Skip to content
Ysbeidiau Heulog podcast artwork

PODCAST · comedy

Ysbeidiau Heulog

by Ysbeidiau Heulog

Podlediad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones sy’n rhoi sylw i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn.

Publisher-supplied feed metadata · PodParley refreshed Apr 12, 2026 · Source feed

Episodes

  1. Pennod 100 - Rhys Mwyn

    Doethineb a streuon gydag un o arwyr Llwyd Owen a Leigh Jones. Yn gynt o'r Anhrefn a'r label recordiau o'r un enw, llais cyfarwydd ar Radio Cymru bob nos Lun... Yr un a'r unig Rhys Mwyn yw gwestai'r CANFED BENNOD. Ni fydd pennod arall am amser hir iawn wrth i Llwyd a Leigh gamu'n ôl, felly...

  2. Pennod 99 - Hufen iâ gyda fflêc

    Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod y cyfnod hollol honco hwn... am y tro olaf am sbel. Pennod 100 bydd yr olaf am sbel wrth i'r ddau egluro yn y bennod hon beth sy'n digwydd, yn ogystal â chael laff wrth gwneud. Cyfranwch at ein…

    more
  3. Pennod 98 - Rhydian Bowen Phillips

    Gwyneb a llais cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi cymryd sylw o'r cyfryngau yng Nghymru dros y chwarter canrif diwethaf. Mae Rhydian Bowen Phillips yn gyn-aelod o foiband mwyaf Cymru, ond eisioes yn lais cyfarwydd ar Radio Cymru 2 ac yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ond beth sy'n ei gadw'n hapus?…

    more
  4. Pennod 97 - Seren Morgan Jones

    Arlunydd aruthrol Aberystwyth, Seren Morgan Jones yw gwestai'r bennod hon. Mae hi'n siarad am ei gwaith, am etifeddiaeth ysbrydol, ac wrth gwrs am y pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod…

    more
  5. Pennod 96 - Eddie Ladd

    Sgwrs ffraeth, difyr a dwys gyda'r dawnsiwr, ffarmwr, a chyn-gyflwynydd y gyfres eiconig Fideo 9 - Eddie Ladd! Mae hi'n rhannu'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus gyda Llwyd Owen a Leigh Jones. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter:...

  6. Pennod 95 - Jon Gower

    Neb arall ond awdur toreithiog ac arobryn i gadw cwmni i Llwyd Owen a Leigh Jones ar y bennod yma. Cylchdaith rownd pen Jon Gower wrth iddo siarad am y pethau bach sy'n ei wneud yn hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod...

  7. Pennod 94 - Ed Holden

    Artist unigryw ac adnabyddus i unrhywun sydd wedi cymryd sylw o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg dros y chwarter canrif diwethaf. Cyn-aelod o fandiau megis Pep Le Pew a Genod Droog, ond eisioes yn artist unigol blaenllaw yn recordio fel Mr Phormula - Ed Holden yw gwestai'r bennod yma! Ond tybed, beth...

  8. Pennod 93 - 3 Hŵr Doeth

    Sgwrs gyda ddau o aelodau'r grŵp rap rhagorol o'r gogledd, 3 Hŵr Doeth - Boi Ma ac Yr Arch Hwch. Pennod sydd ddim yn siomi wrth i'r ddau rhannu'r pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus. Dewis Boi Ma: https://www.youtube.com/watch?v=xJYfOGb3sKw Gwyliwch fideo newydd y ddeuawd sydd yn sarhau ar GIGS:...

  9. Pennod 92 - Heledd Watkins

    Y gantores o'r gorllewin, aelod y band HMS Morris, Heledd Watkins yw gwestai'r bennod yma. Gwyliwch ei fideo newydd i 'House' yma... https://www.youtube.com/watch?v=QG5XYMV-VUs Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith...

  10. Pennod 91 - Gav Murphy

    Gwestai'r bennod yma yw'r newyddiadurwr gemau, ffrydiwr, kebab-garwr, a phodgrefftiwr, Gav Murphy! Gwrandewch arno'n rhannu'r pethau bach sy'n ei gadw'n hapus gyda Llwyd Owen a Leigh Jones. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod...

  11. Pennod 90 - Dyfed Edwards

    Awdur hir-sefydlog ym myd llenyddiaeth Cymru, yn ogystal ag awdur arswyd yn yr iaith Saesneg o dan y nom de plume Thomas Emson, gwestai'r bennod yma yw Dyfed Edwards. Llwyd Owen a Leigh Jones sydd yn trafod y pethau sy'n cadw'r awdur yma'n hapus. Cyfranwch at ein costiau…

    more
  12. Pennod 89 - Nepotistiaeth

    Be sy'n cadw Llwyd a Leigh yn hapus yr wythnos yma? Sgyrsiau am TGAU, yfed dan oed, teledu o Awstralia, Leigh wastad ar ei wyliau a mwy. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  13. Pennod 88 - Elliw Gwawr

    Gohebydd gwleidyddol, llais cyfarwydd ar gyfryngau Cymru, awdur llyfrau coginio, a ffan mwyaf y podlediad hon... Elliw Gwawr yw gwestai'r bennod yma. Beth yw'r pethau sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod...

  14. Penod 87 - Yma O Hyd

    Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bychain sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yr wythnos yma. Gan gynnwys sgyrsiau am Yma O Hyd, Wrecsam, snŵcer, mynd ar y sesh ayyb. Dyma'r 'reaction video' sy'n cael ei drafod ar ddechrau'r bennod... https://www.youtube.com/watch?v=35vm7wpWgHg...

  15. Pennod 86 - Gai Toms

    Un o gerddorion gorau Cymru gyda gyrfa sy'n estyn ar draws tair degawd - aelod o Anweledig, Mim Twm Llai ei hun, Gai Toms yw gwestai'r bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  16. Pennod 85 - Bruce Bannau Brycheiniog

    Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod Prydeindod, Cymreictod, enwau Cymraeg, Michael Sheen ac, wrth gwrs, y pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Fideo Michael Sheen yn cyhoeddi enw uniaith Gymraeg parc cenedlaethol y Bannau Brycheiniog... https://www.youtube.com/watch?v=m7fcRyIY3EQ Cyfranwch at…

    more
  17. Pennod 84 - R.Seiliog

    Cerddor sydd wedi bod wrthi ers rhyw dwy ddegawd yn barod, Robin Edwards - ag adnabyddir yn well fel R.Seiliog - yw gwestai'r bennod yma. Mae un o'r pethau sy'n ei wneud yn hapus wir wedi newid bywydau Leigh a Llwyd. Am bennod! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar...

  18. Pennod 83 - Elin Parisa Fouladi

    Y cerddor, cantores, a chyflwynwraig Elin Parisa Fouladi yw gwestai'r bennod yma yng nghwmni Llwyd a Leigh. Efallai eich bod chi wedi gweld hi ar Y Byd ar Bedwar yn ddiweddar yn edrych ar beth sy'n digwydd yn Iran ar hyn o bryd, ond beth sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau:...

  19. Pennod 82 - Clociau

    Mae'r clociau wedi symud ymlaen! Haleliwia! Ond beth sy'n cadw Llwyd Owen a Leigh Jones yn hapus ar y bennod yma? Sgyrsiau am Star Wars, celf, a lot mwy! Ambell ddolen i fynd gyda'r bennod... Bill Murray yn canu thema Star Wars: https://www.youtube.com/watch?v=ljiVRV5B5i8 Grim Art Group:...

  20. Pennod 81 - Aneirin Karadog

    Prifardd, cerddor, rapiwr, cyflwynydd a lot mwy, Aneirin Karadog yw gwestai'r bennod yma. Beth yw'r pethau bach sy'n ei gadw'n hapus? Clywch hefyd stori gan Leigh am y tro wnaeth e fentro i fyd reslo. Nodyn: Roedd nam wrth recordio oedd yn golygu bod Llwyd a Leigh methu clywed chwiban dun…

    more
  21. Pennod 80 - Ceilliau

    Llwyd Owen a Leigh Jones yn ôl i drafod y pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus gan gynnwys sgyrsiau am iechyd, alcohol ayyb. Dyma'r sgwrs rhwng Eddie Ladd a Brychan Llŷr mae Llwyd yn siarad amdano: https://www.youtube.com/watch?v=vhrv_vPSr0M Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog...

  22. Pennod 79 - Beti George

    Gall ambell westai o'r gorffennol ar y podlediad yma cael eu disgrifio fel "trysor cenedlaethol", ond does dim un ohonyn nhw yn yr un cynghrair â gwestai'r bennod yma. Nid oes angen cyflwyniad arni o gwbwl. Diolch aruthrol i'r chwedlonol Beti George am rannu urddas i'n podlediad bach ni.…

    more
  23. Pennod 78 - Hetwysgwyr

    Ar ôl wythnos ar ei wyliau mae Leigh yn dychwelyd i sgwrsio gyda Llwyd wrth i'r ddau sôn am yr awen, yn ogystal â'r pethau bach sy'n eu gwneud nhw'n hapus. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  24. Pennod 77 - H.Hawkline

    Roedd Leigh ar ei wyliau pan ddaeth y cyfle i Llwyd sgwrsio gyda H.Hawkline (aka Huw Evans), felly dyma sgwrs bach hyfryd, ffraeth ac agored am waith a bywyd y cerddor ac artist amryddawn cyn iddo deithio'r byd yn cefnogi ei albwm newydd Milk For Flowers. Cyfranwch at ein costiau:...

  25. Pennod 76 - Richard Elis yn dychwelyd

    Y gwestai cyntaf i ddychwelyd i'r podlediad, yr anfarwol, y pengratiwr ei hun, Richard Elis sydd yn ôl ar Ysbeidiau Heulog i drafod y pethau bach sy'n ei gadw e'n hapus. Clasur o bennod, ond roeddech chi'n gwybod hynny cyn gwrando! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni…

    more
  26. Pennod 75 - Gwenno Morgan

    O bosib y tro cyntaf i rywun rhannu'r pethau bach sy'n ei gwneud nhw'n hapus, sydd wedi bod yn ddewis rhywun arall yn y gorffennol... Y cerddor rhagorol Gwenno Morgan yw gwestai'r bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod...

  27. Pennod 74 - Cnychu

    Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd y cnychwyr mawr. Mae Llwyd yn rhannu'r stori am golli ei wyryfdod. Ych a fi. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  28. Pennod 73 - Siôn Alun Davies

    Actor byddech chi'n ei adnabod o bethau fel y ffilm arswyd rhagorol 'Gwledd', neu'r cyfresi 'Craith' a '35 Diwrnod', Siôn Alun Davies sydd yn siarad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones ar y bennod yma. Ond beth sy'n ei gadw'n hapus, tybed? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni...

  29. Pennod 72 - Hanna Jarman

    Awdur ac actor adnabyddus o'i waith sy'n cynnwys yr anhygoel Merched Parchus, ac awen un o brif cymeriadau nofelau Llwyd - yr un a'r unigryw Hanna Jarman yw gwestai'r bennod yma. Gwrandwch wrth iddi synnu Llwyd Owen a Leigh Jones gyda'i dewisiadau o beth sy'n ei gwneud hi'n hapus! Cyfranwch at…

    more
  30. Pennod 71 - Ac i bawb sydd yn y Tŷ

    Llwyd Owen a Leigh Jones yn dychwelyd gyda phennod gyntaf y flwyddyn 2023. Sut hwyl dros yr ŵyl gaethon nhw, a beth yw'r pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  31. Pennod 70 - Peredur ap Gwynedd

    Gitarydd o fri, seiclwr brwd, a cwmni gwych dros awren fach, Peredur ap Gwynedd yw gwestai'r bennod yma. Sgwrs am ei waith gyda'r grŵp Pendulum a beth sydd ar y gweill gyda nhw ar ôl blwyddyn fawr, a'r term Gymraeg gorau am ei hoff fwyd Nadolig, ond beth sy'n cadw'r bwyellwr yn hapus?! Cyfranwch…

    more
  32. Pennod 69 - Soixante-neuf

    Carreg filltir rhywiol i Llwyd Owen a Leigh Jones wrth iddyn nhw drafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw yn ystod wythnos rhyfeddol o oer. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  33. Pennod 68 - Alun Davies

    Un o hoff nofelwyr Llwyd Owen sy'n cadw cwmni iddo fe a Leigh Jones yn y bennod yma - Alun Davies. Beth sy'n ei gadw e'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  34. Pennod 67 - Nia Morais

    Y dramodydd o Gaerdydd, ac awdur preswyl Theatr y Sherman yw gwestai'r bennod yma - Nia Morais! Beth sy'n ei chadw hi'n hapus, tybed? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  35. Pennod 66 - Sywel Nyw (Lewys Wyn)

    Y cerddor Lewys Wyn (aka Sywel Nyw) yw gwestai'r bennod hon. Aelod o'r Eira ac ennillydd y wobr am Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn 2022 am ei record hir "Deuddeg" (sydd yn cynnwys gwestai fel Mark Cyrff, Endaf Emlyn a mwy), ac hefyd yn frawd bach i Gruff Lynch a Casi Wyn, ond beth yw'r pethau bach…

    more
  36. Pennod 65 - Colled

    Yn y bennod yma mae Llwyd Owen a Leigh Jones yn trafod y pethau bach sy'n cadw nhw'n hapus, fel arfer. Er hyn, rhybudd i chi - mae sgwrs ddwys a difrifol am golled a galar ar ddechrau'r bennod. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod...

  37. Pennod 64 - Llio Maddocks

    Gwestai'r bennod yma yw'r awdur ac instafardd, Llio Maddocks. Beth yw'r pethau bach sy'n ei chadw hi'n hapus? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD: Iaith anweddus!

  38. Pennod 63 - Gwres Canolog

    Cafodd Leigh noson hwyr cyn recordio'r bennod yma ac mae'n amlwg wrth iddo frwydro'i ffordd drwy brawddegau am awr. Yn lwcus i chi roedd Llwyd ar frig ei bŵer wrth recordio! Pennod arall o'r podlediad sydd yn rhoi sylw i'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. Cyfranwch at ein costiau:...

  39. Pennod 62 - Dylan Ebenezer

    Mae e ar fin mynd i Qatar i weithio yng Nghwpan y Byd, ond a fydd e'n cael aros mewn gwesty sych neu wlyb gyda Malcolm Allen? Llais a gwyneb cyfarwydd i bawb ledled Cymru, Dylan Ebenezer yw gwestai'r bennod yma! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter:...

  40. Pennod 61 - Megan Angharad Hunter

    Yr awdur amryddawn, ac ennillydd Llyfr y Flwyddyn gyda'i nofel chyntaf - Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad Hunter yw gwestai'r bennod yma. Beth sy'n ei chadw hi'n hapus? Gwrandewch i ddarganfod! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod...

  41. Pennod 60 - Pererindod i'r Sied

    Carreg filltir wrth i'r podlediad cyrraedd 60 pennod, ac i Llwyd Owen a Leigh Jones recordio pennod yn y cnawd gyda'u gilydd am y tro cyntaf erioed o'r sied chwedlonol yn Rhiwbeina. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod RHYBUDD:...

  42. Pennod 59 - Tomos Williams

    Gwestai cyntaf wrth ddod yn ôl atoch chi bob wythnos yw'r cerddor jazz a chyflwynydd Radio Cymru, Tomos Williams. Chwaraewr trwmped gyda Burum Khamira a llwyth o grwpiau eraill - beth yw'r pethau bach sy'n cadw Tom yn hapus? Cyfranwch at ein costiau: https://ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni…

    more
  43. Pennod 58 - Bola Llwyd

    Ar ôl seibiant bach (mawr), mae'r bois yn ôl bob wythnos o hyn ymlaen! Llwyd Owen a Leigh Jones yn rhannu'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddyn nhw. Roedd bola Llwyd yn gwneud synnau drwy'r holl recordio o'r bennod yma - gwrandewch yn astud i weld os ydych chi'n gallu clywed y grwgnachau!

  44. Pennod 57 - Gwylanod Cefndirol

    MAE'R BOIS NÔL! Pennod fach i'ch cadw chi'n gynnes cyn i Llwyd Owen a Leigh Jones dychwelyd i bodgrefftio bob wythnos o fewn mis. Dyna addewid cyhoeddus! Ond, beth sydd wedi bod yn eu cadw nhw'n hapus dros y tair mis diwethaf?

  45. Pennod 56 - Homes Under The Hammer

    Mae Llwyd a Leigh yn ôl (am y tro) i siarad am eu absenoldeb ac wrth gwrs y pethau bach sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw ers y bennod diwethaf. Sôn am Gymreictod (wrth gwrs), nofelau (wrth gwrs) a llond llwyth o falu awyr. Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac...

  46. Pennod 55 - Dogging

    Llwyd Owen a Leigh Jones unwaith yn rhagor yma i siarad am y pethau bach sy'n eu cadw nhw'n hapus yn ystod y cyfnod hollol honco hwn. Ffilms am gomics, adar, safleoedd dogging. Jyst rhai o'r man bethau hapus yn y bennod yma. Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar...

  47. Pennod 54 - Iwan ap Huw Morgan

    Cyn i chi wrando i'r bennod yma, ewch nol i wrando ar y bennod o hen bodlediad Llwyd gyda'r gwestai arbennig yma, Does Dim Gair Cymraeg am Random - trwy cyd-ddigwyddiad llwyr pennod 54 o hynny yw hi hefyd! Felly pwy yw Mr 54? Cerddor sy'n rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enw Woodooman, iachawr a...

  48. Pennod 53 - Ffion Dafis

    Gwyneb cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld S4C dros yr ugain mlynedd diwethaf, a bronnau cyfarwydd i unrhyw un wnaeth weld bws Cymreig ym 1999. Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu a theatr, pwy arall ond Ffion Dafis?! Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar...

  49. Pennod 52 - Slebs

    Yr wythnos yma mae Llwyd a Leigh yn trafod y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. O.N. Mae Leigh yn drysu rhwng Clapham Common a Hampstead Heath wrth siarad am Ron Davies (cofio fe?!). Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/YsbeidiauHeuPod Ac...

  50. Pennod 51 - Sara Huws

    Hanesydd, gwyneb cyfarwydd fel cyflwynydd teledu a chodwr pwysau, Sara Huws yw gwestai'r bennod yma! Ond sawl iaith mae hi'n siarad, sawl gratiwr caws sydd ganddi a beth yw'r pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr iddi hi? Cyfranwch at ein costiau: ko-fi.com/ysbeidiauheulog Dilynwch ni ar...

Type above to search every episode's transcript for a word or phrase. Matches are scoped to this podcast.

Searching…

We're indexing this podcast's transcripts for the first time — this can take a minute or two. We'll show results as soon as they're ready.

No matches for "" in this podcast's transcripts.

Showing of matches

No topics indexed yet for this podcast.

Loading reviews...

ABOUT THIS SHOW

Podlediad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones sy’n rhoi sylw i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn.

HOSTED BY

Ysbeidiau Heulog

CATEGORIES

Frequently Asked Questions

How many episodes does Ysbeidiau Heulog have?

Ysbeidiau Heulog currently has 101 episodes available on PodParley. New episodes are automatically indexed when they're published to the podcast feed.

What is Ysbeidiau Heulog about?

Podlediad gyda Llwyd Owen a Leigh Jones sy’n rhoi sylw i’r pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ni yn ystod y cyfnod hollol honco hwn.

How often does Ysbeidiau Heulog release new episodes?

Ysbeidiau Heulog publishes regularly with 101 episodes available. Check the episode list for the typical release schedule.

Where can I listen to Ysbeidiau Heulog?

You can listen to Ysbeidiau Heulog on PodParley by clicking any episode. We provide an embedded audio player for direct listening, and you can also subscribe via your preferred podcast app using the RSS feed.

Who hosts Ysbeidiau Heulog?

Ysbeidiau Heulog is created and hosted by Ysbeidiau Heulog.
URL copied to clipboard!