EPISODE · Oct 25, 2010 · 39 MIN
Episode 1: Croeso i’r Haclediad
from Yr Haclediad · host Haclediad
“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod Mac allan o’i system. Gyda defnydd estynedig Bryn o’r iPad, anrheg ‘Dolig cynnar yr Apple TV gan Iestyn, a Sioned yn cracio dan y gwasgedd a gadael i iMac ddyfod i’w thŷ, mae digon i chi wrando arno, ond dim gormod i syrffedu arno gobeithio! Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar [email protected]. Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi! Criw’r Haclediad O.N. Ffrwd iTunes yn dod yn fuan. Diolch yn fawr i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com The post Croeso i’r Haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
NOW PLAYING
Episode 1: Croeso i’r Haclediad
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
May 8, 2026 ·2m
May 4, 2026 ·2m
May 2, 2026 ·4m
May 2, 2026 ·4m
May 1, 2026 ·4m