Skip to content
Syniadau Iach podcast artwork

Syniadau Iach

by Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

From the show's RSS feed, refreshed Aug 17, 2026. Source feed.

Subscribe Bookmark

Episodes

  1. Dyfodol digidol y GIG

    Mae Syniadau Iach yn croesawu Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Huw Thomas o Fwrdd Iechyd Hywel Dda i drafod technoleg a’r chwildro digidol fydd yn rhan annatod o’r GIG y dyfodol.

  2. Datblygu technoleg ddwyieithog: ydy Cymru ar flaen y gad?

    Mae Syniadau Iach yn edrych ar dechnoleg gynorthwyol ac yn gofyn ydy Cymru yn colli cyfle i fod ar flaen y gad wrth ddatblygu a darparu systemau dwyieithog? Mae Huw Marshall o Annwen Cymru a Gareth Rees o Lesiant Delta yn trafod.

  3. A all deallusrwydd artiffisial drawsnewid diagnosis cleifion Cymru?

    Gall yr holl wybodaeth sy’n cael ei gasglu amdanon ni drawsnewid diagnosis a darpariaeth gofal iechyd i gleifion Cymru? Mae Ifan Evans o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn trafod.

  4. Pa ddata amdanom ni mae’r GIG yn casglu, a sut mae’n cael ei ddefnyddio

    Mae Syniadau Iach yn gofyn faint o wybodaeth sydd gan y gwasanaeth iechyd a gofal amdanom ni? Sut mae’r wybodaeth yma yn cael ei defnyddio? Mae Richard Walker, cyn Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, yn trafod.

  5. Tabledi lawr y draen, beth yw’r effaith amgylcheddol?

    Faint o fygythiad i’n hiechyd yw llygredd o gemegau fferyllol a meddyginiaethau sy’n dianc i’r amgylchedd? Mae Siân Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru ac Elen Jones o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn trafod.

  6. Arloesedd yw’r allwedd i Gymru iachach - gydag Eluned Morgan AS

    Ym mhennod gyntaf cyfres newydd o bodlediadau Syniadau Iach, mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhannu rhywfaint o’i syniadau am y blaenoriaethau ar gyfer y GIG ar ôl y pandemig.

  7. Ymateb arloeswyr Cymru i’r Coronafeirws

    Mae’r pandemig Coronafeirws wedi taflu sialensau di-ri i gyfeiriad y gwasanaeth iechyd a gofal ond mae nifer o arloeswyr Cymru wedi ymateb i’r galw hwnnw gan ddod ag offer, theclynau a dyfeisiadau yn saff ag effeithiol i’r GIG, mewn amser byr iawn. Yn y podlediad yma fe fydd Rhodri Griffiths yn...

  8. Lledaenu a Graddfa

    Mae gweithlu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn datblygu mwy o brosiectau arloesi a gwella nag erioed o’r blaen. Ond unwaith y byddan nhw wedi profi bod eu prosiect yn llwyddiannus yn eu hardal leol, beth yw’r cam nesaf? Yn y podlediad hwn bydd Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan…

    more
  9. Arloesi Digidol

    Gall Cymru fod ar flaen y gad mewn datblygu suystemau digidol ym maes iechyd a gofal medd dau o arbenigwyr technoleg. Yn y podlediad hwn bydd Dr Elin Haf Davies, arloeswraig sy’n rhedeg ei chwmni Aparito yn Wrecsam a’r dylunydd Dyfan Searrell yn parhau gyda’u trafodaeth gyda’r cyflwynydd Dr…

    more
  10. Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran

    Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro. Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau...

  11. Hac Iechyd Cymraeg

    Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg? Mae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod…

    more
  12. Creu cymunedau iach yng Nghymru

    Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro...

  13. A all meddalwedd API wella gofal i gleifion?

    Fe allech ddiystyru API fel jargon technoleg ond fe fyddem ni ar goll hebddynt. Os ydych chi erioed wedi archebu gwesty ar-lein, wedi archebu bwyd neu wedi gwneud eich siop archfarchnad wythnosol ar eich gliniadur, byddwch wedi defnyddio API (Rhyngwyneb Rhaglenni Cymhwysiad). Mae'n god sy'n...

  14. Gofal iechyd Cymru’r dyfodol

    Mae Syniadau Iach yn trafod gweledigaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ynglŷn â’r ffordd y gall arloesedd wella’r byd iechyd a gofal yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn broblem fawr yng Nghymru, medd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford AC ond mae ganddo weledigaeth am sut y gellid...

  15. Rhagnodi Cymdeithasol

    Sut mae rhagnodi cymdeithasol yn trawsnewid y byd iechyd a gofal? Ydy cleifion Cymru yn elwa o’r arloesedd yma? Pan fydd y rhan fwyaf o gleifion yn mynd at y meddyg, byddan nhw’n disgwyl mynd o’r syrjeri gyda phresgripsiwn am foddion neu gyffuriau. Ond mae rhagnodi cymdeithasol yn golygu bod y...

  16. Syniadau Iach

    Mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

About this show

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio atebion arloesol.

Hosted by

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Produced by Bengo Media

Categories

Frequently asked questions

How many episodes does Syniadau Iach have?

Syniadau Iach has 16 episodes on PodParley. The most recent episode was published on July 11, 2022.

What is Syniadau Iach about?

Gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae Syniadau Iach yn bodlediad a fydd yn adlewyrchu syniadau newydd arweinwyr ym maes arloesol iechyd a gofal. Byddwn yn clywed gan arloeswyr , arweinwyr a dylanwadwyr sy’ wedi dangos eu hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddyfeisio...

How often does Syniadau Iach release new episodes?

Syniadau Iach publishes about every 78 days, based on its 16 episodes since April 2019.

Who hosts Syniadau Iach?

Syniadau Iach is created and hosted by Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Link copied