Siarad Siop efo Mari a Meilir podcast artwork

PODCAST · arts

Siarad Siop efo Mari a Meilir

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

Publisher-supplied feed metadata · PodParley refreshed Apr 23, 2026 · Source feed

  1. 124

    82 - Cwis Eisteddfod, Sesiwn Fawr a Cwpan y Byd

    Wrth i'r Brifwyl agosau, pa ffordd well i baratoi ati na chael cwis ysgafn a hwyliog?! Hefyd bydd M&M yn trafod Sesiwn Fawr Dolgellau, y gossip diweddaraf am Ariana Grande a'r ffaith nad ydi pel-droed yn dod adref...diolch byth! Mewn â chi i'r siop.

  2. 123

    81 - Effi o Blaenau, Gwobrau Podlediadau a paratoi at Steddfod

    Mae Mari a Mei yn brysur baratoi at yr Eisteddfod tra'n cadw golwg barcud ar bopeth sy'n gyfredol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion. O'r ffilm Effi o Blaenau i Ŵyl Natur Aberystwyth. Rhywbeth at ddant pawb! Dewch i mewn am browse bach.

  3. 122

    80 - Taylor, Travis a Binface

    Mae Mari a Mei wyneb yn wyneb yn recordio'r bennod hon - felly byddwch yn barod am lawr o wylltineb a chyffro! Mae'r briodas gyfrinachol fwyaf enwog wedi bod, Binface ar y newyddion a Pitbull yn Blackweir. Heb sôn am ddathliadau tila'r UDA yn 250, cerddoriaeth newydd Madonnna ac Aleighcia Scott a noson allan Mei a Mari yn Aber. Dyna ddigon o ragflas - i mewn â chi...

  4. 121

    79 - Paddleboards, Cordia a hoovers

    Mae Mari wedi am wyliau efo'r gens a Meilir wedi bod ar gefn ei paddleboard ond mae'r ddau bellach yn ôl yn y siop yn barod i drafod digwyddiadau'r wythnos dros baned ar y cownter. Mae yna hen drafod am Andy Burnham, Lizzo, sengl newydd Cordia a hoover newydd Meilir. Dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs.

  5. 120

    78 - Haul, Tafwyl ac hen-dŵs

    Mae'r tywydd yn boeth ond mae'r sgwrs yn boethach! Mae'r Prif Weinidog yn Llundain wedi penderfynu camu i'r neilltu, mae gŵr Katie Price bellach yn saff ac mae'r blwch ceisiadau bron a byrstio yn y gwrês. Mae'n rhy boeth i 'sgwennu mwy. I mewn â chi i'r siop, reit handi! Mae ganddom ni AC.

  6. 119

    77 - Harry Styles, Take That a tattoos

    Mae wythnos arall wedi pasio ac mae'r siop yn ôl 'in the swing of things' ers y daith. Yr wythnos hon ,cawn glywed am drip Mari i 'Dylan's Costal Retreat' a thrip Meilir i weld Rufus Wainwright yn Llundain. Hefyd, bydd Mari a Mei yn trafod taith Take That a pherfformiadau Harry Styles cyn agor y blwch ceisiadau i ateb eich cwestiynnau. Croeso i'r Siop Siarad!

  7. 118

    76 - Duffy, Pride a Widow's Bay

    Mae Mari a Meilir yn ôl yn y siop ar ôl trip i Galeri Caernarfon ac mae'n amser rhoi trefn ar y stoc. O drafod digwyddiadau'r pythefnos diwethaf fel cyhoeddiad Duffy, drama Queer Eye, dathliadau Pride a marwolaeth yr actor Anthony Head, i'r Silff Sobor ac wrth gwrs y Blwch Ceisiadau! Mae'n braf bod nol yn y siop. I mewn â chi...

  8. 117

    75 - Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a Katie Price

    Sypreis! Er i ni gyhoeddi nad oedd pennod yr wythnos yma, doedd Mari na Mei methu peidio ag agor y siop i siarad non stop. Ma na sgrysiau am Eisteddfod yr Urdd, cacen benblwydd, gŵr Katie Price, Andy Burnham a chomedïau byrion S4C. Beth chi'n neud yn sefyll tu fas? Mewn â chi i wrando.

  9. 116

    74 - Llywodraeth newydd, BAFTAs a'r daith!

    Am wythnos hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru! Mae'r felin bupur wedi bod yn troi'n ddi-stop yma yn y siop. O gefnogaeth Plaid Cymru (a R£form), ymateb Keir Starmer a'r holl sylwebaeth ar y teledu a'r radio. A sôn am deledu, roedd gwobrau BAFTAs yr wythnos yma hefyd. A llond blwch yn geiriosen ar ben y gacen. Felly, i mewn â chi gyfeillion annwyl - mae'r siop ar agor.

  10. 115

    73 - Met Gala, Devil Wears Prada 2 a'r Etholiad!

    Mae hi'n ddiwrnod pwysig iawn heddiw yng Nghymru wrth i'r gorsafoedd pledleisio agor. Ond peidiwch â phoeni, mae'r Siop Siarad ar agor hefyd fel yr arfer. Mae yna drafodaeth ddyrys am wisgoedd y Met Gala, adolygiadau o ail gyfres Anfamol, ffilm Devil Wears Prada 2 a mwy. Heb sôn am flwch ceisiadau mor llawn â blwch pledleisiau Plaid Cymru... I mewn â chi i'r siop.

  11. 114

    72 - I'm a Celeb, ffeinal Y Llais a Helena Bonham Carter

    Mae teledu yn cael dipyn o sylw yn y siop yr wythnos yma - ffeinal Y Llais, drama aduniad I'm a Celeb, Helena Bonham Carter yn gadael cyfres 4 White Lotus, Russell Brand ar raglen Piers Morgan a llawer mwy. Gyda blwch gorlawn, mae hon yn bennod go swmpus, felly i mewn â chi i'r siop a mwynhewch.

  12. 113

    71 - Lerpwl, Y Llais a Llanuwchllyn

    Yn y bennod hon, mae Mari wedi mentro i Lanuwchllyn - sy'n golgygu fod Mari a Meilir wedi recordio y bennod hon wyneb yn wyneb. A ma pethau wastad yn mynd braidd yn wirion pan mae'r ddau yn yr un ystafell, Mae 'na sgwrsio am drip penblwydd Meilir, pennod ddiweddaraf Y Llais a llawer mwy. Mewn â chi i wrando!

  13. 112

    70 - Penblwyddi, SheUltra a Coachella

    Sypreis! A hithau'n wythnos benblwydd ar Mari a Meilir, dyma benderfynu recordio pennod arbennig er i ni ddweud na fyddai na un yr wythnos hon. Da ni'n cael clywed am ddathliadau Mari, Meilir yn ffilmio efo Cabarela yn ogystal â holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Coachella, SheUltra ac amser Meilir yn gweini ar y teulu brenhinol...! Mewn â chi i glywed yr hanes. Mae'r siop ar agor!

  14. 111

    69 - Y Pasg, Kanye a'r W.I.

    Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae'r Pasg bellach wedi pasio. Gawsoch chi ŵy? Gawsoch chi wyliau? Wel, mae Mari a Meilir yn y siop fel yr arfer yn barod i drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys gwaharddiad Kanye West rhag dod i'r D.U., drama'r ddylanwadwraig Mikayla ar Tiktok ac ymweliad Meilir â W.I. Llanuwchllyn. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!

  15. 110

    68 - Poliameri, pigiadau colli pwysau a Scott Mills

    Pasg hapus i chi gyd! Gobeithio'ch bod chi gyd yn mwynhau'r tymor Aries hyd yma ac yn barod i fwyta llond boliaid o wyau siocled dros y penwythnos. Mae yna lond trol o destunau i'w trafod eto'r wythnos yma - o ymadawiad Scott Mills o'r BBC, tocynnau Celine Dion, Ant a Dec a Bethan a rhaglenni S4C ar poliamori a phigiadau colli pwysau. Ewch i nol ŵy pasg arall, gwnewch baned a dewch i mewn i'r siop i wrando.

  16. 109

    67 - Louis Theroux, SNL a Claudia Winkleman

    Llawer o raglenni teledu i'w trafod yr wythnos hon - o 'Power: The Downfall of Huw Edwards', 'Saturday Night Live UK', 'Louis Theroux: Inside the Manosphere', 'Last One Laughing' a 'The Claudia Winkleman Show'. Hefyd, rhaid i ni drafod trip Mari i wylio Lily Allen yng Nghaerdyddna'r fideo anffodus yna o Justin Timberlake. Ewch i nol paned a mwynhewch!

  17. 108

    66 - Yr Oscars, Chappell Roan a Syr Bryn

    Mae seremoni wobrwyo fwya'r byd newydd ddigwydd yn Hollywood sy'n golygu fod na lwyth o glecs i'w trafod yn y siop yr wythnos hon. Ar ben hynny, mae'n blwch yn gorlifo gyda negeseuon am daith Siarad Siop ac mae'r cynllunio wedi dechrau. I mewn â chi, mae'r siop ar agor.

  18. 107

    65 - Taith Siarad Siop, Timothée Chalamet ac Y Llais

    Daeth y dydd! Mae tocynnau taith fyw Siarad Siop nawr ar werth ac ar gael drwy glicio ein linktree neu drwy ymweld â gwefannau Clwb Ifor Bach a Galeri. Yn y cyfamser, dyma bennod arferol i chi o gossipio, honni ffeithiau hynod o amheus a lot o fawr o chwerthin. Mewn â chi! Mae'r siop ar agor.

  19. 106

    64 - Cân i Gymru, gin a Premier Inn

    Mae Mari a Meilir wedi mentro allan o'r siop ac yn recordio'r bennod yma mewn gwesty. Pam, medde chi? Wel clicio play ac fe gewch chi'r hanes i gyd am eu travels.

  20. 105

    63 - Tyra Banks, Our Town a 'dod allan'

    Wedi wythnos o'r siop, mae hi'n braf bod nol gyda llond blwch o geisiadau a llond trol y straeon, gossip a sgwrsio, gan gynnwys rhaglen ddogfen newydd am America's Next Top Model, y twyll cyrlio yn yr Olympics a thaith sioe Welsh National Theatre o gynhyrchiad 'Our Town'. Digon o ragflas - mewn â chi i'r siop!

  21. 104

    62 - Entrée, Catherine O'Hara a'r Grammys

    Mae hi'n wythnos brysur draw ym myd Siarad Siop - Entrée Amour a Mynydd ar S4C, ymddangosiad ar Heno a recordio penodau cyntaf Après Amour a Mynydd. Ond wrth gwrs, mae wastad amser i recordio pennod arferol o Siarad Siop ac mae digon i'w drafod fel yr arfer: o'r seremonïau gwobrwyo, marwolaeth yr anhygoel Catherine O'Hara ac ymddygiad diweddaraf N!ck! M!naj... Dewch i mewn!

  22. 103

    61 - Santes Dwynwen, ffeinal Traitors a Harry Styles

    Gafodd pawb rosyn neu anrheg dros y penwythnos? Wnaethoch chi seremoni i losgi eitemau eich cyn-gariad? Dim ots os oedd eich diwrnod Santes Dwynwen yn llawn cariad neu'n oer fel bloc o rew, mae yna groeso cynnes i chi yn y siop. Rhaid trafod ffeinal y Traitors, cyfres ddogfen newydd Tyra Banks a phwy gafodd eu hanwybyddu yn enwebiadau'r Oscars eleni. Wfftio'r cariadon - dewch mewni'r siop. M&Ms for life xoxo

  23. 102

    60 - Brooklyn, Karamo a Heated Rivalry

    Mae'r Siop yn gorlifo'r wythnos yma efo hanesion - o straeon insta Brooklyn, absenoldeb Karamo o lansiad cyfres Queer Eye, glambot enwog JLo, cyfresi Heated Rivalry a Traitors i Charlie's Aberystwyth yn cau. Mae angen tebot mawr i wrando ar yr holl dê chwilboeth. Eistedd yn gyfforddus? Mewn â chi!

  24. 101

    59 - Golden Globes, Miss Saigon a therapi

    Wythnos arall wedi pasio ac mae mis Ionawr yn prysur ddiflannu ond peidiwch â phoeni, mae'r siop mor llawn ag erioed. O gossip y Golden Globes, ansawdd lleisiol Lily Allen i ddeallusrwydd artifisial. Digon i lenwi'ch basged. Mewn â chi!

  25. 100

    58 - Eira, Traitors a'r ffliw

    Gan ein bod ni i gyd yn sownd yn ein tai, pa amser gwell i bicio i'r siop i glywed am hanes wythnos gyntaf y flwyddyn newydd, y gyfres newydd o Traitors a llond blwch o gyfaddefiadau jiwsi! Dewch i mewn o'r oerfel - mae'r siop ar agor.

  26. 99

    57 - Blwyddyn Newydd Dda!

    Mae 2025 bron ar ben ac mae'n amser i ni hel atgofion a thrafod uchafbwyntiau'r flwyddyn ddiwethaf cyn i ni edrych ymlaen at 2026... Mae hi am fod yn flwyddyn gyffrous i'r Siop, felly dewch i mewn i glywed y newyddion.

  27. 98

    56 - Nadolig Llawen!

    Mae'r Nadolig wedi cyrraedd felly dyma bennod arbennig i chi wrando arni drod gyfnod yr Ŵyl i roi hoe fach i chi o'r prysurdeb neu i wrando arno tra'n paratoi eich twrcis a'ch llysiau. Gobeithio y daeth Sion Corn draw! Cofiwch rannu eich hanesion efo ni ar gyfer dadbacio holl hwyl y Nadolig yn y bennod nesaf. Ho ho ho!

  28. 97

    55 - Amour a Mynydd 2, Cabarela a'r super-ffliw

    Hir yw pob aros ond o'r diwedd, mae Mari a Meilir wedi llwyddo i agor y siop unwaith eto. Ar ôl trip i Ffrainc, a thaith go brysur Cabarela, mae yna lwyth o bethau i'w trafod, heb sôn am y pigion teledu a'r blwch cyfrinachau. Dyna ddigon o ragflas - i ffwrdd â chi i wrando!

  29. 96

    Cyhoeddiad Gwasanaeth Cyhoeddus!

    Yn dilyn anhawsterau technegol (diolch i'r rhyngrwyd a'r glaw trwm) a'r ffaith fod Mari a Meilir yn mynd dramor am sbel... Ni fydd pennod am blwc felly ewch i gadw golwg ar gyfryngau cymdeithasol y ddau nes y daw nhw yn ôl i'r siop.

  30. 95

    Siarad Siop x Llyfrgell Gen

    Wel, mae Mari a Meilir wedi cael trip bach i bencadlys diwylliant Cymru sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i daro golwg ar yr arddangosfa newydd yno 'Portread a Phŵer'. Dewch i glywed ni'n defnyddio geiriau fel 'cyfoethogi' ac 'amlddiwylliannol' - da ni'n gallu bod yn posh hefyd wyddoch chi!* Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru i hyrwyddo arddangosfa 'Portread a Phŵer'. #AD

  31. 94

    54 - Wicked: For Good, "Quiet, Piggy" a partïon plu

    O'r diwedd, mae pennod olaf Wicked wedi ei rhyddhau ac mae gan Meilir lawer i'w rannu (heb spoilers wrth gwrs)! Rydym yn ffarwelio gyda'e moch daear am y tro olaf yn y bennod hon - a sôn am foch, mae Tr*mp wedi llwyddo i fychanu menyw unwaith yn rhagor! Mae'r blwch unwaith eto yn gorlifo â cheisiadau felly dewch mewn i'r siop - mae'r drysau ar agor.

  32. 93

    53 - Penblwydd RuPaul, parti Kris Jenner ac adverts dolig

    Wel mae gwyntoedd oer y gaeaf wedi cyrraedd o'r diwedd felly dewch i mewn i'r siop i glywed hanesion yr wythnos - o antics carped coch Wicked, dawnsathon Emma a Trystan i weiddi ar wylanod. We've got it all. Felly swatiwch a mwynhewch!

  33. 92

    Siarad Siop x Stad

    Mae Mari a Meilir wedi gwirioni fod ail gyfres Stad wedi cyrraedd ac ar gael i'w gwylio fel bocset ar S4C Clic/BBC iPlayer neu bob nos Sul am 9pm ar S4C. Pwy well i drafod y gyfres ond gwestai cyntaf y podlediad, sef un o sgriptwyr y gyfres - Lleucu Sion. Dewch i mewn i wrando reit handi!*Mae'r bennod hon wedi ei hariannu gan S4C i hyrwyddo ail gyfres deledu 'Stad' ar S4C #AD

  34. 91

    52 - Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani

    Roedd hi'n wythnos lwyddiannus i Alan Carr, Jonathan Bailey a Zohran Mamdani yr wythnos ddiwethaf felly mae'n silffoedd ni'n llawn dop yn barod ar eich cyfer chi. Ar ben hynny, mae Mari a Meilir wedi ail-ymweld â'r rhestr enwau drag arbennig gan James, Huw a Neil er mwyn rhoi dôs o lawenydd i ni cyn y penwythnos. Mwynewch!

  35. 90

    51 - Julia Fox, Mariah Carey a Mr Windsor

    Mae Calan Gaeaf wedi pasio ac mae Mariah wedi sgrechian ei neges - mae'n amser! Ydych chi'n barod i groesawu ysbryd yr Ŵyl? Pa wisg calan gaeaf oedd eich hoff un chi? Mewn wythnos pan welson ni dywysog yn colli ei goron a gwleidydd yn ymuno â panto, mae Mari a Meilir yn barod i siarad siop. Mewn â chi!

  36. 89

    *BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - Pennod 4&5

    Hir yw pob aros ond dyma bennod bonws yn arbennig i chi yn trafod y ddwy bennod ddiweddaraf o Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 4&5. Mwynhewch!

  37. 88

    50 - Lily Allen, Kelvin R&R a Casper the ghost

    Yn y bennod sbŵci, dŵci, lŵci yma, mae Mari a Meilir yn tynnu albwm newydd Lily Allen yn ddarnau - gan drafod y manylion, yr alawon a'r holl fanylion mae hi'n ei rannu yn y caneuon. Newyddion trist oedd rhaid rhoi sylw iddo yr wythnos yma oedd marwolaeth Kelvin Walsh ar Rownd a Rownd, cyn i ni agor y blwch llawn o geisiadau a chyfrinachau. Dewch i mewn!

  38. 87

    49 - Thong Kim K, rhech Celia Imrie a jewels y Louvre

    Mae hi wedi bod yn wythnos a hanner i bopeth brenhinol - o ladrad y gwemweithiau o'r Louvre i Dywysog Andrew yn ildio ei freintiau brenhinol. O, ie...a ma Kim Kardashian wedi ychwanegu thong blewog i'w chasgliad dillad diweddaraf. Pawb at ei beth a bo, am wn i! A peidiwch a dechre ni off ar Cwîn Celia Imrie. Mewn â chi heb lol.

  39. 86

    *BONWS* Rupaul's Dragrace UK 7 - pennod 3

    Gan fod ein penodau arferol ni'n reit swmpus, dyma wahanu'r sgwrs am Rupaul's Dragrace mewn i bennod fach bonws i chi. Mwynewch!

  40. 85

    48 - Traitors, Diane Keaton a mwy o'r moch daear

    Wel, mae'r siop ar agor ac mae'r moch daear yn hoffi eu lle yng ngardd Mari. Hefyd mae'r silffoedd yn llawn o straeon yr wythnos - o farwolaeth yr athrylith o actores, Diane Keaton i ddiddordeb diweddar Mari o gerddwyr Everest...! Allwch chi ddim cwyno bod dim amrywiaeth yma. Mewn a chi de.

  41. 84

    47 - British Podcast Awards a BAFTA Cymru

    Fel dywed y teitl - does what is says on tin! Os na welsoch chi'r nifer obnoxious o straeon ar ein cyfryngau cymdeithasol, yna gwrandewch i glywed yr hanes o'r British Podcast Awards a seremoni BAFTA Cymru. Spoiler alert: Llongyfarchiadau ENFAWR i Mari Grug a Sioned Nelson ar ddod yn fuddugol yn y BPA eleni ac i 'Yr Hen Iaith' ar ddod yn ail.

  42. 83

    46 - Poody, Joe Jonas a SFA

    Er i ni ddweud nad oedd amser i recordio pennod cyn y Podcast Awards, da ni wedi llwyddo i recordio ein pennod hiraf hyd yn hyn. Wps! Roedd cymaint o stock - o bartïon penblwydd i drip Manceinion i'r holl newydd diwylliant pop heb sôn am y 23 cais yn ein blwch! Buckle in, bois bach a mewn â chi...

  43. 82

    45 - Awards prep, ymprydio a moch daear

    Mae Mari a Meilir nol ar y zoom yr wythnos yma and it's business as usual. Mae rhan wleidyddol y podlediad wedi ei bedyddio fel y Silff Sobor, mae moch daear yng ngardd Mari ac mae Kimmel nol wrth ei ddesg. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!

  44. 81

    44 - Amour a Mynydd, Owain Glyndwr a polau piniwn

    Mae hi di bod yn wythnos drom yn y newyddion ond mae wastad cyfle yn y siop i roi ychydig o ddihangfa. Boed yn sgwrs am snacs anarferol, adolygiadau teledu ac i gwyno am rieni sy'n rhoi guilt trips. Dewch i mewn am seibiant ac i wrando ar y mwydro arferol.

  45. 80

    43 - Rownd a Rownd, Sengylion ac enwau drag Cymraeg

    Yr wythnos hon, mae'r siop mor llawn ag erioed o straeon gan gynnwys penblwydd y gyfres 'Rownd a Rownd' yn 30, ein dilynwyr instagram newydd, marwolaeth Giorgi Armani, golygydd newydd Vogue yr UDA a llond blwch o geisiadau a chyfrinachau. Fedrwn ni ddim aros i chi glywed y rhestr o enwau brenhinesau drag Cymraeg gafodd eu cynnig... Mewn â chi!

  46. 79

    42 - Burps, KPop a Cardi B

    Mae drysau'r siop bron a byrstio ar agor yr wythnos hon efo hanesion Mari a Meilir, digwyddiadau o amgylch y byd a blwch gorlawn o geisiadau. Mae hi'n bennod hir, felly strap in a mwynhewch y sgwrs.

  47. 78

    41 - Gŵyl Llanuwchllyn, Caerdydd a Catrin Feelings

    Ar ôl wythnos brysur o deithio a digwyddiadau, mae Mari a Meilir yn falch o fod nol yn y siop i roi'r byd yn ei le. O Catrin Feelings i Lil Nas X, mae'r cyfryngau diwylliant pop wedi bod reit brysur. Dewch i mewn i wrando.

  48. 77

    40 - Meilir y life guard, eirin tagu a date-io

    Mae'r haf bron a gorffen ond mae yna lwyth o straeon i'w rhannu cyn i'r dail ddechrau disgyn. Trip Aberdaron, pyllau padlo epig, hanesion date-io a Meilir yn achub bywyd rhywun. That's right - da chi wedi darllen yn gywir. Dewch i glywed yr hanesion!

  49. 76

    39 - Goss y maes, Karens a Bethans a Steddfod blŵs

    Wel, mae'r Eisteddfod wedi cyrraedd a phasio bellach a dydi Meilir heb gael cyfle i ddadbacio ei ddillad cyn bod rhaid dadbacio holl ddigwyddiadau'r wythnos o amgylch y maes a rownd y byd. Pwy oedd y snogio wrth y portaloos? FAINT oedd pris taten drwy'i chroen? Pwy oedd yn Maes B? Dewch i mewn i wrando!

  50. 75

    38 - Eisteddfod! Yn yr Eisteddfod, ieee!

    Wrth i Mari a Meilir baratoi i ymweld ag Eisteddfod Wrecsam mewn ychydig ddyddiau, mae 'na lwyth o geisiadau i drafod y ffordd orau i fwynhau a goroesi wythnos yn yr Ŵyl. Mewn â chi i'r siop i ymuno yn y sgwrs, gloi!

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

HOSTED BY

Mari Beard and Meilir Rhys Williams

Frequently Asked Questions

How many episodes does Siarad Siop efo Mari a Meilir have?

Siarad Siop efo Mari a Meilir currently has 50 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Siarad Siop efo Mari a Meilir about?

Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

How often does Siarad Siop efo Mari a Meilir release new episodes?

Siarad Siop efo Mari a Meilir has 50 episodes. Check the episode list to see recent publication dates and frequency.

Where can I listen to Siarad Siop efo Mari a Meilir?

You can listen to Siarad Siop efo Mari a Meilir on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Siarad Siop efo Mari a Meilir?

Siarad Siop efo Mari a Meilir is created and hosted by Mari Beard and Meilir Rhys Williams.
URL copied to clipboard!