Skip to content
Arloesi Digidol episode artwork

Mar 26, 2020 24 min

Arloesi Digidol

from Syniadau Iach Hosted by Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Gall Cymru fod ar flaen y gad mewn datblygu suystemau digidol ym maes iechyd a gofal medd dau o arbenigwyr technoleg. Yn y podlediad hwn bydd Dr Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito yn Wrecsam a’r dylunydd Dyfan Searrell yn parhau gyda’u trafodaeth gyda’r cyflwynydd Dr Rhodri Griffiths ynglŷn â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu datblygu technolegau a meddalwedd newydd er budd cleifion yng Nghymru. Gyda rhai o sustemau cyfrifiadurol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn fwy na 20 mlwydd oed, yr her yn ôl Dr Elin Davies yw moderneiddio heb i’r sustemau presennol fethu. “Y broblem yw na allwch chi adeiladu palas os taw seiliau byngalo sydd yma.” Mae Dr Davies yn credu bod angen mwy o addysg ymhlith y cyhoedd i gael gwared ar y camddealltwriaeth ynglŷn â diogelwch data. “Er lles eich iechyd, er lles y gymuned, rhaid i bobl sylweddoli bod ni angen y data yma i wella ein gwasanaethau i roi'r gofal gorau.” Mae’r Cynulliad mewn sefyllfa arbennig o dda ychwanega hi, i fuddsoddi i wella’r sylfaen sydd ei angen i brosesi ddata o safon dda. “O roi rheolau ar gyfer ‘gatekeeping’ yn ei lle, y gallwn ni i gyd ennill o fuddsoddiad felly.” Yn ôl Dyfan Searrell, sy’n ddylunydd ac arloeswr yn y diwydiant technoleg gwybodaeth a gwasanaethau, mae gan Gymru gyfle gwych oherwydd ei maint i ddangos bod modd cyflwyno technoleg newydd a’i brofi cyn ei allforio i wledydd eraill. “Os na fyddwn ni’n ei wneud o, mi fydd cwmni mawr arall yn prynu’i ffordd i mewn i adeiladu’r sylfaen yna… ac mi fydd y cyfle wedi mynd,” meddai. Rhodri Griffiths o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Episode details come from the podcast's RSS feed.

Embed this episode

Ready to play

Arloesi Digidol

0:00 24:12

No transcript yet.

Requests help us decide what to transcribe next.

Piece of Mind: Mental Health & Psychiatry Piece of Mind: Mental Health & Psychiatry We bring you the latest on mental health research at the National Centre for Mental Health (NCMH) and the Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics at Cardiff University, plus real-life experiences of people affected by mental health problems. We would love to hear your feedback or ideas for future episodes, either comment on our latest episode, message us at [email protected] or include #POMpod in our social media posts. Darn o Feddwl: Iechyd Meddwl a Seiciatreg Rydym yn rhannu'r diweddaraf ar ymchwil iechyd meddwl yn y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) a'r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd, a phrofiadau bywyd go iawn pobl sy'n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth neu syniadau ar gyfer penodau yn y dyfodol: naill ai rhowch sylwadau ar ein pennod ddiw IACH Medicine Jorge Gomez We bring you closer to your medical team at Fort Riley, KS. IACH Medicine Podcast addresses the questions that are meaningful to Army Families. Hear directly from the providers that deliver your care. Healthy Working Wales | Cymru Iach ar Waith Public Health Wales | Iechyd Cyhoeddus Cymru The podcast empowering employers with the knowledge and support they need to help keep the Welsh workforce healthy and in work. Geraint Hardy speaks to experts on a range of workplace health issues, relevant during the Covid 19 pandemic and beyond. Y Podlediad sy'n grymuso cyflogwyr gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i helpu i gadw gweithlu Cymru yn iach ac mewn gwaith. Mae Geraint Hardy yn siarad ag arbenigwyr ar ystod o faterion iechyd yn y gweithle, sy'n berthnasol yn ystod pandemig Covid 19 a thu hwnt.

Frequently asked questions

How long is this episode of Syniadau Iach?

This episode is 24 minutes long.

When was this Syniadau Iach episode published?

This episode was published on March 26, 2020.

Can I download this Syniadau Iach episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.