EPISODE · Sep 12, 2025 · 29 MIN
Dathlu Platinwm ITV
from Rhaglen Cymru · host andybmedia
Mae teledu annibynnol yn 70 oed. Dechreuwyd y rhwydwaith yn Llundain ym mis Medi 1955. Yn y bennod hon mae'r Athro Jamie Medhurst yn sôn am yr ymgyrch i dorri monopoli'r BBC wedi'r ail ryfel byd a ffurfio teledu annibynnol. Hefyd, rhan bwysig Cymro Cymraeg o Gwmgwrs wrth ffurfio'r syniad o gyfundrefn ranbarthol + rhaglenni agroriadol rhyfedd ambell i orsaf ITV. Dyma lyfr Jamie am ITV yng Nghymru: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/history-of-independent-television-in-wales Cerddoriaeth gloi: “Widespread World” gan John Dankworth, arwyddgân Redifusion rhwng 1964 a 1968. Mwy am noson gyntaf ITV: https://transdiffusion.org/2015/09/22/tonights-itv-in-1955 Unrhyw atgofion o ITV cynnar? A oeddech chi'n gwylio neu'n cymryd rhan? Cysylltwch â [email protected] Tro nesaf - ITV a Chymru ... stori a hanner. Sgandal, heriau daearyddol a gwleidyddiaeth o bob lliw a llun.
Embed this episode
NOW PLAYING
Dathlu Platinwm ITV
No transcript for this episode yet
Similar Episodes
No similar episodes found.
Similar Podcasts
No similar podcasts found.