Skip to content
Hac Iechyd Cymraeg episode artwork

Jul 16, 2019 26 min

Hac Iechyd Cymraeg

from Syniadau Iach Hosted by Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Sut mae defnyddio rhith realaeth (Virtual Reality) i ddysgu nyrsus? Oes modd i roi ymarferion ffisiotherapi ar Ap? Ydy hi’n bosib creu rhaglen rheoli poen i gleifion yn Gymraeg? Mae clinigwyr a gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd yn wynebu problemau fel hyn dydd ar ôl dydd ac yn aml ddim yn gwybod at bwy i droi. Yn y podlediad hwn fe fyddwn ni’n codi’r llen ar yr Hac Iechyd Cymraeg 2019 , sef ‘marathon dyfeisio’ dau ddiwrnod a gynhaliwyd yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yng Nghaerdydd, lle daeth dros gant o bobl ynghyd i greu atebion digidol neu dechnolegol i’r sialensiau hyn- yn apiau, prototeip neu syniad o gynnyrch newydd. Meddai Ifan Evans, cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru: “ Mae systemau iechyd yn llawn pobl sydd yn alluog iawn, wedi’u hyfforddi’n broffesiynol tu hwnt, ac yn aml yn edrych yn fewnol er mwyn ceisio atebion i’r heriau hynny. Ond dwi’n meddwl bod na gyfleoedd mawr i rannu hynny’n allanol gyda diwydiant, gyda phrifysgolion, a chleifion, achos yn aml iawn ma’r syniadau creadigol yn medru dod o’r sectorau eraill.” “Mae’r sesiwn hyn yn cysylltu’r pobl sydd â arian i ddatblygu projects newydd gyda phobl sydd â phroblemau a’r gallu, er mwyn creu’r dechnoleg sydd yn mynd i helpu, “ medd Siôn Charles, is-gyfarwyddwr Comisiwn Bevan oedd yn arwain y diwrnod. Y gobaith yw y bydd yr arloesi cydweithredol yma yn arwain at ganlyniadau gwell i gleifion Cymru. Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.

Episode details come from the podcast's RSS feed.

Embed this episode

Ready to play

Hac Iechyd Cymraeg

0:00 26:54

No transcript yet.

Requests help us decide what to transcribe next.

Piece of Mind: Mental Health & Psychiatry Piece of Mind: Mental Health & Psychiatry We bring you the latest on mental health research at the National Centre for Mental Health (NCMH) and the Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics at Cardiff University, plus real-life experiences of people affected by mental health problems. We would love to hear your feedback or ideas for future episodes, either comment on our latest episode, message us at [email protected] or include #POMpod in our social media posts. Darn o Feddwl: Iechyd Meddwl a Seiciatreg Rydym yn rhannu'r diweddaraf ar ymchwil iechyd meddwl yn y Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) a'r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd, a phrofiadau bywyd go iawn pobl sy'n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth neu syniadau ar gyfer penodau yn y dyfodol: naill ai rhowch sylwadau ar ein pennod ddiw IACH Medicine Jorge Gomez We bring you closer to your medical team at Fort Riley, KS. IACH Medicine Podcast addresses the questions that are meaningful to Army Families. Hear directly from the providers that deliver your care. Healthy Working Wales | Cymru Iach ar Waith Public Health Wales | Iechyd Cyhoeddus Cymru The podcast empowering employers with the knowledge and support they need to help keep the Welsh workforce healthy and in work. Geraint Hardy speaks to experts on a range of workplace health issues, relevant during the Covid 19 pandemic and beyond. Y Podlediad sy'n grymuso cyflogwyr gyda'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i helpu i gadw gweithlu Cymru yn iach ac mewn gwaith. Mae Geraint Hardy yn siarad ag arbenigwyr ar ystod o faterion iechyd yn y gweithle, sy'n berthnasol yn ystod pandemig Covid 19 a thu hwnt.

Frequently asked questions

How long is this episode of Syniadau Iach?

This episode is 26 minutes long.

When was this Syniadau Iach episode published?

This episode was published on July 16, 2019.

Can I download this Syniadau Iach episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.