Karen Wynne
from Beti a'i Phobol Hosted by BBC Radio Cymru
Yr actores a'r consuriwr Karen Wynne yw gwestai Beti a'i Phobol. Fe ddechreuodd wneud triciau ar lwyfan pan oedd hi'n 7 oed. Ei thad oedd yn ei dysgu. Roedd wrth ei bodd pan yn ysgol mynd i nosweithiau Y Gymdeithas yn Nhywyn, Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a’r Groes Goch. Roedd Anti Mair Bryncrug yn dod â chriw bach ohonynt at ei gilydd i gynnal nosweithiau llawen. Dechreuodd wneud triciau hud yn y fan honno a hefyd mewn sioeau ysgol a charnifalau. Ar ôl ysgol a choleg aeth i'r byd actio, ac fe dreuliodd bymtheg mlynedd yn portreadu un o gymeriadau Rownd a Rownd. Ond pan ddaeth hynny i ben fe drodd at fyd hud a lledrith a bellach mae'n defnyddio'r gelfyddyd honno i helpu plant i fagu hyder ac i helpu pobol sydd yn fregus yn feddyliol.
Embed this episode
No transcript yet.