EPISODE · Feb 25, 2024 · 50 MIN
Adam Jones
from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru
Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth Beti George. Tu hwnt i’r ardd, mae Adam yn dipyn o ieithydd. Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth, astudiodd Almaeneg ac mae’n siarad yr iaith, ynghyd â Sbaeneg, rhywfaint o Ffrangeg ac Eidaleg, ac ychydig o Rwsieg, Pwyleg, Tyrceg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban. “Dw i’n meddwl fy mod i’n berson eithaf busneslyd ac achos hynny dw i’n licio dysgu ieithoedd. Dw i’n gwylio lot o ffilmiau a rhaglenni mewn ieithoedd gwahanol". Bu’n gweithio ym myd cyfieithu a chyfathrebu ar ôl graddio, gyda’r Mentrau Iaith ac yna’r Coleg Cymraeg, ond roedd rhywbeth ar goll, ac roedd yn awchu am fod allan ar y tir neu yn yr ardd. Ar ôl prynu ei gartref cyntaf gyda Sara, sy’n wraig iddo nawr, dechreuodd ailwampio’r ardd, a rhannu ei waith ar Instagram.
What this episode covers

NOW PLAYING
Adam Jones
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
Oct 3, 2025 ·28m
Sep 16, 2025 ·29m
Sep 16, 2025 ·47m
Sep 12, 2025 ·37m
Sep 11, 2025 ·40m
Sep 10, 2025 ·40m