2021 (v Denmarc)
Mae antur Cymru yn Euro 2020 (a gyrfa Matt Hancock) wedi dod i ben, wrth i Denmarc guro ni 4-0... Mae Iwan a @SpursMel yn trafod y gêm, a'r stad ar Spurs, sydd bellach 2 fis heb rheolwr ers i Jose Mourinho adael, ac mae Hywel ac Elin yn galw i fewn o Bae Colwyn. Www! Egsotic! (Mae 'na sŵ yno)....
-
Podpêl-droed 2021 (v Yr Eidal)
Mae Hywel, Elin a Menai yn ymuno 'fo Iwan a @SpursMel am y drydedd gêm, a'r olaf o gemau'r grŵp. Colli 1-0 yn erbyn Yr Eidal, ond dal drwodd i'r 16 olaf. Hefyd: Gŵyl Download, reflexes anhygoel Mel, ac ydi adar yn bodoli?!
-
Podpêl-droed 2021 (v Twrci)
RAMBOOOO! Dyma barn Iwan a @SpursMel am ail gêm Cymru yn Euro 2020, wedi iddynt ennill 2-0 yn erbyn Twrci! Hefyd ar yr agenda: Christian Eriksen, hiliaeth, a'r annhegwch wrth i'r timau mawr chwarae gemau nhw i gyd cartref. Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod…
more -
Podpêl-droed 2021 (v Y Swistir)
Mae Podpêl-droed yn nôl! Dyma barn Iwan a @SpursMel am gêm gyntaf Cymru yn Euro 2020, 1-1 yn erbyn Y Swistir. Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod ffasiwn Malcs.
-
UN POD OLA LEUAD #8 - Un Pod Ola
Yn y pennod olaf o'r gyfres, mae Hywel yn chwarae clipiau o John Ogwen a Maureen Rhys yn darllen detholiad o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mi fydd Un Pod Ola Leuad yn nôl pan mae'r ffilm ar S4C Clic. Nesaf ar Podpeth, mae Pod Pêl-droed yn atgyfodi ar gyfer Yr Ewros!
-
UN POD OLA LEUAD #7 - Llwyd Owen
Yr awdur a podledydd Llwyd Owen ydi'r gwestai arbennig yn y bennod gynderfynol o'r gyfres Un Pod Ola Leuad, sydd yn trafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Llwyd yn cyflwyno dau bodlediad ei hun, Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM, ac Ysbeidiau Heulog gyda Leigh Jones - sydd ar…
more -
UN POD OLA LEUAD #6 - Gruff Sol
Mae'r bardd talentog a chasglwr llus, Gruffudd Eifion Owen, yn ymuno efo criw Podpeth i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Gruff hefyd yn egluro Pennod 8, o'r diwedd!
-
UN POD OLA LEUAD #5 - Caryl Bryn
UNOL Super-fan Caryl Bryn sy'n ymuno i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard efo criw Podpeth.
-
UN POD OLA LEUAD #4 - Miriam Trefor
Yr athrylith o Dŷ Newydd, Miriam Trefor Williams, sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Rhybudd - peidiwch a quotio'r podlediad yma yn eich traethodau!
-
UN POD OLA LEUAD #3 - Mared Llywelyn
Yr actores a dramodydd Mared Llywelyn sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
-
UN POD OLA LEUAD #2 - Ar Yr Olwg Gyntaf
Wedi darllen Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, mae criw Podpeth yn trafod eu hagraffiadau cyntaf o'r nofel.
-
UN POD OLA LEUAD #1 - Rhagolwg
Croeso i UN POD OLA LEUAD - y gyfres newydd lle fydd Iwan Pitts, Hywel Pitts ac Elin Gruff yn dehongli a dadansoddi'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.
-
Podpeth #67 -"Y GOFID"
Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad).
-
Odpeth 19 - "Ape-ocalypse"
Mae mwncis yn evil.
-
Odpeth 18 - "Melltithion"
Calan Gaeaf Hapus! Pennod olaf Odpeth? Dim cweit, achos mae yna un arall fory (1af o Dachwedd). Tro yma, y pwnc ydi Melltithion, a'r pennawd ydi "Pwyso a Ffrwydro", ac mae Iwan yn siarad am y ffilm Maleficent am amser maith, felly spoilers i Maleficent??
-
Odpeth 17 - "Gwyrthiau"
Gwyrthiau ydi'r pwnc yn y bennod arbennig yma, a'r pennawd yw "What-a-fall!"
-
Odpeth 16 - "Bwystfilod"
"Spider-Lamb" ydi'r pennawd yn y bennod arbennig yma o Odpeth sy'n trafod cryptids.
-
Odpeth 15 - "UFOs"
Blinkin' Aliens! Estron ydi pwnc y bennod yma o Odpeth...
-
Odpeth 14 - "Gwrachod"
Be ydi'r cysylltiad rhwng "Ecco the Dolphin" a gwrachod? Cewch ddarganfod yn y bennod yma o Odpeth!
-
Odpeth 13 - "Tylwyth Teg"
Be yn union ydi "Tylwyth Teg"? Wel, pwnc trafod y bennod arbennig yma o Odpeth, wrth gwrs! Hefyd: Nobby.
-
Odpeth 12 - "Ysbrydion"
Ysbrydion ydi pwnc sbwci pennod 2, cyfres 2. Os yda chi wedi gweld ysbryd (person, ci neu drên), gad ni wybod ar Twitter - @podpeth
-
Odpeth 11 - "Calan Gaeaf"
Gyda Chalan Gaeaf 2019 yn agosáu, mae Iwan, Hywel ac Elin yn cyfri'r dyddiau i lawr drwy ryddhau 9 pennod newydd sbon o Odpeth. Yn y bennod yma - Clust i'r Llawr...
-
Podpeth #66 - "Yas Cymru!"
Mae Elidyr Glyn, y flugalist Miriam Trefor, sport expert Jack Peyton ac 8000 mil o bobl eraill yn ymuno ag Iwan, Hywel ac Elin am dro rownd dre ar orymdaith annibyniaeth hanesyddol yng Nghaernarfon.
-
Podpeth #65 - "Bolycs Diddoniol"
Hi-di-ho! Dim Elin wythnos yma yn anffodus, ond mae'r brodyr Pitts yn ol i ddadansoddi'r gair "difyr", ac hefyd i ymosod ar Bolycs Cymraeg. I wirfoddoli i fod yn westai arbennig, DMiwch ni @Podpeth ar Twitter.
-
Podpeth #64 - "Ffuglen Gân"
SyniaDad Sbeshal arall gan @SpursMel - tro yma, mae o wedi "dyfeisio" cyfres sy'n gorfodi awduron gorau Cymru i gydweithio efo cerddorion Cymraeg...
-
Podpeth #63 - "Ffrindiau Elin Haf"
Mae'r podlediad gorau o Gaernarfon (os na mae 'na un arall) yn dychwelyd i'r arfer gyda sgwrs hirwyntog a ddibwynt am sgiliau cyflwyno Hywel, gyrfa gyfryngol Elin, Odpethau Iwan, a dyfodol y Podpeth. Bydd na fwy o Class Cymraeg? Bydd na fwy o Odpethau? Bydd na fwy o "PETH!" (y podlediad i blant)?...
-
Odpeth #1 - "Ren Co"
Am Dro, Ren Co, Die-arrhea. (O Podpeth 31 - “Roc a Rol” 15/5/2017)
-
Odpeth #2 - "Does 'Nam Esboniad"
Haka 'na'n Mental, RoboKop, Does 'Nam Esboniad. (O Podpeth 32 - “Clwb Tatws Alaw Gin” 22/5/2017)
-
Odpeth #3 - "Brenin Byrgyr"
Brenin Byrgyr, Tigerist, Archnaphobia Mate. (O Podpeth 33 - “Ansensitif” 29/5/2017)
-
Odpeth #4 - "Robin Whoosh"
Hywel yn cyflwyno! Marty McFine, Robin Whoosh, Brenin y Blods. (O Podpeth 34 - “Pleidleisio” 5/6/2017)
We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.
No matches for "" in this podcast's transcripts.
No topics indexed yet for this podcast.
Loading reviews...
ABOUT THIS SHOW
Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth: Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.
HOSTED BY
Iwan Pitts, Hywel Pitts
CATEGORIES
Loading similar podcasts...