Skip to content
Leisa Mererid episode artwork

Jul 13, 2025 49 min

Leisa Mererid

from Beti a'i Phobol Hosted by BBC Radio Cymru

Beti George sydd yn holi'r actores a'r hyfforddwraig yoga Leisa Mererid. Mae'n disgrifio ei phlentyntod fel hogan fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch fel un 'eidylig' ac roedd yn treulio ei hamser sbâr i gyd allan yn chwarae. Astudiodd Ddrama yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion lle enillodd radd mewn actio, cyn hyfforddi ymhellach yn Ysgol Ryngwladol Meim, Theatr a Symudiad Jacques LeCoq ym Mharis. Bu'n byw yn Lesotho am gyfnod yn gwirfoddoli mewn cartref i blant amddifad .Roedd yn aros mewn pentref bach yng nghanol unman yn y mynyddoedd. Dywed fod y profiad yma yn bendant wedi ei siapio hi fel person. Mae Leisa wedi gweithio’n helaeth ym maes Theatr a theledu. Ymddangosodd yn chwe chyfres Amdani. Yn 2002 chwaraeodd rôl Edith yn y ffilm Eldra. Yn 2002 hefyd cychywnodd ei rhan fel Joyce Jones yn y gyfres ddrama Tipyn o Stad. Bu'n gweithio hefyd gyda chwmni theatr Oily Cart, cwmni sydd yn arloesi mewn gweithio yn aml synhwyrol. Ma’ nhw yn cyfeirio at eu hunain fel pob math o theatr ar gyfer pob math o bobl. Maen nhw yn gweithio efo babanod, plant, a phobl efo anghenion dwys. Mae Leisa wedi rhyddhau dau lyfr i blant, Y Goeden Yoga yn 2019 a'r Wariar Bach yn 2021. Erbyn hyn, mae Leisa hefyd wedi cychwyn ei busnes ‘Gongoneddus’ – sydd yn cynnal sesiynau trochfa gong. Mae hi'n Fam brysur ac yn magu 3 o blant, Martha, Mabon ac Efan.

Episode details come from the podcast's RSS feed.

Embed this episode

Ready to play

Leisa Mererid

0:00 49:02

No transcript yet.

Requests help us decide what to transcribe next.

Frequently asked questions

How long is this episode of Beti a'i Phobol?

This episode is 49 minutes long.

When was this Beti a'i Phobol episode published?

This episode was published on July 13, 2025.

Can I download this Beti a'i Phobol episode?

Yes. Use the download control on the episode player to save the publisher-provided media file.