Eleri Twynog Davies episode artwork

EPISODE · Jun 12, 2018 · 46 MIN

Eleri Twynog Davies

from Beti a'i Phobol · host BBC Radio Cymru

Mae syniad da, sy'n cydio yn nychymyg pobl, yn medru mynd yn bell iawn, a dyna sydd wedi gyrru Eleri Twynog Davies trwy gydol ei gyrfa ym myd marchnata.Mae wedi hyrwyddo gwyliau fferm i'r Bwrdd Croeso, ac arwain gwaith marchnata'r Eisteddfod mewn cyfnod pan oedd y syniad hwnnw'n un newydd. Bu hefyd yn bennaeth marchnata yn S4C, gan reoli cyllideb o £3 miliwn, a chyflwyno'r syniad o sioeau Cyw.Cafodd ei magu yn Aberteifi, ac mae'r atgofion am ei phlentyndod yn rhai hynod hapus.Pan oedd yn y chweched dosbarth, daeth hi a chriw o ferched eraill yr ysgol at ei gilydd i ffurfio'r grŵp Cwlwm, gan ryddhau sawl albwm a theithio'n helaeth.Astudiodd ddrama a Chymraeg ym Mangor, cyn symud i Guildford i ddilyn cwrs M.A. mewn twristiaeth a marchnata.Er ei bod yn rhy swil i fod yn actores ei hun, mae wrth ei bodd gefn llwyfan, ac wedi dychwelyd i fyd drama ers gadael S4C.Y syniad sy'n ei gyrru hi heddiw yw cyflwyno hanes Cymru i ddisgyblion ysgol.Sefydlodd gwmni Mewn Cymeriad, sy'n darparu sioeau un person yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol, a hefyd Gŵyl Hanes Cymru i Blant.Mae'n credu'n angerddol bod dysgu hanes eich gwlad yr un mor bwysig â dysgu ei hiaith, er mwyn creu ymdeimlad o berthyn.

Episode metadata supplied by the publisher feed · Published Jun 12, 2018

Embed this episode

NOW PLAYING

Eleri Twynog Davies

0:00 46:11

No transcript for this episode yet

We transcribe on demand. Request one and we'll notify you when it's ready — usually under 10 minutes.

No similar episodes found.

No similar podcasts found.

Frequently Asked Questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 46 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on June 12, 2018.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.
URL copied to clipboard!