Episodes
-
Mari Grug
Mari Grug James yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da. Wedi’i magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino...
-
Joseff Gnagbo
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo. Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd. Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg. Mae'n ymgyrchydd, athro...
-
Gav Murphy
Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau. Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n…
more -
Sharon King
Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain. Cafodd ei...
-
Arwel Hughes
Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn. Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru.…
more -
Nic Parry
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn…
more -
Vaughan Roderick
Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac...
-
Hedydd Hughes
Hedydd Hughes yw gwestai Beti George. Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect…
more -
Dr Simon Brooks
Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel...
-
Emyr Gibson
Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp...
-
Phyllis Kinney
Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, nôl yn 1997. Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar ŵr, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores...
-
Lili Mai Jones
Gwestai Beti George yw y pêl-droediwr Lili Jones o Wrecsam. Fe dreuliodd 4 tymor yn chwarae i Everton gan ddechrau yn 12 mlwydd oed, yna fe ymunodd a thîm merched Wrecsam ble mae hi'n byw ac yn paratoi i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf. Fe gafodd ei derbyn i'r Orsedd llynedd yn yr Eisteddfod...
-
Eurig Wyn Jones
Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys Môn, yw gwestai Beti George. Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain…
more -
Hannah Parr
Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at...
-
Aled Hall
Mae’r tenor o Gymru Aled Hall wedi perfformio repertoire sy’n ymestyn o Mozart i Wagner gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd ledled y byd. Fe’i ganwyd yn 1968 ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin yn fab fferm. Doedd dim pwysau arno i aros adref i ffermio, ac fe aeth i'r brifysgol i Aberystwyth i ddechrau…
more -
Ann Davies AS
Etholwyd Ann Davies yn AS Caerfyrddin yn 2024. Cafodd ei geni a’i magu yn Sir Gâr, ac mae Ann wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Landdarog ers 2017, ac fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021. Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd…
more -
Iwan Teifion Davies
Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy’n ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a’r opera yng Nghymru a thu hwnt. Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i...
-
Owain Richards
Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar yw gwestai Beti George, ac mae'n cael ei alw yn " Geidwad y Graig". Fe gafodd ei fagu ar fferm Cae’r Defaid ger Trimsaran yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd o wrth ei fodd gyda rhaglenni am yr heddlu fel 'The Bill' ac fe benderfynodd yn fachgen ifanc mai...
-
Heledd Williams
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Heledd Williams o Drefdraeth, Sir Benfro. Mae Heledd yn un o Ferched y Môr a groesodd Fôr yr Iwerydd taith o 3,000 o filltiroedd mewn 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud fel rhan o World’s Toughest Row. Fe ddechreuodd Merched y Môr - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i...
-
Dr Gareth Hallett Davis
Gareth Hallet Davis yw gwestai Beti George. Fe ddaw yn wreiddiol o bentref bach Pant y Brad, sydd rhwng Tonyrefail a Llantrisant. Mae wedi treulio 20 mlynedd yn teithio'r byd gan iddo weithio i gwmni Americanaidd oedd yn cynhyrchu rhaglenni teithio. Mae wedi hwylio'r afon Nîl dair gwaith ac wedi...
-
Lauren Salter
Mae Lauren Salter, sy’n fwy adnabyddus yn broffesiynol fel Lauren Jenkins, yn un o brif wynebau darlledu rygbi yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio i BBC Sport, S4C, Prime Video a Premier Sports ac yn cyflwyno a sylwebu ar ein sgriniau’n wythnosol. Cafodd cryn dipyn o sylw yn ystod Pencampwriaeth y...
-
Alun Llwyd
Dywed rhai bod twf a datblygiad y sîn cerddorol Gymraeg i'w briodoli i waith a dygnwch Alun Llwyd. Mae'n un o'r ddau a sefydlodd label ANKST yn 1988, ac 8 mlynedd nôl fe sefydlodd PYST sy'n cynnig gwasanaethau i helpu hyrwyddo recordiau ac Am sydd yn hyrwyddo'r celfyddydau trwy gyfrwng digidol....
-
Rhys Jones
Datblygwr eiddo o’r Sarnau ger y Bala yw gwestai Beti George, ond sydd erbyn hyn yn rhannu ei amser rhwng Gwlad Pwyl a Norwy. Doedd Rhys ddim yn rhy hoff o’r Ysgol, ond yn mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored gyda’I Dad ar y fferm, ac yn helpu gyda’i fusnes adeiladu. Fe aeth i’r coleg yn...
-
Annie Morgan Suganami
Celf yw diddordeb ein gwestai Annie Morgan Suganami, a hynny ers yn blentyn bach - ond fe aeth hi i'r Academi Frenhinol yn Llundain yn 15 mlwydd oed i gael ei hyfforddi i chwarae'r ffliwt, a dyna oedd yr offeryn roddodd fywoliaeth iddi a hynny fwy neu lai ar draws y byd. Yna yn 60 mlwydd oed...
-
Bethan Rees Roberts
Bethan Rees Roberts yw gwestai Beti George. Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, mae Bethan bellach yn rhannu ei hamser rhwng Llundain a Caerdydd. Mae'n Beirianydd Cemegol, ac wedi gweithio efo'r Tiwb yn Llundain (London Underground), a chwmni Shell. Ei swydd olaf oedd fel Prif Swyddog Data Shell, lle bu’n...
-
Peredur Glyn
Yr awdur a darlithydd Peredur Glyn yw gwestai Beti George. Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2025 am ei nofel Anfarwol sy’n dilyn bywyd yr actor enwog o’r ddeunawfed ganrif, Theophilus Cibber. Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac yno mae'n byw heddiw gyda'i deulu ym Mhorthaethwy. Aeth i Ysgol...
-
Stephen Rule - Doctor Cymraeg
Mae Stephen yn cael ei adnabod fel y ‘Doctor Cymraeg’ ac yn adnabyddus fel athro Cymraeg, awdur a chrëwr cynnwys. Mae’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (Instagram, TikTok a Youtube) er mwyn gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn annog a helpu dysgwyr yr iaith i ennill hyder. Fel rhywun a ddysgodd...
-
Mati Roberts
Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd. Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth. Deuddeg mlynedd ers disgyn…
more -
Geraint Hughes
Mae'r cwmni heddiw yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint Hughes yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei...
-
Annie Maycox Walker
Dyw’r cwmni heddiw ddim wedi cael bywyd hawdd ac mae hynny'n deillio o gyfnod plentyndod pan gafodd ei cham-drin yn rhywiol gan ei thaid. Mae'n teimlo'n gryf bod angen iddi ddweud ei stori am nad yw'r pwnc yn ei barn hi yn cael ei drin mor agored ac y dyle fe. Ar hyd y blynyddoedd mae Annie…
more -
Meinir Gwilym
Meinir Gwilym, y gantores sydd wedi cynhyrchu 6 albwm dros 20 mlynedd, yw gwestai Beti George. Mae hi hefyd yn gyflwynwraig radio a theledu, ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi Garddio a Mwy ar S4C - ac yn aelod o'r grŵp Pedair. Cawn ei hanes ym Mhatagonia gyda Pedair a datblygiad y grŵp. Mae hi'n...
-
Iolo Williams
Iolo Williams y naturiaethwr, awdur a'r cyflwynydd poblogaidd ar raglenni natur ar BBC Cymru ac ar y rhwydwaith Prydeinig yw gwestai Beti George. Mae’n adnabyddus am raglenni fel Springwatch, Autumnwatch a’i gyfres ei hun ‘Wild Wales’ ac mae wedi cyflwyno rhaglenni Radio Cymru, Galwad Cynnar a...
-
Ani Glass
Ani Glass yr artist electro-pop o Gaerdydd yw gwestai Beti George. Enillodd ei halbwm cyntaf Mirores wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn, ac mae ei hail albwm Phantasmagoria newydd ei rhyddhau. Cawn hanesion difyr ei bywyd o'r sîn gerddoriaeth, i'w chefndir mewn ffasiwn, a'i chariad tuag at Lerpwl a'r...
-
Rhai o uchafbwyntiau Beti a'i Phobol 2025
Rhaglen wahanol i'r arfer i nodi diwedd blwyddyn arall. Pytiau o rai o sgyrsiau Beti a'i Phobol 2025, gan ddechrau gyda dwy bennod gynta’r flwyddyn - tad a merch yn sôn am y hunlle brofon nhw fel teulu oherwydd ymddygiad anfaddeuol y Swyddfa Bost. Cawn glywed stori Siân Thomas a Noel Thomas. Fe…
more -
Gwerfyl Eidda
Mae'r gwestai heddiw, sydd ychydig dros ei phedwar deg mlwydd oed, ar ei pumed swydd. Bu Gwerfyl Eidda yn gweithio gyda Mentrau Iaith yn annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg. Am 5 mlynedd bu'n diddanu teithwyr ar longau pleser yn canu. Mae wedi cynghori pobol sydd am ddechrau busnes, bu'n…
more -
Edwin Humphreys
Beti George yn holi y cerddor a'r cyn nyrs Edwin Humphreys. Nid yn aml mae Beti yn cael gwestai sydd wedi cael gyrfa mor amrywiol â hynny mewn meysydd mor wahanol i'w gilydd. Ar ôl gadael yr ysgol yn 16 mlwydd oed fe aeth Edwin Humphreys i'r fyddin a bu'n aelod o Fand Pres Catrawd Hussars. Yna…
more -
Sioned Fôn Jones
Sioned Fôn Jones, gwyddonwraig ifanc o bentref Waunfawr, Gwynedd yw gwestai Beti George. Mae wedi creu cwmni Booby Biome yn Llundain. " Ni oedd y cwmni cyntaf o'i fath yn y maes yma" meddai Sioned. Maen nhw'n creu llaeth sydd yn debyg i laeth y fron, "mae'n cocktail o facteria perffaith i fabi"...
-
Dr Brython Hywel.
Beti George yn holi Dr Brython Hywel. Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi...
-
Jâms Powys
Beti George sydd yn holi'r peilot Jâms Powys. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i gwmni awyrennau British Airways ac mae'n cyfarch y teithwyr yn Gymraeg. Ers yn blentyn bach doedd dim byd arall yn apelio fel gyrfa, ac fe ddechreuodd hedfan cyn iddo yrru car. Cawn glywed ei hanesion yn hedfan i Efrog...
-
Jane Richardson
Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru. Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau. Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r…
more -
Mari Huws
Beti George yn holi Mari Huws - warden ar Ynys Enlli. Fe gafodd Mari ei magu yng Nghaernarfon a Phenygroes, ac fe gafodd brofiad yn ifanc o deithio hefo'r teulu, gan gynnwys mynd i Ynys Enlli. Treuliodd gyfnodau yn gwirfoddoli a gweithio yn Costa Rica, Nicaragua, Siapan ac Indonesia. Mae hi wedi...
-
Nolwenn Korbell
Beti George yn holi Nolwenn Korbell. Llydawes wnaeth syrthio mewn cariad hefo'r Gymraeg ydi Nolwenn, a hynny ers pan oedd hi'n blentyn yn mynd gyda'i mam bob blwyddyn i'r Gyngres Geltaidd. Fe dreuliodd gyfnod yng Nghymru, a bu'n canu gyda Bob Delyn a'r Ebillion. Ar ôl mynd yn ôl i Lydaw aeth ei...
-
Marcus Whitfield
A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Marcus Whitfield. Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod â dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder. Wedi sawl ymdrech ar ddysgu'r...
-
Dafydd Roberts
Dafydd Roberts yw gwestai Beti George. Mae'n gerddor ac yn gynhyrchydd, ac yn aelod o'r grwp gwerin poblogaidd Ar Log, sy'n hanner cant oed flwyddyn nesaf. Pan yn ifanc, roedd Dafydd a'i fryd ar fod yn feddyg, ond Seicoleg oedd ei bwnc ym Mhrifysgol Bangor. Mae wedi protestio ac ymgyrchu dros yr...
-
Dr Celyn Kenny
A hithau'n Fis Ymwybyddiaeth Canser Plant, mae Beti George yn holi Dr Celyn Kenny. Meddyg sydd yn gweithio gyda phlant sy'n dioddef o ganser yw Celyn. Doedd hi ddim yn hawdd iddi gael lle ar y cwrs Oncoleg Plant gan fod 'na gyfyngu ar y nifer, ond llwyddodd i ddod yn gyntaf drwy Brydain. Mae hi...
-
Dr Gareth Evans-Jones
Beti George yn holi Dr Gareth Evans-Jones. Mae Gareth yn awdur, bardd a dramodydd ac wedi ennill Y Fedal Ddrama ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe gafodd fagwraeth gymhleth, ac fe wahanodd ei rieni pan oedd yn bump oed. Aeth i Brifysgol Bangor, a chael gradd meistr a doethuriaeth, ac...
-
Beth Winter
Beth Winter cyn aelod seneddol dros Gwm Cynon yw cwmni Beti George. Fe dreuliodd ei phlentyndod yn Aberdâr, ac roedd ymgyrchu dros achosion gwahanol yn ganolog i'r teulu. Fe gafodd ei hethol i Senedd San Steffan yn 2019 wedi Ann Clwyd benderfynu peidio sefyll. Fe unwyd Cwm Cynon a Merthyr Tudful…
more -
Ffrancon Williams
Beti George sydd yn holi Ffrancon Williams - cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai 'Adra'. Fe'i magwyd ym Mangor. Fe astudiodd Ffrancon Beirianneg Electroneg yn y brifysgol, ond penderfynodd newid maes ar ôl sylweddoli ei fod eisiau gweithio yng nghanol pobl, ac eisiau gwneud gwahaniaeth i'w…
more -
Mel Owen
Beti George yn holi Mel Owen - cyflwynydd, awdur a digrifwr. Fe'i magwyd yng Nghapel Seion ger Aberystwyth, ac aeth i Brifysgol Caerdydd. Wedi iddi weithio yn y maes gwleidyddol pan yn ifanc, mae Mel Owen bellach yn gyflwynydd ar y cyfryngau Cymraeg a Saesneg, gan gynnwys y rhaglen 'Ffermio' ar...
-
Llŷr Williams
Beti George sydd yn holi'r pianydd sydd yn adnabyddus trwy'r byd, Llŷr Williams. Cafodd ei fagu yn Pentre Bychan, Wrecsam ac mae dal i fyw yno. Mae wedi perfformio mewn neuaddau megis Carnegie Hall, Efrog Newydd, ac wedi llenwi neuadd fawr yn y Moscow Conservatory, Rwsia. Mae wedi teithio i...