EPISODE · Jun 5, 2022 · 51 MIN
Ceri Isfryn
from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru
Ceri Isfryn , cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell yw gwestai Beti George. Fe ddechreuodd ei gyrfa ar The One Show, ac yna bu’n gweithio ar gyfresi i’r BBC fel Watchdog Rogue Traders, a Panorama. Mynychodd Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes Porthaethwy, a bu’n perfformio yn sioeau’r ysgol – profiad gwerthfawr yn ôl Ceri. Mae hi hefyd yn falch ei bod wedi mynychu ysgol lle'r oedd y disgyblion yn dod o gefndiroedd mor wahanol, gan gredu bod hyn yn help mawr iddi ymwneud a trawstoriad o bobl o gefndiroedd gwahanol yn ei gwaith heddiw.Yn ystod ei blynyddoedd yr ysgol Uwchradd roedd hi ai brawd yn chwarae efo Band Biwmares a Band Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Yna aeth i Brifysgol Caerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg, a dyna lle dechreuodd Ceri ‘sgrifennu i bapur newydd y Coleg sef Gair Rhydd. Mae ganddi ddiddordeb erioed mewn newyddiaduraeth, ac yn yr ysgol bu am brofiad gwaith gyda’r North Wales Chronicle ym Mangor. Wedi ei blwyddyn gyntaf yn y Coleg aeth i weithio ar bapur newydd yn Ghana am fis a hithau ‘mond yn 19 oed.Mae Ceri wedi gweithio ar raglenni teledu am Brexit, Donald Trump a Facebook, ac yn dilyn yr ymosodiad terfysgol ym Mharis yn 2015 bu’n gweithio ar raglen yn edrych ar derfysgaeth yn Ewrop a’r achos o derfysgaeth yn Christchurch, Seland Newydd yn 2019. Bu hefyd yn gweithio ar raglen Panorama lle gofynnwyd iddi a fyddai'n fodlon mynd “undercover” i weithio mewn cartref henoed yn Llundain.
What this episode covers

NOW PLAYING
Ceri Isfryn
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
Oct 3, 2025 ·28m
Sep 16, 2025 ·29m
Sep 16, 2025 ·47m
Sep 12, 2025 ·37m
Sep 11, 2025 ·40m
Sep 10, 2025 ·40m